A mobile phone screen with app icons

Deall dylanwad cyfryngau cymdeithasol fel pyrth i newyddion

Cyhoeddwyd: 25 Mawrth 2024

Mae gan gyfryngwyr ar-lein, fel cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio a chydgrynhowyr ar-lein eraill ddylanwad arwyddocaol ar y storïau newyddion y mae pobl yn eu gweld, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom.

Mae bron i ddwy ran o dair (64%) o oedolion y DU yn defnyddio cyfryngwyr ar-lein i gyrchu newyddion, a Meta – y cwmni sy’n berchen ar Facebook ac Instagram – yw’r drydedd ffynhonnell fwyaf o newyddion yn y DU ar ôl y BBC ac ITV. Mae 71% o bobl ifanc 16-24 oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion, ac nid yw’n ymddangos bod hyn yn newid wrth iddynt fynd yn hŷn

Gan adeiladu ar ein sylfaen dystiolaeth bresennol, bu i ni gynnal cyfres o astudiaethau i archwilio dylanwad cyfryngwyr ar-lein ar sut mae newyddion ar-lein yn cael ei guradu a'i gyflwyno, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gyfryngau cymdeithasol.

%

o'r rhai 16-24 oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf

Gan ddefnyddio technoleg olrhain llygaid flaengar, gwelsom fod safle cynnwys newyddion mewn ffrwd cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn gwylio, yn darllen ac yn ymgysylltu â chynnwys newyddion. Roedd eitemau newyddion ar frig y ffrwd tua 4.5 gwaith yn fwy tebygol o gael eu gweld na'r rhai ar y gwaelod, ac yn saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu cofio.

Er bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn amlygu pobl i lawer o wahanol allfeydd newyddion, mae ein dadansoddiad hefyd yn dangos eu bod yn tueddu i wasanaethu ystod gyfyngach o bynciau nag y byddai pobl yn dod ar eu traws fel arall ar wefannau newyddion traddodiadol. Gwyddom hefyd o waith ymchwil sy’n bodoli eisoes fod pobl sy’n cael eu newyddion drwy’r cyfryngau cymdeithasol o bosibl yn gweld llai o amrywiaeth o safbwyntiau, yn ogystal â chynnwys mwy pegynol a ffug, sy’n tueddu i ysgogi ymgysylltiad uchel ar ran defnyddwyr.

Awgryma tystiolaeth hefyd y gall cymhellion i gadw defnyddwyr yn y 'modd sgrolio awtomatig' fod â goblygiadau o ran sut mae pobl yn cyrchu ac yn defnyddio newyddion. Mae astudiaethau'n awgrymu pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau 'awtomatig', bod eu barn yn tueddu i fod yn fwy tueddol a gall systemau argymell sydd wedi'u hyfforddi ar ddewisiadau awtomatig fwyhau'r tueddiadau hynny.

Gwnaethom weld hefyd bod gan y rhai sy'n defnyddio cyfryngwyr ar-lein ddealltwriaeth gyfyngedig yn gyffredinol o'r rôl y maent yn ei chwarae wrth guradu'r newyddion sy'n ymddangos ar eu ffrwd. At hynny, dangosodd ein hymchwil fod gwneud newidiadau pwrpasol i ffrydiau newyddion pobl ar gyfryngau cymdeithasol yn dasg gymhleth, ac nid oedd cyfranogwyr yn ystyried bod yr offer sy'n galluogi defnyddwyr i reoli'r cynnwys y maent yn ei weld yn ddigon hawdd ei ddefnyddio.

Y camau nesaf

Bydd canfyddiadau heddiw yn helpu llywio adolygiad Ofcom o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, a fydd, ymhlith pethau eraill, yn ystyried rôl darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mewn darparu newyddion cywir, diduedd a dibynadwy a sut y gellir cynnal hyn.

Bydd hefyd yn cyfeirio ein hasesiad parhaus o’r risgiau posibl a berir gan gyfryngwyr ar-lein a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys AI Cynhyrchiol, sy’n amharu ar y ffordd y caiff newyddion ei greu, ei wirio, ei ddosbarthu a’i ddefnyddio.

Yn ôl i'r brig