A close-up photo of a 'settings and privacy' screen on a mobile phone

Llai na hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn cael rheolaethau cynnwys yn effeithiol

Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 28 Chwefror 2024

Dywedodd bron i hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiodd reolaethau cynnwys na wnaeth eu profiad newid, tra y dywedodd rhai ei fod wedi gwaethygu (2%). Dim ond 38% a ddywedodd fod defnyddio rheolaethau cynnwys wedi gwella'u profiad ar-lein.

Platform-T-and-Cs-graphics_Content-controls-header-CYM

Mae galluogi pobl i fynnu rheolaeth ar eu profiadau ar-lein yn rhan annatod o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a diogelwch ar-lein. Mae gan gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos reolaethau cynnwys sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis y cynnwys a welant. Mae ymchwil newydd gan dimau Mewnwelediad Ymddygiadol ac Ymchwil a Gwybodaeth Ofcom, fel rhan o'n gwaith ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, yn taflu goleuni ar brofiadau pobl.

Dywedodd tua chwarter y defnyddwyr (26%) eu bod wedi defnyddio rheolaethau cynnwys o leiaf unwaith. O'r rhain, y prif resymau oedd:

  • alinio cynnwys â diddordebau a dewisiadau (36%)
  • amddiffyn eu hunain rhag gweld cynnwys cynhyrfus neu niweidiol (35%)
  • eu bod wedi gweld rhywbeth niweidiol neu ofidus (21%)

Serch hynny, ar ôl defnyddio rheolaethau cynnwys, dim ond  38% a ddywedodd fod eu profiad wedi gwella, tra y dywedodd 44% fod eu profiad heb ei newid, dywedodd 2% ei fod wedi gwaethygu a dywedodd 16% nad oeddent yn gwybod.

Yn ôl i'r brig