Mae’n Wythnos Mynd Ar-lein, sef yr ymgyrch cynhwysiant digidol fwyaf yn y DU, a’i nod yw helpu pobl i roi hwb i’w hyder a’u sgiliau digidol.
Sefydlwyd y fenter am y tro cyntaf yn 2007 ac mae’n cael ei rhedeg y Good Things Foundation. Eleni, bydd 900 o ddigwyddiadau cymunedol am ddim yn cael eu cynnal ar hyd a lled y DU, gan helpu pobl i ddatblygu sgiliau sylfaenol a dysgu sut i gyflawni amrywiaeth o dasgau ar-lein.
Mae Ofcom yn un o gefnogwyr swyddogol Wythnos Mynd Ar-lein. Mae ein hymchwil ein hunain yn dangos, er bod bron pob oedolyn yn y DU ar-lein, nid oes gan leiafrif - 7% - fynediad i'r rhyngrwyd gartref. Hefyd, mae bron i un oedolyn o bob pump yn dibynnu ar ffôn clyfar i fynd ar-lein, ac mae’r ffigwr hwnnw’n codi i oddeutu tri o bob deg o’r rhai sydd mewn aelwydydd incwm isel.
Ymysg y rheini sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd gartref, dywedodd chwarter y bobl fod cost yn ffactor yn hyn o beth.
Mae cyfran y bobl sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd gartref hyd yn oed yn uwch ymysg y rheini sy’n 65 oed neu’n hŷn, gyda bron i un o bob pump o bobl yn y grŵp oedran hwn yn methu mynd ar-lein.
Gwaith Ofcom yn y maes hwn
Mae Ofcom yn gweithio gyda sefydliadau ar hyd a lled y DU i helpu pobl i fynd ar-lein, ac i wella eu sgiliau a’u hyder wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Yn dilyn prosiect 14 mis diweddar, fe wnaethom gomisiynu 13 o sefydliadau i helpu amrywiaeth eang o grwpiau drwy wahanol gynlluniau, gyda’r nod o wella eu mynediad at dechnoleg a’u sgiliau o ran ei defnyddio.
Llwyddodd y prosiectau i gyrraedd 2,717 o bobl ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn.
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n awyddus i fynd ar-lein?
I rywun sy’n awyddus i fynd ar-lein am y tro cyntaf, mae ychydig o bethau i’w hystyried.
- Sut i ddod o hyd i’r darparwr a’r pecyn mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion. Mae ein canllaw fideo yn nodi rhai o’r pethau y mae angen meddwl amdanynt wrth chwilio am becyn band eang.
- I bobl ar incwm is, gallai tariff band eang cymdeithasol fod yn opsiwn. Pecynnau rhatach ar gyfer pobl sy’n cael budd-daliadau penodol yw’r rhain. Ewch i ddysgu mwy am bwy sy'n gymwys.
- Ar ôl i chi fynd ar-lein, sut mae manteisio i’r eithaf ar eich cysylltiad. Tarwch olwg ar ein hawgrymiadau ar gyfer gwneud y gorau o’ch cysylltiad band eang yn y cartref.
- Os yw rhywun yn mynd ar-lein am y tro cyntaf, mae’n dda bod yn ymwybodol o rai o’r risgiau. Dysgwch sut gall defnyddwyr y rhyngrwyd ddiogelu eu hunain rhag twyll a sgamiau cyffredin ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Mynd Ar-lein ar gael ar wefan Good Things Foundation.