A person pointing a remote control at a television

Adolygiad o gyfryngau lleol yn y DU

Cyhoeddwyd: 19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Heddiw mae Ofcom wedi nodi manylion yr ystod o dystiolaeth y bydd yn echywain er mwyn cyfeirio ei hadolygiad o gyfryngau lleol yn y DU.

Wrth i fwy o bobl fynd ar-lein am eu newyddion a gwybodaeth leol, mae darparwyr cyfryngau lleol – gan gynnwys y BBC – yn gorfod addasu eu harlwy lleol y tu hwnt i ddarlledu a phrint traddodiadol. Felly mae Ofcom yn edrych yn fanylach ar sut mae cyfryngau lleol yn esblygu a'r hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei werthfawrogi am wasanaethau lleol a'r hyn y maent ei angen ganddynt.

Bydd hyn yn cynnwys cynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr o bob rhan o’r DU yn ystod Gwanwyn 2024 ac ymgysylltu â diwydiant a sefydliadau eraill dros y misoedd i ddod. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio ein penderfyniadau rheoleiddio o ran – ymhlith pethau eraill – y newidiadau y mae’r BBC yn eu gwneud i’w wasanaethau lleol.

Yr hyn y mae ein hymchwil gychwynnol wedi'i ddarganfod

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gomisiynu ymchwil i’r defnydd o newyddion a chyfryngau lleol ar draws y DU. Canfu hwn fod 92% o oedolion yn defnyddio newyddion neu wybodaeth leol, gan gynnwys ar gyfer y tywydd a thraffig.

Dangosodd ein hymchwil mai’r ffordd fwyaf cyffredin o gael gafael ar newyddion lleol oedd ar-lein (89%), gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau darlledwyr a phapurau newydd, ac yna teledu (53%), radio (34%) a phapurau newydd printiedig (22%).

Dangosodd ein hymchwil hefyd fod yn well gan bobl lwyfannau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o newyddion lleol. Yn gyffredinol, defnyddir teledu a radio i gael newyddion am ardaloedd daearyddol ehangach, megis newyddion am y 'wlad neu'r rhanbarth' neu'r 'sir'.  Mae papurau newydd lleol (printiedig ac ar-lein) a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fel arfer i gael newyddion am ardaloedd daearyddol llai fel y 'cylch, tref neu ddinas'. Defnyddir apiau negeseuon hyperleol yn fwy cyffredin i gael newyddion lleol am gymdogaethau neu strydoedd pobl.

Y camau nesaf

Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cychwynnol ym mis Mai 2024 yn nodi'r canfyddiadau cychwynnol o'n hymchwil ymhlith defnyddwyr ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, a byddwn hefyd yn rhoi diweddariad am unrhyw waith ychwanegol yr ydym yn ei wneud.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad terfynol ym mis Tachwedd 2024. Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio adroddiadau blynyddol dilynol ar y BBC i ddiweddaru ein barn ar sefyllfa'r BBC yn y sectorau newyddion lleol, yn ogystal â'r sectorau sain a chlyweled.

Yn ôl i'r brig