Rhoddwyd y rheolau perchnogaeth cyfryngau ar waith gan Senedd y DU i ddiogelu budd y cyhoedd drwy hyrwyddo lluosogrwydd yn y diwydiant teledu, radio a phapurau newydd. Er budd democratiaeth, nod y rheolau hyn yw diogelu lluosogrwydd safbwyntiau, rhoi mynediad i ddinasyddion at amrywiaeth o ffynonellau newyddion, gwybodaeth a barn, ac atal unrhyw berchennog cyfryngau unigol neu fathau penodol o berchnogion cyfryngau rhag cael dylanwad amhriodol.
Mae gan Ofcom ddyletswydd statudol i sicrhau a chynnal lluosogrwydd digonol o ddarparwyr gwasanaethau teledu a radio gwahanol. Mae gennym ddyletswydd hefyd, bob tair blynedd o leiaf, i adolygu gweithrediad y rheolau perchnogaeth cyfryngau ac adrodd i’r Ysgrifennydd Gwladol ar ein casgliadau, gan gynnwys cyflwyno argymhellion ynghylch a ddylai’r Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio unrhyw rai o’i bwerau penodol i newid y rheolau.
Fe wnaethom gyhoeddi ein hadolygiad diwethaf ym mis Tachwedd 2021 ar ôl cynnal ymgynghoriad helaeth a chyflwyno argymhellion ar gyfer newid y rheolau presennol. Rydym nawr yn cyhoeddi ein seithfed adroddiad ar berfformiad ein dyletswyddau, sydd ar gael isod (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Yn yr adolygiad hwn, yng nghyd-destun y newidiadau parhaus yn y farchnad, rydym ni’n ategu bod angen cyflwyno’r newidiadau a argymhellwyd yn flaenorol i’r rheolau perchnogaeth cyfryngau heb gynnig unrhyw argymhellion newydd.
Yn benodol, rydym ni’n ategu ein hawgrym o Adroddiad 2021 y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio ei phwerau i:
- ehangu cwmpas y fframwaith presennol ar gyfer Prawf Budd y Cyhoedd o’r Cyfryngau y tu hwnt i ddarlledwyr a phapurau newydd print er mwyn cynnwys yr ystod ehangach o gyhoeddwyr newyddion ar-lein. Rydym ni’n croesawu’r ymgynghoriad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth sy’n amlinellu’r cynlluniau i ehangu’r system i ddelio â chwmnïau cyfryngau yn uno sy’n cyd-fynd yn fras â’r argymhelliad hwn. Gan fod yr ymgynghoriad hwn yn dal i redeg, byddwn yn parhau i fonitro’r datblygiadau hyn; a
- diddymu categorïau penodol o’r Cyfyngiadau i Berson wedi’i Anghymhwyso, gan gynnwys y gwaharddiad disgresiynol ar gyfer cyrff crefyddol, y gwaharddiad ar asiantaethau hysbysebu a’r gwaharddiad ar gyrff sy’n cael arian cyhoeddus.