Mae’r ffordd y mae pobl yn defnyddio ac yn teimlo ac yn meddwl am wahanol fathau o gyfryngau yn newid drwy’r amser. Yn ein hymchwil ddiweddaraf ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, rydym yn edrych yn fanwl ar sut mae pobl ledled y DU yn dod o hyd i fyd sy’n mynd yn fwyfwy ar-lein.
Mae’r astudiaeth eleni, a gyhoeddwyd ynghyd â’n hymchwil i fywydau ar-lein plant, yn edrych ar sut mae oedolion ledled y DU yn teimlo am faterion sy’n cynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) ac effaith bod ar-lein ar eu hiechyd meddwl.
Yma, gwnaethom amlinellu rhai o brif ganfyddiadau adroddiad eleni.
- Mae oedolion yn fwy tebygol o ymddiried mewn cynnwys gan berson na chynnwys deallusrwydd artiffisial, ond ydyn nhw’n gallu dweud y gwahaniaeth?
Mae ein hastudiaeth yn dangos y byddai'r rhai sy'n ymwybodol o ddeallusrwydd artiffisial yn fwy tebygol o ymddiried mewn erthygl a gafodd ei hysgrifennu gan berson, yn hytrach na rhywbeth a gafodd ei greu gan ddeallusrwydd artiffisial. Ond dim ond tua chwarter yr oedolion (27%) ddywedodd eu bod yn teimlo’n hyderus eu bod yn gallu adnabod cynnwys deallusrwydd artiffisial ar-lein. Mewn amgylchedd wedi’i reoli, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn ein hastudiaeth o'r Cyfryngau ym Mywyd Oedolion yn gallu gwahaniaethu rhwng cynnwys go iawn a chynnwys sy’n cael ei greu gan ddeallusrwydd artiffisial, ond roedd llawer wedi mynegi pryderon ynghylch pa mor realistig roedd y cynnwys deallusrwydd artiffisial hwn yn edrych, gan amau y byddent yn gallu adnabod gwybodaeth ffug yn y byd go iawn. - Mae mwy o bobl yn teimlo bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn dda ar gyfer eu hiechyd meddwl.Er bod trafodaeth gyhoeddus yn aml yn canolbwyntio ar effaith negyddol bosibl bod ar-lein, yn ein hastudiaeth, dywedodd tua dwy ran o bump (39%) o oedolion sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol fod y safleoedd neu’r apiau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl. Mae hyn wedi codi o 35% yn 2022. Yn gyffredinol, dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr (56%) fod manteision bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn drech na’r risgiau – hefyd wedi codi o 52% yn 2022. Yr unig grŵp oedran lle nad oedd y mwyafrif yn cytuno â hyn oedd pobl dros 65 oed.
- Efallai y bydd rhai oedolion yn lledaenu straeon anwir yn ddamweiniol wrth ddod ar eu traws ar-lein.
Dywedodd ychydig o dan hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn ein hastudiaeth (45%) eu bod wedi gweld stori a oedd yn fwriadol anghywir neu’n gamarweiniol ar y cyfryngau cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid oedd pedwar o bob deg o’r rheini wedi cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i weld y cynnwys hwn, ac roedd 14% wedi rhannu’r stori ymhellach i dynnu sylw eraill. Ond mae gwneud hyn yn gallu cynyddu’r risg i bobl eraill – gan ddatgelu gwybodaeth ffug i gynulleidfa ehangach. - Mae rhai pobl yn teimlo bod cadw’n ddiogel rhag sgamwyr yn her.
Dywedodd y rhan fwyaf o oedolion eu bod yn teimlo’n ddigon hyderus i allu adnabod neges e-bost neu neges destun amheus. Ond wrth gyflwyno enghraifft o neges e-bost sgam, fe wnaeth mwy nag un o bob 10 (12%) ymateb mewn ffordd a allai fod wedi eu gwneud yn agored i sgam. Ac mae chwarter yr oedolion yn y DU sy’n defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein yn cyfaddef eu bod wedi defnyddio’r un cyfrinair mewn sawl lle, yn hytrach na defnyddio cyfrineiriau unigryw – a allai eu rhoi mewn perygl o dwyll. Edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer cadw’n ddiogel rhag sgamwyr. - Mae nifer leiafrifol o gartrefi yn y DU sy’n parhau i fod all-lein, gyda rhai oedolion yn dibynnu ar ffôn clyfar i gael mynediad i’r rhyngrwyd.
Mae bron pob oedolyn yn y DU ar-lein, ond mae 6% o gartrefi yn parhau i fod heb fynediad i’r rhyngrwyd gartref, ffigur sydd wedi aros yn sefydlog ers 2021. Ac mae bron i un oedolyn o bob pump (17%) yn dibynnu’n llwyr ar ffôn clyfar i fynd ar-lein, gan godi i tua thri o bob deg o’r rheini sy’n dod o aelwydydd DE.
Mae deall y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwahanol gyfryngau a’u gallu i ddelio â’r byd ar-lein yn hyderus yn rhan hanfodol o’n rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau (MSOM) i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Ynghyd ag ymchwil heddiw, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein cyfres o egwyddorion arferion gorau ar gyfer Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau drwy Ddylunio. Wedi’i ddatblygu gyda chefnogaeth ac ymgysylltiad yr academyddion, y platfformau a’r grwpiau diddordeb sy’n cael eu cynrychioli ar ein gweithgor allanol, mae’r egwyddorion yn tynnu sylw at yr arferion gorau o ran sut gall gwasanaethau ar-lein hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar eu platfformau.
Ar y cyd ag arbenigwyr Mewnwelediadau Ymddygiadol Ofcom, fe wnaethom hefyd gynnal ymchwil i greu tystiolaeth am ymyriadau ar-blatfform – gan gynnwys edrych ar sbardunau i annog pobl i wneud dewis gweithredol am y cynnwys maen nhw’n ei weld.
Rydym yn gwahodd pob platfform sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith hwn, neu sydd eisiau dangos sut byddan nhw’n defnyddio’r egwyddorion, i gysylltu â’n tîm Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau.
Rhagor o wybodaeth am ein rhaglen ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, sef Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau.