Ymunwch â’n Gweithgor Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso newydd

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2024

Mae hon yn alwad agored am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer ein gweithgor Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso newydd.

Bydd y grŵp yn cefnogi’r rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau (MSOM) i gyflawni ei blaenoriaethau strategol ar draws y meysydd ymchwil, tystiolaeth a gwerthuso, fel y nodir yn ein strategaeth tair blynedd, A Positive Vision for Media Literacy a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ei bwrpas fydd:

  • Meithrin gwell dealltwriaeth ynghylch ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a ffordd well o fesur hynny, mewn sectorau perthnasol ac o ran codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn gyffredinol yn y DU.
  • Rhoi cipolwg arbenigol ar arferion gorau a datblygiadau ym maes gwerthuso.
  • Deall rhagor am ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran cyflawni ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn sectorau perthnasol.
  • Cefnogi a llywio gweithgareddau gwerthuso ac ymchwil ehangach Ofcom ym maes ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a diogelwch ar-lein.

Mae’n disodli ein gweithgor ymchwil a’n gweithgor gwerthuso presennol.

Bydd yr aelodaeth am gyfnod y strategaeth (sy’n dod i ben ym mis Medi 2027).

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Rydym yn chwilio am uchafswm o 15 aelod ac rydym yn awyddus i gael cynrychiolaeth o blith arbenigwyr ymchwil a gwerthuso, yn bennaf o’r sector ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ond hefyd o sectorau sy’n cydgyffwrdd, yn y meysydd canlynol:

  • Camwybodaeth a thwyllwybodaeth
  • Gwerthuso a mesur ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
  • Profiadau ar-lein gwahanol grwpiau, gan gynnwys menywod a merched
  • Preifatrwydd ar-lein a rhannu data
  • Llesiant (ac ymwybyddiaeth o'r cyfryngau)
  • Gemau (ac ymwybyddiaeth o'r cyfryngau)
  • Cynhwysiant digidol
  • Llythrennedd newyddion a chyfryngau darlledu
  • Dealltwriaeth o ymddygiad
  • Dylunio llwyfannau

Ni ddylid ystyried yr uchod yn rhestr gyflawn, ac efallai y bydd gan aelodau arbenigedd sy’n cwmpasu un neu sawl maes neu feysydd sy’n cydgyffwrdd o blith y rhai a restrir.

Beth mae aelodaeth o’r gweithgor yn ei olygu

Bydd y grŵp yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn mewn cyfarfodydd hybrid, gyda chyfarfodydd ad-hoc eraill a fydd yn ymwneud ag is-set o aelodau’r gweithgor yn ôl y galw. Yn ogystal, efallai y cynhelir trafodaethau bord gron ar sail anffurfiol y tu allan i’r grŵp.

Bydd aelodau’r grŵp yn gallu cynnig eitemau i Ofcom eu cynnwys ar agendâu. Gall aelodau unigol o’r grŵp gynnal gweithgareddau’n uniongyrchol ar ran y grŵp drwy gytundeb â’r grŵp ac Ofcom. Mewn ymgynghoriad ag Ofcom, gall y grŵp wahodd gwesteion i roi tystiolaeth arbenigol mewn cyfarfodydd.

Nid yw hon yn swydd â thâl.

Sut i fynegi eich diddordeb

Dylai partïon sydd â diddordeb ddefnyddio’r ffurflen hon i fynegi eu diddordeb. <https://forms.office.com/e/AQ3EJGTEeL>

Y dyddiad cau yw 19 Ionawr ac efallai y byddwn yn cynnal cyfarfodydd cychwynnol ag ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer. Byddwn yn rhoi gwybod am gynigion aelodaeth erbyn 13 Chwefror.

 

 

Yn ôl i'r brig