Defnydd Plant o'r Cyfryngau a'u Hagweddau Atynt

Cyhoeddwyd: 27 Medi 2023

Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n galluogi pobl i gaffel y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil gwasanaethau cyfathrebu traddodiadol a newydd. Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau hefyd yn helpu pobl i reoli cynnwys a chyfathrebiadau, ac i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd rhag y risgiau posib sydd ynghlwm wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Mae ein hymchwil yn cynnwys canfyddiadau sy’n ymwneud â safbwyntiau rhieni am ddefnydd eu plant o gyfryngau, a’r ffordd mae rhieni yn ceisio - neu’n penderfynu peidio - monitro neu gyfyngu ar ddefnydd eu plant o wahanol fathau o gyfryngau.

Rhodd Deddf Cyfathrebiadau 2003 ddyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo a chynnal ymchwil ym maes ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Mae ein gwaith ymchwil ar ymwybyddiaeth plant o'r cyfryngau'n helpu i sicrhau bod Ofcom yn cyflawni’r ddyletswydd hon.

Adroddiad Plant a rhieni: defnydd o'r cyfryngau ac agweddau atynt 2022

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y defnydd o’r cyfryngau, agweddau atynt a dealltwriaeth ohonynt ymysg plant a phobl ifanc 3-17 oed.

Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau ar farn rhieni am ddefnydd eu plant o gyfryngau, a sut mae rhieni plant a phobl ifanc 3-17 oed yn monitro ac yn rheoli defnydd eu plant. Bwriad yr adroddiad yw rhoi darlun cynhwysfawr o brofiadau plant yn y cyfryngau yn 2021 fel gwybodaeth gyfeiriol i’r diwydiant, llunwyr polisïau, academyddion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn rhoi dyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, ac i ymchwilio i hynny. Rydym yn diffinio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fel ‘y gallu i ddefnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebiadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau’. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’n rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau ehangach.

Bywydau Cyfryngau Plant (Saesneg )

Mae'r ddogfen hon yn rhoi dadansoddiad o ganfyddiadau wythfed flwyddyn astudiaeth Ofcom o Fywydau Plant y Cyfryngau. Cyn belled ag y bo modd, mae'r ymchwil wedi dilyn yr un 18 o blant, 8-18 oed, dros flynyddoedd yn olynol, gan eu cyfweld ar gamera bob blwyddyn am eu harferion a'u hagweddau o'r cyfryngau.

Mae'r astudiaeth yn darparu tystiolaeth am gymhellion a chyd-destun defnydd plant o'r cyfryngau, a sut mae'r cyfryngau'n rhan o'u bywydau beunyddiol a'u hamgylchiadau domestig. Mae hefyd yn rhoi manylion cyfoethog am sut mae arferion ac agweddau'r cyfryngau yn newid dros amser, yn enwedig mewn perthynas â datblygiad emosiynol a gwybyddol plant.

Mae'r ymchwil hon wedi'i chynllunio fel ffordd o ddarparu cyflenwad ansoddol ar raddfa fach, cyfoethog a manwl i arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau.

Adroddiad plant a rhieni: defnydd o'r cyfryngau ac agweddau atynt 2020/21

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio ymwybyddiaeth plant o'r cyfryngau. Mae'n darparu tystiolaeth fanwl ar ddefnydd, agweddau at a dealltwriaeth o'r cyfryngau ymhlith plant a phobl ifanc 5-15 oed, yn ogystal â mynediad i'r cyfryngau a'r defnydd gan blant ifanc 3-4 oed.

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys canfyddiadau sy'n ymwneud â barn rhieni am ddefnydd eu plant o'r cyfryngau, a'r ffyrdd y mae rhieni'n ceisio – neu'n penderfynu peidio – i fonitro neu gyfyngu ar y defnydd o wahanol fathau o gyfryngau.

Mae'r adroddiad yn gyfeiriad at ddiwydiant, rhanddeiliaid a defnyddwyr. Mae hefyd yn rhoi cyd-destun i'r gwaith y mae Ofcom yn ei wneud i hyrwyddo buddiannau defnyddwyr a dinasyddion yn y marchnadoedd a reoleiddir gennym

.

Bywydau Cyfryngau Plant (Saesneg)

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi dadansoddiad o ganfyddiadau seithfed flwyddyn astudiaeth Ofcom o Fywydau Cyfryngau Plant. Cyn belled ag y bo modd, mae'r ymchwil wedi dilyn yr un 18 o blant, 8-18 oed, dros flynyddoedd olynol, yn eu cyfweld ar gamera bob blwyddyn am eu harferion a'u hagweddau at y cyfryngau.

Mae'r astudiaeth yn darparu tystiolaeth am gymhellion a chyd-destun defnydd plant o'r cyfryngau, a sut mae'r cyfryngau'n rhan o'u bywydau bob dydd a'u hamgylchiadau domestig. Mae hefyd yn rhoi manylion cynhwysfawr am sut mae arferion ac agweddau at y cyfryngau'n newid dros amser, yn enwedig mewn perthynas â datblygiad emosiynol a gwybyddol plant.

