Mae'r cyfryngau lleol yn chwarae rôl bwysig ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion ar draws y DU. Mae'n rhoi newyddion a gwybodaeth i gynulleidfaoedd am yr hyn sy'n digwydd yn eu hardaloedd lleol, yn helpu i adeiladu cydlyniant cymdeithasol ac ymgysylltiad ymhlith cymunedau ac yn cefnogi democratiaeth leol.
Ond wrth i fwy o bobl droi ar-lein am newyddion a gwybodaeth leol, mae darparwyr cyfryngau lleol, gan gynnwys y BBC, yn gorfod addasu eu cynigion lleol y tu hwnt i ddarlledu a phrint traddodiadol.
Mae Ofcom yn adolygu darpariaeth, rôl a gwerth cyfryngau lleol yn y DU, gan gynnwys sut mae darparwyr yn addasu i ymddygiad newidiol cynulleidfaoedd. Fe wnaethom gyhoeddi cylch gorchwyl ym mis Rhagfyr 2023 a oedd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ein hadolygiad.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol ein hadolygiad, gan roi cipolwg ar y cyfryngau lleol sydd ar gael, yn enwedig newyddion lleol, ar draws y Deyrnas Unedig, a rhoi gwybodaeth am sut mae pobl yn eu defnyddio. Rydym yn cynnwys canfyddiadau o’n hymchwil defnyddwyr ansoddol newydd i gyfryngau lleol yn y Deyrnas Unedig a’r themâu allweddol sydd wedi dod i’r amlwg o’n trafodaethau â rhanddeiliaid. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith y byddwn yn ei wneud yn ystod ail gam yr adolygiad, cyn ein hadroddiad terfynol ym mis Tachwedd.
Adolygiad o’r cyfryngau lleol yn y DU Gorffennaf 2024 (PDF, 1,538 KB)
Noder bod y dogfennau isod yn Saesneg.
Qualitative consumer research report July 2024 (PDF, 1,810 KB)
Teitl y ddogfen | Dyddiad diweddaru diwethaf |
---|---|
Adolygiad o’r cyfryngau lleol yn y DU: cylch gorchwyl | 19 Rhagfyr 2023 |
Local Media Survey (PDF, 611.0 KB) | 19 Rhagfyr 2023 |
Local Media Survey: data tables (XLSX, 4.0 MB) | 19 Rhagfyr 2023 |
Diweddariad 22 Ionawr 2024 – Adolygiad hanner ffordd drwy dymor y BBC
Mae'r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi cyhoeddi ei hadolygiad hanner ffordd drwy dymor y BBC. Mae'n argymell bod Ofcom yn cyhoeddi ein barn ar sefyllfa'r BBC yn y sectorau newyddion lleol, ac yn nodi ein hymagwedd at ystyried effaith gystadleuaeth newidiadau i wasanaethau newyddion lleol y BBC yn y dyfodol.
Byddwn yn ystyried sefyllfa'r BBC yn y sector newyddion lleol fel rhan o'n hadolygiad o gyfryngau lleol. Lle bo'n briodol, byddwn yn defnyddio ein hadroddiadau blynyddol i ddiweddaru ein barn ar sefyllfa'r BBC yn y sectorau gwahanol.