App design for media literacy

Gwasanaethau ar-lein yn addo blaenoriaethu ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Cyhoeddwyd: 7 Hydref 2024

Heddiw, mae pedwar gwasanaeth ar-lein wedi addo mabwysiadu egwyddorion arferion gorau Ofcom ar gyfer hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar eu llwyfannau

Mae datblygu sgiliau cryf o ran ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn gallu helpu defnyddwyr y rhyngrwyd i ymgysylltu â gwasanaethau ar-lein yn feirniadol, diogel ac effeithiol. Mae gan wasanaethau ar-lein ran bwysig i’w chwarae o ran grymuso pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein, gan gynnwys drwy gynnig offer a nodweddion defnyddiol i ddefnyddwyr, fel awgrymiadau a hysbysiadau.

Mae Google Search, The LEGO Group, Pinterest a Roblox wedi cofrestru’n wirfoddol i fabwysiadu Egwyddorion Arferion Gorau Ofcom ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau drwy Ddyluniad, sydd wedi cael eu datblygu ar y cyd â chynrychiolwyr arbenigol o’r diwydiant, cymdeithas sifil a’r gymuned academaidd. Yn gryno, mae’r pedwar gwasanaeth yn addo mabwysiadu tair egwyddor gyffredin:

  • dod yn atebol am wneud ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn flaenoriaeth ar lwyfannau, a chynyddu tryloywder o ran beth sy’n gweithio;
  • datblygu dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a ffyrdd amserol o roi anghenion defnyddwyr yn ganolog yn y broses ddylunio; a
  • monitro a gwerthuso gweithgareddau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn barhaus.

Drwy ymrwymo i fabwysiadu’r egwyddorion, mae’r gwasanaethau hyn yn ymrwymo i wella ac addasu eu dull gweithredu i gyd-fynd yn agosach â'r arferion gorau. 

Fel rhan o’r addewid, mae’r pedwar gwasanaeth wedi cyflwyno enghreifftiau o sut maent eisoes yn gweithredu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy ddyluniad ar eu gwasanaethau, a’r meysydd yr hoffent ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol. Mae’r enghreifftiau hyn ar gael ar ein gwefan, ac maent yn darparu meincnod ar gyfer adolygu cynnydd yn y dyfodol, ac yn cynrychioli ymrwymiad cyhoeddus i weithredu’n barhaus ac atebol.

Mae Ofcom yn annog darparwyr gwasanaethau ar-lein eraill i ddangos yn gyhoeddus eu bod yn ymrwymo i gefnogi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ymysg eu defnyddwyr, drwy ymrwymo i'r addewid.

Ofcom yn cyhoeddi cynllun tair blynedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi heddiw sut mae’n bwriadu datblygu ei waith ei hun i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau dros y tair blynedd nesaf.

Ein nod yw grymuso pawb i ffynnu ar-lein a llywio cynnwys yn ddiogel. Mae’r strategaeth yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, e.e. cynhwysiant digidol ac ymchwil, yn ogystal â gweithio gydag unigolion a sefydliadau arbenigol a gwrando ar brofiadau bywyd go iawn pobl. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar ein disgwyliadau y dylai gwasanaethau ar-lein fynd ymhellach o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau er budd eu defnyddwyr, a byddwn yn parhau i fonitro eu cynnydd.

Gallwch chi ddarllen ein strategaeth tair blynedd yn llawn yn y fan yma.

Yn ôl i'r brig