Media Nations Wales 2024

Cynulleidfaoedd Cymru yn gwylio mwy ar Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus, er gwaethaf gostyngiad mewn gwylio teledu yn gyffredinol

Cyhoeddwyd: 31 Gorffennaf 2024
  • Roedd faint o amser mae pobl yn ei dreulio’n gwylio cynnwys teledu a fideo wedi codi yn 2023 i 5 awr a 4 munud y dydd, sy’n fwy nag unrhyw un o wledydd y DU
  • Mae gwahaniaeth enfawr yn parhau rhwng y cenedlaethau gyda’r gwylwyr iau yn gwylio dim ond 37 munud o deledu wedi'i ddarlledu bob wythnos
  • Mae mwy yn gwrando ar y radio yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, gyda mwy na hanner yn gwrando o leiaf unwaith yr wythnos

Roedd pobl yng Nghymru wedi gwylio mwy o gynnwys teledu a fideo gartref yn 2023, 5 awr a 4 munud ar gyfartaledd, 20 munud yn fwy na 2022, a mwy na chyfartaledd y DU sef 4 awr a 31 munud. Roedd gwylwyr yng Nghymru wedi treulio mwy o amser yn gwylio gwasanaethau dal i fyny gan Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBs) yng Nghymru, fel iPlayer, ITVX a Clic, na gweddill y DU (26 munud y dydd, chwe munud yn fwy na chyfartaledd y DU.)

Yn unol â’r duedd yn y DU, roedd lefelau gwylio teledu sy’n cael ei ddarlledu wedi parhau i ostwng i 2 awr a 42 munud y dydd. Roedd hyn dri munud yn llai nag yn 2022, gan roi amser gwylio cyfartalog Cymru yn is na Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf. Ac eithrio Gogledd Iwerddon, Cymru oedd â’r gostyngiad lleiaf o blith yr holl wledydd (1.9%), 3.7 pwynt canran yn llai na gostyngiad cyfartalog y DU.

Yn ôl adroddiad Cyfryngau'r Genedl Ofcom ar dueddiadau yn y sectorau cyfryngau yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw, cynulleidfaoedd iau (16-24) yng Nghymru sy’n gwylio’r lleiaf o deledu sy’n cael ei ddarlledu sef cyfartaledd o 37 munud y dydd, gostyngiad o 21.5% ers 2022. Fodd bynnag, ni fu prin dim newid ymysg cynulleidfaoedd hŷn 55+ oed yn 2023 sy’n dal i wylio mwy o deledu nag unrhyw grŵp oedran arall sef 4 awr a 59 munud y dydd ar gyfartaledd.

Yng Nghymru, mae cyfran y cartrefi sydd â gwasanaeth ffrydio drwy danysgrifiad wedi cynyddu gyda 70% yn cael o leiaf un gwasanaeth yn ystod chwarter cyntaf 2024, gan godi o 63% y flwyddyn flaenorol. Netflix yw’r gwasanaeth mwyaf poblogaidd o hyd, gyda 68% o bobl yn dweud eu bod wedi defnyddio’r gwasanaeth. Roedd gan fwy nag wyth gwyliwr o bob 10 (84%) yng Nghymru sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd gartref deledu wedi’i gysylltu, sy’n uwch na chyfartaledd y DU (73%). Roedd defnyddwyr teledu yng Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd i wylio gwasanaethau ffrydio (ee Netflix ac Amazon Prime, sydd i’w gweld yn aml ar y ddewislen neu sgrin hafan) ar eu teledu clyfar nag yn y DU yn gyffredinol (51% o gymharu â 42%).

Newyddion dibynadwy a chywir  

Ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, mae ‘newyddion dibynadwy a chywir am y DU’ yn un o’r meysydd pwysicaf i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ei ddarparu i gymdeithas yn gyffredinol, gyda bron i hanner (48%) yn ei roi yn eu tri uchaf. Cafodd hyn ei ddilyn gan 'amrywiaeth eang o wahanol fathau o raglenni' (43%), 'rhaglenni sy'n fy helpu i ddeall beth sy'n digwydd yn y byd heddiw' (28%) a 'rhaglenni sy'n berthnasol i mi' (28%).

O ran cael gafael ar newyddion yn gyffredinol, BBC One oedd y ffynhonnell newyddion a oedd yn cael ei defnyddio fwyaf yng Nghymru gan bobl dros 16 (47%), ac yna ITV Cymru Wales (34%). Facebook oedd y drydedd ffynhonnell fwyaf poblogaidd (32%). Nid oedd unrhyw bapurau newydd yn y deg prif ffynhonnell newyddion.

