Wrth i Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ddechrau, mae Ofcom wedi cyhoeddi astudiaeth heddiw sy’n edrych ar y rôl y gall ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein ei chwarae o ran cefnogi iechyd meddwl pobl.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at astudiaethau achos yn y byd go iawn o rai prosiectau a mentrau arloesol ym maes ymwybyddiaeth o'r cyfryngau sy’n cael eu cynnal gan 14 o wasanaethau iechyd meddwl, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill ledled y DU:
- Boys’ Biggest Conversation
- Care Opinion
- The Female Lead
- Fostering Digital Skills – Internet Matters
- Greater Manchester Social Switch
- Kooth
- Mixy and Chill – Taraki
- Samaritans
- Self Esteem Team
- SHaRON
- The Hive
- Passion 4 Fusion
- WISE KIDS
- Worth Warrior
Mae pob un o’r mentrau wedi’u cynllunio i helpu pobl o grŵp neu gymuned benodol mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys meithrin ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i ddiogelu hunan-barch a lles pobl ifanc, a hwyluso cyfleoedd i bobl sy’n gwella o salwch meddwl i gael cymorth.
Yn ystod yr astudiaeth, fe wnaethom siarad ag unigolion a oedd yn rhedeg gwasanaethau cymorth ar-lein, ymarferwyr iechyd meddwl, yn ogystal â phobl a oedd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o fentrau. Maen nhw’n siarad yn onest am eu profiadau uniongyrchol, yr heriau amlweddog maen nhw’n eu hwynebu, sut maen nhw wedi mynd i’r afael â nhw, a beth mae pobl eraill yn gallu ei ddysgu.
Y prif beth i’w ddysgu o’n hastudiaeth yw bod ymwybyddiaeth dda o’r cyfryngau yn cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol; mae hynny’n golygu gwybod sut mae cael gafael ar gymorth a chefnogaeth yn hawdd, yn ogystal â chael yr adnoddau a’r hyder i lywio a rheoli risgiau ar-lein. Mae ymchwil Ofcom ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd wedi bod ar-lein i gefnogi eu lles, ac mae hyn yn arbennig o wir ymysg pobl iau (16-24 oed).
Wrth rannu ein canfyddiadau, ein nod yw hyrwyddo’r sgwrs ynghylch y rhyng-gysylltiad rhwng iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i gynhyrchu syniadau a hyrwyddo rhagor o gyfleoedd i weithredu, ac yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i lunwyr polisi a’r sefydliadau hynny sy’n ymwneud â darparu, ariannu a chomisiynu prosiectau a mentrau tebyg.
Ewch i ganolfan newyddion Ofcom i gael rhagor o wybodaeth.