Cyhoeddwyd:
16 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd diwethaf:
24 Chwefror 2025
Mae ein gweithgor Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso yn cynnwys academyddion ac arbenigwyr sydd â diddordeb cyffredin mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag ymchwilio a gwerthuso ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Mae’r grŵp yn cefnogi’r rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau i gyflawni ei blaenoriaethau strategol ar draws y meysydd ymchwil, tystiolaeth a gwerthuso, fel y nodir yn ein strategaeth tair blynedd, Gweledigaeth Gadarnhaol ar gyfer Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau.
Mae’r grŵp yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae’r aelodaeth yn para am gyfnod y strategaeth (tan fis Medi 2027). Penodwyd y grŵp ym mis Chwefror 2025.
Pwrpas y grŵp yw:
- Meithrin gwell dealltwriaeth ynghylch ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a ffordd well o fesur hynny, gan godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn ehangach yn y DU.
- Rhoi cipolwg arbenigol ar arferion gorau a datblygiadau ym maes gwerthuso.
- Deall rhagor am ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran cyflawni ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn sectorau perthnasol.
Aelodau
- Louise Baxter - Prif Swyddog Gweithredol, Consumer Friend; Pennaeth y Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol
- Kara Brisson-Boivin - Cyfarwyddwr Ymchwil, MediaSmarts, Canada
- Eileen Culloty - Athro Cynorthwyol, Prifysgol Dinas Dulyn
- Richard Graham - Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
- Michaela Gummerum - Athro/Darllenydd Cyswllt, Prifysgol Warwick
- Sonia Livingstone - Athro Seicoleg Gymdeithasol, Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain
- Cliff Manning - Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu, Parent Zone
- Esperanza Miyake - Cymrawd y Canghellor ac Uwch-ddarlithydd Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Strathclyde
- Iain MacRury - Athro, Prifysgol Stirling
- Andrew McStay - Athro Technoleg a Chymdeithas, Prifysgol Bangor
- Irene Picton - Uwch Reolwr Ymchwil, Yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol
- Gianfranco Polizzi - Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Lerpwl
- Raffaello Rossi - Uwch-ddarlithydd Marchnata, Prifysgol Bryste
- David Zendle Cyfarwyddwr - Y Gwasanaeth Rhoi Data Clyfar (SDDS), Prifysgol Caerefrog