Y Cyfryngau ym Mywyd Oedolion

Cyhoeddwyd: 26 Medi 2023

Cafodd yr astudiaeth, Y Cyfryngau ym Mywyd Oedolion, ei chreu gan Ofcom yn 2005. Mae hon yn astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl ar raddfa fach sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau. Mae’r prosiect yn dilyn yr un 19 unigolyn dros gyfnod ac yn cyfweld â nhw ar gamera bob blwyddyn i drafod eu harferion a'u hagweddau yng nghyswllt cyfryngau.

Mae’r cyfweliadau’n rhoi tystiolaeth ynghylch yr hyn sy’n eu cymell i ddefnyddio cyfryngau a chyd-destun hynny, a sut mae dyfeisiau a gwasanaethau cyfryngau yn rhan o fywyd bob dydd ac amgylchiadau domestig. Mae’r prosiect hefyd yn rhoi manylion gwerthfawr i ni ynghylch sut mae arferion ac agweddau yng nghyswllt cyfryngau yn newid dros amser, yn enwedig o ran cyfnod unigolyn mewn bywyd.

Yn ôl i'r brig