Mae'r ymchwil hon yn archwilio sut y gall cyfryngwyr ar-lein, yn enwedig cyfryngau cymdeithasol, ddylanwadu ar y dirwedd newyddion bresennol.
Mae cyfryngwyr ar-lein - fel peiriannau chwilio, gwefannau cyfryngau cymdeithasol neu apiau, a chydgrynhowyr newyddion - yn dylanwadu'n sylweddol ar sut rydym yn darllen newyddion ar-lein. Ynghyd â thechnoleg sy'n dod i'r amlwg fel AI cynhyrchiol, mae'r gwasanaethau hyn yn amharu ar y ffordd yr ydym yn creu, gwirio, dosbarthu ac yn cyrchu newyddion.
Gan adeiladu ar ein sylfaen dystiolaeth bresennol, cynhaliodd Ofcom dair astudiaeth newydd i archwilio dylanwad cyfryngwyr ar-lein ar sut mae newyddion ar-lein yn cael ei guradu a'i gyflwyno, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym yn canolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol yn benodol.
Mae ein hadroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r astudiaethau hyn a mewnwelediadau o lenyddiaeth academaidd newydd.
Yr hyn a welsom, ar gip
- Mae safle cynnwys newyddion mewn ffrwd cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn gwylio, yn darllen ac yn ymgysylltu â chynnwys newyddion.
- Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn amlygu pobl i lawer o wahanol allfeydd newyddion. Fodd bynnag, maent yn tueddu i'w hamlygu i ystod gulach o bynciau newyddion nag y byddent efallai'n dod ar eu traws ar wefan newyddion draddodiadol.
- Mae gan bobl reolaeth gyfyngedig dros eu ffrydiau newyddion cyfryngau cymdeithasol ac mae ceisio dylunio ymyriadau i wella ehangder ac ansawdd y newyddion a ddefnyddir ar gyfryngau cymdeithasol yn dasg gymhleth.
Ymchwil ategol
Mae ein hadroddiad wedi’i lywio gan ystod o dystiolaeth, gan gynnwys ymchwil newydd:
Plwraliaeth y cyfryngau ar-lein: sylw i newyddion ar gyfryngau cymdeithasol (Atodiad 1)
Comisiynodd Ofcom Lumen Research i gynnal arbrawf ar-lein a ddefnyddiodd dechnoleg olrhain llygaid i astudio’r sylw a roddir i eitemau newyddion mewn ffrwd cyfryngau cymdeithasol.
Plwraliaeth y cyfryngau ar-lein: sylw i newyddion ar gyfryngau cymdeithasol (PDF, 826.3 KB) (Saesneg yn unig)
Cyfryngwyr ar-lein ac amrywiaeth y cynnwys newyddion (Atodiad 2)
Mae'r ymchwil hon gan Ofcom yn archwilio arlwy newyddion pobl wrth ddefnyddio cyfryngwyr ar-lein a sut mae hyn yn cymharu â phobl sy'n mynd yn uniongyrchol i wefannau newyddion. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio techneg newydd sy'n edrych yn uniongyrchol ar erthyglau newyddion unigol y mae pobl wedi'u darllen i nodi'r pynciau sy'n cael sylw yn eu harlwy newyddion gan ddefnyddio model iaith mawr.
Cyfryngwyr ar-lein ac amrywiaeth cynnwys newyddion (PDF, 1009.8 KB) (Saesneg yn unig)
Ymchwil ansoddol i newyddion ar-lein (Atodiad 3)
Comisiynodd Ofcom Ipsos i gynnal yr astudiaeth ansoddol hon, a gyfunodd gyfweliadau ansoddol ag arsylwadau goddefol i archwilio sut y gwnaeth (neu na wnaeth) ymddygiadau defnyddwyr newid mewn ymateb i wahanol ymyriadau. Profodd yr astudiaeth rai ymyriadau posibl a allai, yn ôl y llenyddiaeth bresennol, fod wedi cael effaith gadarnhaol ar arlwy newyddion pobl.
Ymchwil ansoddol newyddion ar-lein (PDF, 4.2 MB) (Saesneg yn unig)