Two people watching television together

Y tueddiadau pennaf o'n hymchwil Cyfryngau'r Genedl ddiweddaraf

Cyhoeddwyd: 3 Awst 2023
Diweddarwyd diwethaf: 11 Awst 2023

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil diweddaraf sy'n bwrw golwg ar arferion a hoffterau pobl o ran y cyfryngau ar draws y DU.

Mae'r prif ganfyddiadau'n dangos newid cyflym o ran sut mae gwylwyr a gwrandawyr y DU yn defnyddio teledu, fideo ar-lein, radio a sain. Ond ceir canfyddiadau pellach sy’n taflu goleuni ar sut mae pobl ar draws y wlad yn cyrchu ac yn mwynhau ystod o gynnwys ar draws set gynyddol amrywiol o gyfryngau a llwyfannau.

Mae'r canfyddiadau llawn i’w gweld yn ein Hadroddiad Cyfryngau'r Genedl (Adroddiad y DU, yn Saesneg), ond dyma nifer o'r uchafbwyntiau.

Momentau cenedlaethol mawrion oedd yr hyn y gwnaethom eu gwylio fwyaf ar y teledu

Er i ni nodi gostyngiad yn nifer y rhaglenni â chynulleidfaoedd torfol, gyda’r rhai sy'n denu mwy na phedair miliwn o wylwyr teledu wedi haneru dros yr wyth mlynedd diwethaf, daeth momentau mawr o ddiddordeb cenedlaethol â ni at ein gilydd o flaen ein sgriniau teledu. Dominyddwyd y rhestr o'r rhaglenni a wyliwyd fwyaf yn 2022 gan ddigwyddiadau chwaraeon a brenhinol – gêm gogynderfynol Lloegr yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd FIFA oedd ar frig y tabl gydag 16.1 miliwn o wylwyr ar gyfartaledd.

Gwyliodd 13.2 miliwn o wylwyr yr ail ran o ddarllediad BBC One o angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II  ar gyfartaledd, a bu i nifer ychydig yn llai wylio Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Yn ôl i'r brig