Mae'r ymchwil hon wedi'i dylunio fel ffordd o ddarparu cyflenwad ansoddol ar raddfa fach, cyfoethog a manwl i arolygon meintiol Ofcom o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Mae'r adroddiad isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Children’s Media Lives: Covid-19 specific findings

Mae'r adroddiad hwn yn darparu dadansoddiad o ganfyddiadau astudiaeth benodol Covid-19 ar Fywydau Cyfryngau Plant. Dechreuodd yr ymchwil yn 2014 fel ffordd o ddarparu dadansoddiad ansoddol manwl, cyfoethog ar raddfa fach i gydfynd ag arolygon meintiol Ofcom ar lythrennedd y cyfryngau.

Plant a rhieni: Adroddiad ar agweddau a defnydd o'r cyfryngau 2019

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi tystiolaeth am ddefnyddio’r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymhlith plant a phobl ifanc 5-15 oed, yn ogystal â gwybodaeth am fynediad i’r cyfryngau a defnydd ymhlith plant 3-4 oed.


Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau ynghylch barn rhieni am ddefnydd eu plant o'r cyfryngau, a sut maent yn ei fonitro ac yn cyfyngu arno.

Mae'r adroddiad yn gyfeirnod i ddiwydiant, rhanddeiliaid a defnyddwyr. Mae hefyd yn darparu cyd-destun i'r gwaith mae Ofcom yn ei gyflawni i ddatblygu diddordebau defnyddwyr a dinasyddion yn y marchnadoedd rydym yn eu rheoleiddio.

Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu casgliad o daflenni gwaith i blant rhwng 8-11 oed sydd ar gael yn Gymraeg.

Children's Media Lives

Adroddiad Saesneg yw hwn sy'n darparu dadansoddiad o'r canfyddiadau o'r 6ed flwyddyn o waith ymchwil 'Children's Media Lives'. Mae'r adroddiad wedi dilyn yr un 18 o blant, cymaint ag oedd yn bosibl, rhwng 8-15 oed ar ddechrau'r astudiaeth dros flynyddoedd dilynol. Roedden ni'n cyfweld â nhw yn flynyddol ar gamera ac yn eu holi am eu harferion ac agweddau ar y cyfryngau.

Mae'r adroddiad hefyd yn darparu tystiolaeth ynghylch cymhellion a chyd-destun defnydd plant o'r cyfryngau a sut maent yn rhan o'u bywydau bob dydd a'u hamgylchiadau yn y cartref. Mae hefyd yn rhoi manylion cyfoethog ynghylch sut gall arferion ac agweddau'r cyfryngau newid dros amser, yn arbennig o ran datblygiad emosiynol a gwybyddol plant.

Cynlluniwyd yr ymchwil hon fel ffordd o ddarparu ategiad ansoddol cyfoethog a manwl ar raddfa fach i arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd y cyfryngau.

  • Adroddiad ar Agweddau a Defnydd Plant o'r Cyfryngau 2018
  • Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar lythrennedd plant yn y cyfryngau. Mae'n cynnig tystiolaeth fanwl am y defnydd o'r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth plant a phobl ifanc rhwng 5-15 oed. Mae hefyd yn rhoi manylion am fynediad i'r cyfryngau a'r defnydd ymhlith plant bach rhwng 3-4 oed.

    Yn ogystal mae'r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau sy'n ymwneud â safbwyntiau rhieni ynglŷn â defnydd plant o'r cyfryngau a'r ffordd mae rhieni yn dewis monitro -neu beidio- neu gyfyngu ar ddefnydd gwahanol o gyfryngau.

    Mae'r adroddiad yn ffynhonnell gyfeirio ar gyfer diwydiant, rhanddeiliaid a defnyddwyr. Mae hefyd yn rhoi cyd-destun i'r gwaith mae Ofcom yn ei gynnal i ddiogelu diddordebau defnyddwyr a dinasyddion yn y marchnadoedd rydym yn eu rheoleiddio.

  • Life on the small screen: What children are watching and why (PDF, 6.1 MB) (Saesneg yn unig)
  • Fe gomisiynodd Ofcom ymchwil ansoddol i archwilio pa gynnwys fideo mae plant yn gwylio, sut maen nhw'n cael gafael ynddo a pham maen nhw'n ei ddewis.

    Mae bob amser yn anodd i blant - hyd yn oed i oedolion - i fynegu pam maen nhw'n hoffi pethau. I blant, gall hyn fod yn anoddach, felly nid yw ymchwil sy'n dibynnu ar y cwestiwn hwn yn datgelu'r darlun yn llawn.

    Yn lle hynny, mae'r ymchwil hwn wedi crynhoi set-data gwrthrychol o beth mae plant yn gwylio ar draws yr holl gyfryngau, cyn archwilio'r cyd-destun, y siwrne a'r broses gwneud penderfyniad gyda nhw wnaeth eu harwain at enghreifftiau penodol.

Older research is available through the National Archives.

Yn ôl i'r brig