Cyhoeddwyd:
31 Gorffennaf 2024
Mae adroddiad blynyddol Cyfryngau'r Genedl Ofcom yn adroddiad ymchwil ar gyfer y diwydiant, llunwyr polisïau, academyddion a defnyddwyr. Ein prif amcanion yw cofnodi newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr a phatrymau pwysig yn y sector cyfryngau a nodi sut wasanaeth gaiff cynulleidfaoedd yn y DU.
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n ymdrin â themâu a materion penodol sy’n berthnasol i’r gwledydd hynny.
Adroddiad y DU
Prif bwyntiau:
- Roedd y gostyngiad mewn cyrhaeddiad teledu sy’n cael ei ddarlledu wedi cyflymu yn 2023, er bod lefel y gwylio wedi gostwng ar gyfradd arafach nag yn y flwyddyn flaenorol ym mhob grŵp oedran
- Roedd gwylio teledu a fideos yn gyffredinol wedi cynyddu yn 2023, wedi’i sbarduno gan blatfformau ar-lein, gan gynnwys platfformau rhannu fideos fel YouTube, a gwasanaethau’r darlledwyr eu hunain fel iPlayer ac ITVX
- Roedd refeniw darlledwyr masnachol wedi disgyn yn 2023 mewn dirywiad economaidd, roedd hyn wedi gwrthbwyso twf parhaus refeniw fideos ar-lein bron yn llwyr
- Roedd gwariant ac allbwn darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei ddangos am y tro cyntaf wedi disgyn yn 2023, ar ôl iddynt gyrraedd y lefelau uchaf erioed yn 2022, a ddigwyddodd oherwydd effeithiau hir Covid a natur gylchol digwyddiadau chwaraeon mawr
- Mae’r farchnad gwasanaethau fideo ar alw drwy danysgrifiad wedi aeddfedu, gyda niferoedd y tanysgrifwyr yn sefydlogi, a chyflwyno haenau sy’n cael eu cefnogi gan hysbysebion i sbarduno twf yn y dyfodol
- Cafwyd perfformiadau cymysg o fewn twf cyffredinol radio masnachol, tra bod gwariant defnyddwyr ar gerddoriaeth wedi’i recordio yn parhau i gynyddu
- Er bod mwy a mwy o wrando ar-lein, mae niferoedd nas gwelwyd o’r blaen o wrandawyr yn gwrando ar radio bob wythnos, ac roedd cyfartaledd yr amser gwrando wedi codi o un flwyddyn i'r llall
- Mae cyrhaeddiad ffrydio cerddoriaeth a phodlediadau yn cynyddu’n raddol, gydag arwyddion o dwf posibl ymysg pobl 55 oed a hŷn
- Gwrando’n fyw ar y radio drwy set radio yw’r math mwyaf poblogaidd o sain mewn ceir o hyd, ond mae cysylltedd ffonau clyfar a mynediad at wasanaethau ffrydio hefyd yn bwysig