Ar Ddydd San Ffolant, mae ein data'n taflu goleuni ar arferion cwrdd â chariad ar-lein y DU.
Dangosodd Adroddiad Ein Gwlad Ar-lein i fwy nag un o bob 10 oedolyn ar-lein yn y DU ddefnyddio gwasanaethau cwrdd â chariad ar-lein*, gyda mwy o ddynion na menywod yn chwilio am gysylltiadau (61% o gymharu â 39%).
Tinder yw'r gwasanaeth cwrdd â chariad sy'n cyrraedd ymhellach yn y DU, gan gael ei ddefnyddio gan 2.49m o oedolion. Daeth Hinge yn ail gan gyrraedd 1.51m o oedolion, ac yna Bumble (1.44m), Grindr (924k) a Plenty of Fish (625k). Mae llawer o bobl yn defnyddio mwy nag un gwasanaeth cwrdd â chariad.
Mae defnyddwyr Grindr yn treulio bron i saith awr yn tapio ar yr ap
Er mai Tinder oedd yr ap cwrdd â chariad mwyaf poblogaidd ar sail nifer y defnyddwyr, clociodd defnyddiwr Grindr y cyfnod amser syfrdanol o bron i saith awr (6 awr 49 munud) ar gyfartaledd yn ystod mis ar y gwasanaeth. Dilynir hyn gan ddefnyddwyr Badoo ar dair awr a 42 munud ac yna Bumble ar ddwy awr a 22 munud. O ran Tinder, dim ond awr a 13 munud a dreuliwyd ar yr ap.
Young hearts Hinge, silver foxes Grind(r)
Mae un o bob pump o'r rhai ar-lein rhwng 25 a 34 oed yn defnyddio gwasanaethau cwrdd â chariad, yn fwy nag unrhyw grŵp oedran arall, wedi'i ddilyn yn agos gan bobl ifanc 18 i 24 oed ar-lein (17%).
Hinge yw’r ap mwyaf poblogaidd gydag oedolion iau – mae tri chwarter (73%) o’i ddefnyddwyr yn 18-34 oed. Mae dros hanner y defnyddwyr Plenty of Fish, Badoo, a Happn rhwng 35 a 54 oed, ac nid yw'n syndod bod gan OurTime - gwasanaeth cwrdd â chariad i bobl dros 50 oed - ddefnyddwyr dros 55 oed yn bennaf ar 63%, er mai Grindr yw'r gwasanaeth cwrdd â chariad mwyaf poblogaidd ar gyfer y grŵp oedran hwn yn gyffredinol.
Ac os nad oes gennych ddêt Ddydd San Ffolant yma, neu os ydych chi'n aros i mewn…
Mae bron i dri o bob 10 oedolyn ar-lein yn y DU yn mynd ar wasanaethau cynnwys pornograffig, ac mae bron i dri chwarter yr ymwelwyr yn ddynion. Ar gyfartaledd, mae ymwelwyr â gwefannau pornograffi'n treulio awr a 56 munud y mis ar y gwasanaethau hyn.
Yn ystod oriau gwaith yw'r amser mwyaf poblogaidd o'r dydd i ymweld â gwefannau pornograffi (9am-5:29pm), gan gyfrif am un o bob pump o oedolion ar-lein. Yn ystod y nos hyd at frecwast (canol nos-8:59am, 18%) yw'r ail amser mwyaf poblogaidd ac yna gyda'r nos (8am-11:59pm, 17%).
Pornhub yw'r wefan pornograffi fwyaf poblogaidd yn y DU, gydag 8.4m o oedolion yn ymweld â'r wefan, ac yna Chaturbate (4.2m) ac Xvideos (4m).
*Mae data’n cynrychioli oedolion ar-lein y DU sy’n ymweld â gwasanaethau cwrdd â chariad ar-lein a gwasanaethau cynnwys pornograffig ym mis Mai 2023 yn unig. Ffynhonnell: Gwasanaeth Mesur Cynulleidfaoedd Ar-lein Ipsos iris, oedran: 18 oed a hyn, y DU.