Ymgynghoriad: strategaeth tair blynedd Ofcom ar gyfer ymwybyddiaeth o’r cyfryngau

Cyhoeddwyd: 2 Mai 2024
Ymgynghori yn cau: 24 Mehefin 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae ymwybyddiaeth o’r cyfryngau wedi bod yn rhan bwysig o rôl Ofcom ers iddo gael ei sefydlu yn 2003 pan wnaeth y Ddeddf Cyfathrebiadau gyfarwyddo Ofcom i ymchwilio i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a’i hyrwyddo ledled y DU. Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir bwysig gan mai hon yw strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau aml-flwyddyn gyntaf Ofcom mewn 20 o flynyddoedd.

Mae cyhoeddi’r strategaeth hon yn amserol. Yn wir, mae meddwl yn strategol am ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn bwysicach nawr nag erioed, o ystyried y newidiadau dramatig yn y dirwedd dros y ddau ddegawd ers i Ofcom ddechrau ei waith. Heddiw, rydym yn byw mewn byd o doreth o gyfryngau a chyfathrebiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae newyddion ac adloniant yn gorlifo ein sgriniau a’n dyfeisiau’n barhaus; mae llwyfannau’n galluogi rhyngweithio cymdeithasol di-ben-draw; ac mae’r gallu i lywio a gwerthuso gwasanaethau ar-lein yn feirniadol yn dod yn fwyfwy hanfodol i’n bywydau bob dydd. Mae datblygu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn gallu llywio drwy gynnwys yn ddiogel a ffynnu ar-lein.

Wrth gwrs, gall safbwyntiau amrywio o ran sut gall ymwybyddiaeth o’r cyfryngau gyflawni’r nod hwn orau.  Mae Ofcom nawr yn diffinio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fel “y gallu i ddefnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebiadau ar draws nifer o fformatau a gwasanaethau”.  Felly, mae gan ymwybyddiaeth o’r cyfryngau rôl sylfaenol i’w chwarae yn ein cenhadaeth gyffredinol i “wneud i gyfathrebiadau weithio i bawb”, a’n blaenoriaethau i bobl yn y DU gael gafael ar y cyfryngau maen nhw’n ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi, a byw bywyd mwy diogel ar-lein.

Er bod gan Ofcom rôl bwysig i’w chwarae, rhaid i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fod yn gyfrifoldeb i bawb – llwyfannau ar-lein yn benodol, ond hefyd rhieni, addysgwyr, sefydliadau trydydd sector, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, ac eraill. Er mwyn gwireddu potensial ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn llawn yn y DU, bydd cyfraniadau a chydweithio o bob cwr yn hanfodol.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad yn para am wyth wythnos o gyhoeddi ar 29 Ebrill 2024 tan 24 Mehefin 2024, sef y dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn cyhoeddi ein strategaeth derfynol yn yr hydref.

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 99.3 KB).

Gallwch roi eich barn i ni mewn sawl ffordd:

  • Mynd i un o’n sesiynau adborth rhithiol – mae manylion ar gael ar y dudalen ymgynghori.
  • Mynd i’n digwyddiadau wyneb yn wyneb:
    • Caeredin, 10 Mehefin 2024, yma.
    • Belfast, 11 Mehefin 2024, yma.
    • Llundain, 13 Mehefin 2024, yma.
    • Caerdydd, 14 Mehefin 2024, yma.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Making Sense of Media
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig