- Mae plant 5 - 7 oed yn gynyddol bresennol ar-lein – defnyddia traean ohonynt y cyfryngau cymdeithasol heb oruchwyliaeth, ac mae gan fwy a mwy ohonyn nhw broffiliau personol
- Mae tri chwarter y rhieni’n siarad â phlant iau am gadw’n ddiogel ar-lein
- Ofcom yn nodi cynlluniau i ddatblygu cynigion ychwanegol ar sut y gellir defnyddio AI i ganfod cynnwys anghyfreithlon a niwed i blant
Mae plant bach ar-lein fwy a mwy ac yn cael mwy a mwy o annibyniaeth ddigidol gan rieni, yn ôl astudiaeth flynyddol Ofcom o berthynas plant â’r cyfryngau a’r bydoedd ar-lein.
Mae tua chwarter y plant 5-7 oed
24
%
nawr yn berchen ar ffôn clyfar, ac mae tri chwarter yn defnyddio dyfais tabled (76%).
O’i gymharu â blwyddyn yn ôl, mae cyfran uwch o blant 5-7 oed yn mynd ar-lein i anfon negeseuon neu wneud galwadau llais/fideo (59% i 65%) neu i wylio cynnwys sy’n cael ei ffrydio’n fyw (39% i 50%).
Yn yr un modd, mae’r defnydd cyffredinol o apiau neu safleoedd cyfryngau cymdeithasol ymysg plant 5-7 oed wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall (30% i 38%), gyda WhatsApp (29% i 37%), TikTok (25% i 30%), Instagram (14% i 22%) a Discord (2% i 4%) yn gweld twf penodol ymysg y grŵp oedran hwn.
Mae chwarae gemau ar-lein ymysg plant 5-7 oed hefyd wedi gweld cynnydd blynyddol sylweddol – 41%, i fyny o 34% – gyda mwy o blant o’r oedran hwn yn chwarae gemau saethu nag erioed o’r blaen (15%, i fyny o 10%).
Daw ymchwil heddiw wrth i Ofcom baratoi i ymgynghori yn yr wythnosau nesaf ar set gynhwysfawr o gynigion i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn well ar-lein. Mae Ofcom hefyd yn cyhoeddi maes ffocws ychwanegol ar gyfer diogelwch plant heddiw, gan adeiladu ar y mesurau cadarn a nodir yn ein Codau Ymarfer drafft ar niwed anghyfreithlon.
Yn benodol, rydym yn cynllunio ymgynghoriad ychwanegol yn ddiweddarach eleni ar sut y gellir defnyddio offer awtomataidd, gan gynnwys AI, i fynd ati’n rhagweithiol i ganfod cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sydd fwyaf niweidiol i blant – gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol nas canfuwyd yn flaenorol.
Ar yr apiau’n annibynnol
Er bod tua dau o bob pum rhiant plant 5-7 oed (42%) yn dweud eu bod yn defnyddio apiau a gwefannau cyfryngau cymdeithasol gyda’u plentyn, mae traean (32%) yn dweud bod eu plentyn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn annibynnol.
O’i gymharu â’r llynedd, mae rhieni’r plant iau hyn yn fwy tebygol o ddweud y bydden nhw’n caniatáu i’w plentyn gael proffil ar y gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol cyn iddyn nhw gyrraedd yr isafswm oed gofynnol (30%, i fyny o 25%).
Mae’n dilyn bod gan fwy o blant o’r oedran hwn eu proffiliau personol eu hunain ar YouTube neu YouTube Kids (48%, o 39%), WhatsApp (11%, o 7%) ac Instagram (9%, o 5%) na blwyddyn yn ôl.
Siarad a dysgu am ddiogelwch ar-lein
Mae tri chwarter rhieni plant 5-7 oed sy’n mynd ar-lein yn dweud eu bod wedi siarad â’u plentyn am gadw’n ddiogel ar-lein (76%), ac mae dros hanner yn gwneud hynny bob ychydig wythnosau o leiaf (56%). Mae rhieni plant hŷn sy’n mynd ar-lein (8-17 oed) yn fwy tebygol o fod wedi cael sgyrsiau diogelwch ar-lein gyda’u plentyn (dros 90% o rieni plant ym mhob band oedran).
Mae’r ymchwil yn awgrymu bod datgysylltiad rhwng profiadau plant hŷn o gynnwys a allai fod yn niweidiol ar-lein, a’r hyn maen nhw’n ei rannu â’u rhieni am eu profiadau ar-lein. Dywed traean (32%) o blant a phobl ifanc 8-17 oed eu bod wedi gweld rhywbeth sy’n peri pryder neu rywbeth cas ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf, ond dim ond 20% o rieni’r grŵp oedran hwn sy’n dweud bod eu plentyn wedi dweud wrthyn nhw eu bod wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi’u dychryn neu achosi gofid yn yr un cyfnod.
Yn benodol, mae pob merch 8-17 oed yn fwy tebygol na bechgyn o’r un oed o brofi rhyngweithio cas neu niweidiol ar-lein, drwy apiau anfon testun neu negeseuon (20% o’i gymharu â 14%) a chyfryngau cymdeithasol (18% o’i gymharu â 13%).
Mae dros naw o bob deg plentyn 8-17 oed sy’n mynd ar-lein (93%) yn gallu cofio eu bod wedi cael o leiaf un wers am ddiogelwch ar-lein yn yr ysgol – ac roedd tri chwarter (76%) yn dweud ei bod yn ddefnyddiol iddyn nhw. Mae hyn yn codi i 97% ymysg y 30% o blant a gafodd wersi rheolaidd am ddiogelwch ar-lein.
Amddiffyn plant dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein
Er bod addysg am ddiogelwch ar-lein yn un rhan o’r ymgyrch i gadw pobl ifanc yn fwy diogel ar-lein, o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein mae gan gwmnïau technoleg gyfrifoldeb cyfreithiol i gadw plant yn fwy diogel ar-lein. Rydyn ni’n glir bod yn rhaid iddyn nhw fod yn barod i gyflawni eu dyletswyddau newydd ar ôl iddyn nhw ddod i rym ac rydyn ni’n barod i’w dal nhw i gyfrif.
Rydym yn gweithio'n gyflym i roi'r cyfreithiau newydd ar waith. O ran y dyletswyddau diogelwch plant o dan y Ddeddf, rydym yn:
- lansio ymgynghoriad ym mis Mai ar ein Cod Ymarfer Diogelwch Plant drafft. Bydd hwn yn nodi’r camau ymarferol y disgwyliwn i gwmnïau technoleg eu cymryd i sicrhau bod plant yn cael profiadau mwy diogel ar-lein - gan gynnwys drwy eu hamddiffyn rhag cynnwys sy’n gyfreithlon ond yn niweidiol i blant, megis cynnwys sy’n hyrwyddo hunanladdiad neu hunan-niweidio, a phornograffi; a
- chynllunio ymgynghoriad ychwanegol yn ddiweddarach eleni ar sut y gellir defnyddio offer canfod awtomataidd, gan gynnwys AI, i liniaru’r risg o niwed anghyfreithlon a chynnwys sydd fwyaf niweidiol i blant - gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol nas canfuwyd yn flaenorol a chynnwys sy’n annog hunanladdiad a hunan-niweidio. Bydd y cynigion hyn yn galw ar ein sylfaen dystiolaeth dechnegol gynyddol ac yn adeiladu ar y mesurau presennol a nodir yn ein Codau Ymarfer drafft ar niwed anghyfreithlon.
O'r synhwyraidd i'r cyffrogarol - datgelu'r tueddiadau ymddygiad ar-lein pennaf
Mae astudiaethau ymchwil heddiw – gan gynnwys ein 10fed adroddiad ansoddol blynyddol Y Cyfryngau ym Mywydau Plant – yn datgelu nifer o dueddiadau eraill o ran ymddygiad. Mae'r rhain yn cynnwys:
Defnydd goddefol o gyfryngau cymdeithasol: Mae plant 8-17 oed sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn llawer mwy tebygol o wneud hynny’n oddefol drwy ‘hoffi’ neu ‘dilyn’ cyfrifon eraill (44%), yn hytrach na bod yn ddefnyddwyr gweithredol sy’n rhannu, yn gwneud sylwadau, neu’n postio cynnwys (28%). Roedd cyfranogwyr yn yr astudiaeth ansoddol a oedd yn rhannu cynnwys roeddent yn ei greu eu hunain yn tueddu i wneud hynny’n strategol – er enghraifft, dim ond drwy rannu negeseuon dros dro ar eu straeon, neu ymysg cylch dethol, llai o ffrindiau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol preifat.
Cynnwys ysgogol a chyflym ar sgriniau hollt: Roedd fideos byr, ysgogol gyda saethiadau wedi’u golygu'n gwta ac yn anwadal, sy'n cynnwys personâu swnllyd, dramatig a thros ben llestri, yn parhau i dynnu sylw plant yn ein hastudiaeth ansoddol. Mae fideos ar sgrin hollt – ac ar dair sgrin mewn un achos erbyn hyn – yn dal i fod yn nodwedd o’u harlwy gwylio. Gwelsom hefyd nifer o blant yn defnyddio nodwedd ‘symud ymlaen yn gyflym’ TikTok i wibio drwy fideos ar ddwywaith y cyflymder.
