Appy Valentines web

Dydd San Ffolant APus: datgelu’r patrymau wrth ddod o hyd i gariad ar-lein

Cyhoeddwyd: 14 Chwefror 2025

Roedd ein hadroddiad Ein Gwlad Ar-lein 2024 wedi dangos bod un oedolyn o bob deg (4.9 miliwn) wedi defnyddio ap cwrdd â chariad y llynedd, ond bod llai o bobl yn sweipio i ddod o hyd i gariad, gyda Tinder yn colli 600,000 (5%) o ddefnyddwyr, a Bumble Inc. yn colli 300,000.

Tinder yw’r ap sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf, gyda 1.9 miliwn o bobl yn gobeithio am gariad arno’r llynedd. Hinge oedd yn yr ail safle, gyda 1.4 miliwn o oedolion yn ei ddefnyddio, ac yna Bumble (1.4 miliwn), Grindr (913k) a Badoo (521k). Mae’r rhan fwyaf yn defnyddio mwy nag un ap cwrdd â chariad.

Ciwpid yn saethu am y galon

Roedd dros ddwy filiwn o bobl wedi sweipio i’r dde ar Ddydd San Ffolant y llynedd, gan dreulio 19 munud ar gyfartaledd yn chwilio am gariad ar y diwrnod mawr. Roedd dros hanner (55%) yr ymwelwyr yn 18-34 oed, ac roedd y rhan fwyaf o’r holl oedolion a oedd yn ymweld ar y diwrnod hwn yn ddynion (61% yn ddynion o’i gymharu â 39% yn fenywod).

Y pum gwasanaeth a gafodd eu defnyddio amlaf ar 14 Chwefror oedd Tinder (711k), Hinge (669k), Bumble (448k), Grindr (389k) a Plenty of Fish (170k).

Mwy o ddynion ar fwy nag un ap

Mae apiau cwrdd â chariad yn llawer mwy poblogaidd ymysg dynion na menywod (65% o’i gymharu â 35%), a Hinge oedd yr unig wasanaeth yn y 10 uchaf lle roedd mwy o fenywod na dynion (53% o’i gymharu â 47%).

Roedd bron i chwech o bob deg o ymwelwyr Bumble (57%), Hinge (56%) a Plenty of Fish (54%) hefyd wedi ymweld â Tinder. Roedd 53% o ymwelwyr Bumble a 41% o ymwelwyr Tinder hefyd wedi defnyddio Hinge yn ystod y mis, ac roedd y rhan fwyaf (82%) o’r rheini a ymwelodd â Scruff wedi ymweld â Grindr hefyd.

Er mai dyma’r ap mwyaf poblogaidd, dim ond awr roedd pobl yn ei dreulio’n chwilio am gariad ar Tinder ym mis Mai 2024, o’i gymharu â dwy awr a hanner ar Hinge a dwy awr ar Bumble. Mae pobl yn treulio’r mwyaf o amser ar Grindr, gyda defnyddwyr yn treulio saith awr ar yr ap.

Pobl hŷn yn pwyso a mesur potensial

Er bod cyfran fach (6%,) o bobl 55-64 oed yn ymweld ag ap cwrdd â chariad, treuliodd y rheini 5 awr a 43 munud yno ar gyfartaledd – yr amser hiraf ymysg yr holl grwpiau oedran.

A throi at Gen Z, roedd un o bob pump o bobl ifanc 18- i 24-oed wedi defnyddio ap cwrdd â chariad ym mis Mai 2024, y cyrhaeddiad uchaf ymysg unrhyw grŵp oedran oedolion. Pobl 25-34 oed oedd â’r ail gyrhaeddiad uchaf, gyda 17% (1.5m) yn ymweld ag o leiaf un gwasanaeth cwrdd â chariad yn ystod y mis.

Roedd traean yn ymweld â gwasanaethau pornograffig

Roedd tri oedolyn o bob deg yn y DU wedi defnyddio gwasanaethau cynnwys pornograffig ym mis Mai 2024. Roedd dynion yn dal yn llawer mwy tebygol o ymweld â gwasanaeth cynnwys pornograffig, gan gynrychioli 72% o’r gynulleidfa a threulio 1 awr 44 munud ar gyfartaledd ar safleoedd oedolion, o’i gymharu ag awr i fenywod.

Pobl yng Ngogledd Iwerddon oedd y mwyaf tebygol o ymweld â safle pornograffig (34%,), ac yna Cymru (32%), yr Alban (30%) a Lloegr (29%).

Pornhub oedd y gwasanaeth mwyaf poblogaidd o hyd, gyda 18% o oedolion ar-lein y DU yn ymweld ag ef am 50 munud ar gyfartaledd. Roedd y gyfran fwyaf o’i chynulleidfa oedolion yn bobl ifanc rhwng 25 a 34 oed (31%) a’r cyrhaeddiad yn y grŵp oedran ar-lein hwn oedd yr uchaf (30%) o unrhyw grŵp oedran.

Yn ôl i'r brig