Pecyn cymorth gwerthuso ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Cyhoeddwyd: 10 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 11 Ionawr 2024

Mae ein Pecyn Cymorth Gwerthuso yn ganllaw ‘sut i’ ar gyfer cynllunio a chynnal gwerthusiad o ymyriad ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Caiff y canllaw ei ategu gan ddwy lyfrgell ar-lein y gellir eu chwilio:

Aethom ati i greu’r pecyn cymorth hwn oherwydd ein bod am rymuso’r rheini sy’n cynnal ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i werthuso’u prosiectau eu hunain, a defnyddio a rhannu’r canfyddiadau hynny i gefnogi darparu mentrau mwy effeithiol yn y dyfodol.

Dyma ail fersiwn y pecyn cymorth ers ei gyhoeddi gyntaf ym mis Chwefror 2023. Mae’r fersiwn hwn wedi’i ddiweddaru, sydd wedi’i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023, yn seiliedig ar argymhellion adolygiad a gomisiynwyd gennym ym mis Mawrth 2023. Gallwch weld yr adolygiad hwn isod.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch ni yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk

Llyfrgell mentrau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Mae'r llyfrgell hon yn darparu gwybodaeth am fentrau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a allai fod o ddiddordeb i sefydliadau sy'n chwilio'n fwy cyffredinol am fewnwelediad i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Er mai ein nod yw gwneud y llyfrgell yn adnodd defnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, noder nad yw cael ei gynnwys yn y llyfrgell hon yn awgrymu bod Ofcom yn cymeradwyo menter neu sefydliad.

Gyrrwch e-bost atom yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk os dymunwch enwebu sefydliad neu fenter i gael ei ystyried i'w gynnwys yn y gronfa ddata, ac am y meini prawf cynnwys. Byddwn ond yn cynnwys rhaglenni yr ystyriwn eu bod yn berthnasol.

Llyfrgell ymchwil ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Mae'r llyfrgell hon yn darparu gwybodaeth am adroddiadau ymchwil sydd ar gael ar-lein yn gyhoeddus ac a allai fod o ddiddordeb i sefydliadau sy'n chwilio am gymaryddion ymddygiad, neu fewnwelediadau agweddol i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Er mai ein nod yw gwneud y llyfrgell yn adnodd defnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, noder nad yw cael ei chynnwys yn y llyfrgell hon yn awgrymu bod Ofcom yn cymeradwyo'r ymchwil neu ei chanfyddiadau.

Cysylltwch â ni yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk os dymunwch gyflwyno ymchwil i gael ei hystyried i'w chynnwys, ac am y meini prawf cynnwys. Byddwn ond yn cynnwys ymchwil mynediad agored a gyhoeddwyd ers 2018 sydd ar gael yn gyhoeddus, yr ystyriwn ei bod yn berthnasol.

Yn ôl i'r brig