Mae merched yn ffafrio fideos 'esmwyth' synhwyraidd: I’r gwrthwyneb, bu cynnydd yn nifer y cyfranogwyr mewn astudiaethau ansoddol – merched yn benodol – sy’n gwylio fideos ymateb anterth synhwyraidd annibynnol (ASMR) sy’n cynnig ysgogiad cyffyrddol a thyner ar raddfa arafach o lawer. Mae’r rhain yn cynnwys fideos ‘o safbwynt’ rhyngbersonol lle gwelir crëwr cynnwys fel petai’n sibrwd yn uniongyrchol wrth y gwyliwr, yn chwarae rôl ffrind neu'n tynnu dwylo dros ei wallt. Dywed y plant eu bod yn gwylio'r fideos hyn i ymlacio, neu i'w helpu i fynd i gysgu, ond dywedodd o leiaf un eu bod yn aros i fyny'n hwyr yn gwylio un ar ôl y llall.
Gwir yn erbyn anwir: Mae pobl ifanc yn eu harddegau hŷn yn ei chael hi'n anoddach gwahaniaethu’r hyn sy’n wir oddi wrth yr hyn sy’n ffug ar-lein. Mae plant 16-17 oed yn llai hyderus yn eu gallu i wahaniaethu’r hyn sy’n wir oddi wrth yr hyn sy’n ffug ar-lein nag yr oedden nhw y llynedd (75% o’i gymharu â 82%).
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i ganolfan newyddion Ofcom.
Nodiadau i olygyddion:
Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau yw rhaglen waith Ofcom ar gyfer ymwybyddiaeth o'r cyfryngau i helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein oedolion a phlant y Deyrnas Unedig. Mae’r pedair astudiaeth ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn elfen graidd o’r rhaglen hon.
Mae Plant a Rhieni - Adroddiad o’r Defnydd o’r Cyfryngau ac Agweddau Atynt 2024 yn darparu tystiolaeth am ddefnyddio’r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymysg plant 2024-17 oed yn y DU, yn ogystal â phersbectif rhieni o ymddygiad eu plentyn (3-17 oed) ar y cyfryngau a’r strategaethau maen nhw’n dibynnu arnyn nhw i amddiffyn eu plentyn ar-lein. Mae tri arolwg yn y traciwr: ymddygiad ac agweddau plant ar-lein (maint sampl: 3,383), gwybodaeth a dealltwriaeth plant ar-lein (maint sampl: 2,080), a'r arolwg rhieni yn unig (maint sampl: 2,480).
Mae Cyfryngau ym Mywydau Plant 2024 yn darparu astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Mae’n ymdrin â’r cymhellion a’r cyd-destun ar gyfer defnyddio’r cyfryngau a sut mae’r cyfryngau’n rhyngweithio â bywyd bob dydd ac amgylchiadau domestig y plant yn yr astudiaeth. Mae’n astudiaeth hydredol sy’n seiliedig ar sampl o 21 o blant - cyn belled ag y bo modd, mae’n dilyn yr un grŵp o blant rhwng 21 ac 17 oed, gan gynnal cyfweliadau wedi’u ffilmio gyda nhw bob blwyddyn i gael gwybod am eu hagweddau a’u harferion ar y cyfryngau a sut y gallen nhw fod wedi newid.
Mae Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau 2024 yn darparu tystiolaeth am y defnydd o gyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymysg oedolion yn y DU. Mae tri arolwg yn y traciwr: yr arolwg craidd (maint y sampl: 3,643), ymddygiad ac agweddau ar-lein (maint sampl: 6,182), a gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein (maint sampl: 3,093).
Mae Cyfryngau ym Mywydau Oedolion 2024 yn darparu astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau o ran y cymhellion a’r cyd-destun ar gyfer defnyddio’r cyfryngau, a sut mae’r cyfryngau’n rhyngweithio â bywyd bob dydd ac amgylchiadau domestig yr oedolion yn yr astudiaeth. Mae hwn yn brosiect hydredol, ethnograffig sydd wedi bod ar waith ers 2005. Mae’r ymchwil yn dilyn 20 o gyfranogwyr dros amser – gyda 12 ohonynt wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth ers o leiaf 15 mlynedd – sy’n cael eu cyfweld gartref i ddeall eu perthynas â’r cyfryngau digidol. Eleni, cafodd cyfweliadau o hyd at 90 munud eu cynnal wyneb yn wyneb yn y cartref yn bennaf, gyda thri chyfweliad yn cael eu cynnal dros Zoom.