Prawf lles y cyhoedd ar y sefyllfa bosibl o uno mewn perthynas â Telegraph Media Group

Cyhoeddwyd: 1 Rhagfyr 2023
Ymgynghori yn cau: 13 Rhagfyr 2023
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae Ofcom wedi darparu ei chyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mater iddi hi yw cyhoeddi ein cyngor a phenderfynu ar unrhyw gamau sydd i'w cymryd.

Ar 26 Ionawr 2024, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi Hysbysiad Ymyriad Er Budd y Cyhoedd (PIIN) yn ymwneud â’r sefyllfa bosibl o uno sy’n deillio o fwriad RB Investco Limited i brynu’r Telegraph Media Group Limited.

Ar yr un pryd, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at Ofcom yn rhoi gwybod i ni ei bod yn darparu estyniad ar gyfer adrodd ar ei PIIN 30 Tachwedd 2023 mewn perthynas â RedBird IMI Media Joint Venture LLC yn caffael Telegraph Media Group Limited.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn i Ofcom adrodd yn ôl ar y ddau erbyn 9am ar 11 Mawrth 2024.

Caiff rhanddeiliaid sy’n dymuno darparu tystiolaeth ychwanegol sy’n berthnasol i PIIN 26 Ionawr wneud hynny erbyn 6 Chwefror 2024 fan bellaf. Nid oes angen ailgyflwyno tystiolaeth a ddarparwyd i ni eisoes pan wnaethom wahodd sylwadau ar 1 Rhagfyr 2023.

Fe wnaethom gyhoeddi’r canllawiau blaenorol ar PIIN 30 Tachwedd ar 1 Rhagfyr 2023. Dylid darllen y canllawiau hyn nawr fel pe baent hefyd yn cyfeirio at PIIN 26 Ionawr a’r dyddiadau cau diwygiedig.

Ar 30 Tachwedd 2023, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Hysbysiad Ymyriad er Lles y Cyhoedd o dan adran 42(2) o Ddeddf Menter 2002, mewn perthynas â'r sefyllfa bosibl o uno mewn cysylltiad â Telegraph Media Group.

Mae'n ofynnol yn awr i Ofcom adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 44A o'r Ddeddf. Mae'n rhaid i ni gwblhau ein hymchwiliad a'n hadroddiad erbyn hanner nos ar ddiwedd 26 Ionawr 2024.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi:

  • gwahoddiad i roi sylwadau ar y prawf budd y cyhoedd ynglŷn â'r sefyllfa bosibl o uno; a
  • nodyn sy'n esbonio'r broses a'r amserlen ar gyfer paratoi ein hadroddiad.

Rydym yn gofyn am ymatebion erbyn 13 Rhagfyr 2023.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Public Interest Test Team 2023
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig