Mae'n ddyletswydd statudol ar Ofcom i hyrwyddo ac ymchwilio i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Un ffordd allweddol yr ydym yn ceisio cyflawni'r ddyletswydd hon yw trwy ein rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau, sydd â'r nod o helpu gwella sgiliau gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein ymusg plant ac oedolion y DU.
Bu i ni gomisiynu 'Diwrnod ym Mywyd' i ymchwilio i gyd-destun eang ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a darparu dealltwriaeth o rôl ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ym mywydau bob dydd pobl. Dechreuodd yr ymchwil o'r gwaelod i fyny, gan ymchwilio i sut mae bywyd o ddydd i ddydd yn edrych ar gyfer sampl amrywiol o 20 o bobl ar draws y DU. Bu i ni ddefnyddio ethnograffïau diwrnod llawn, dyddiadau cyfryngau saith diwrnod (gan gynnwys recordio'r sgrîn lle bynnag y bu'n bosib) a chyfweliadau ansoddol i ffurfio dealltwriaeth fanwl o fywydau'r cyfranogwyr a'r rhyng-gysylltiadau ag ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o'r ymchwil a detholiad o astudiaethau achos y dylid eu hystyried ochr yn ochr â'r dogfen astudiaethau achos manwl sy'n cyd-fynd â nhw. Mae'r astudiaethau achos yn rhoi darlun cyfoethog yn y byd go iawn o fywyd bob dydd ein sampl, a'r ffyrdd niferus ac amrywiol y mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n dod i'r amlwg.