Gwlad o wylwyr rygbi  

Mae chwaraeon cenedlaethol byw yn dal yn boblogaidd dros ben ymysg cynulleidfaoedd Cymru, gyda Chwpan Rygbi’r Byd a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ymysg y 10 rhaglen a gafodd eu gwylio fwyaf. Roedd 610,000 ar gyfartaledd wedi gwylio gêm grŵp Cwpan y Byd rhwng Cymru ac Awstralia, ar ITV Cymru Wales, ac roedd 515,000 wedi gwylio’r gêm Chwe Gwlad rhwng yr Alban a Chymru ar BBC Cymru Wales. 

Mae cynulleidfaoedd yng Nghymru yn manteisio i’r eithaf ar y dewisiadau lu sydd ar gael iddyn nhw i gael gafael ar gynnwys cyfryngau. Ac eto, mae rhaglenni teledu byw, wedi’u recordio ac ar wasanaethau dal i fyny yn dal i apelio’n fawr i lawer o wylwyr yng Nghymru, er gwaethaf twf a chystadleuaeth barhaus gwasanaethau ffrydio a gwasanaethau arbenigol.

- Elinor Williams, Pennaeth, Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Mae mwy yn gwrando ar radio’r BBC yng Nghymru

Mae gwrando ar y radio hefyd yn dal yn gryf yng Nghymru gyda bron i naw oedolyn o bob deg (89.2%) yn gwrando bob wythnos, sy’n uwch na chyfartaledd y DU. Mae mwy o bobl yn gwrando ar y radio yng Nghymru, ac maen nhw’n gwrando’n hirach hefyd. Mae pobl yng Nghymru yn gwrando am 20.9 awr yr wythnos, o’i gymharu â chyfartaledd y DU sef 20.5 awr. 

Mae dros hanner pobl Cymru (57.2%) yn gwrando ar orsafoedd radio’r BBC o leiaf unwaith yr wythnos, sy’n uwch na chyfartaledd y DU sef 55.6%. Radio 2 oedd yr orsaf fwyaf poblogaidd yng Nghymru. Roedd Radio Cymru ymysg y pum gorsaf uchaf roedd pobl yn gwrando arnynt yng ngogledd Cymru ac roedd Radio Wales ymysg y rhai mwyaf poblogaidd ymysg gwrandawyr yn ne Cymru. Roedd cyrhaeddiad BBC Radio Wales a Radio Cymru wedi codi i’w lefelau uchaf ers gwanwyn 2022. Erbyn diwedd mis Mawrth eleni roedd 348,000 yn gwrando ar Radio Wales bob wythnos gydag 113,000 yn gwrando ar Radio Cymru.

Mae gwrando ar-lein yn dal i dyfu’n gyson ac mae’n cyfrif am chwarter (24.5%) yr holl wrando ar y radio. Mae Spotify Premium yn dal yn boblogaidd ac roedd yn cyfrif am y rhan fwyaf (63%) o gyfanswm yr amser a gafodd ei dreulio yn ffrydio cerddoriaeth yng Nghymru, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar draws Prydain Fawr (58%)


Nodiadau i Olygyddion

Tabl o’r deg rhaglen deledu a gafodd eu gwylio fwyaf yng Nghymru yn 2023

Safle 

Teitl 

Sianel 

Dyddiad darlledu 

Cynulleidfa gyfartalog (000oedd) 

Cyfran (%) 

Tân Gwyllt Nos Calan 

BBC One 

31/12/2023 

722 

61.7 

Happy Valley 

BBC One 

29/01/2023 

656 

39.5 

Cwpan Rygbi’r Byd 

ITV1 Wales 

24/09/2023 

610 

53.5 

Death in Paradise 

BBC One 

06/01/2023 

545 

47.2 

Eurovision Song Contest 

BBC One 

13/05/2023 

522 

63.2 

Beyond Paradise 

BBC One 

24/02/2023 

519 

44.4 

Rygbi'r Chwe Gwlad 

BBC One 

11/02/2023 

515 

57.2 

I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! 

ITV1 Wales 

19/11/2023 

511 

47.3 

The Gold 

BBC One 

12/02/2023 

491 

33.0 

10 

Coroni’r Brenin a’r Frenhines Camilla (prynhawn) 

BBC One 

06/05/2023 

481 

50.7 

Yn ôl i'r brig