Couple on couch watching TV with a smart speaker in the foreground

Y genhedlaeth ‘Gen Z’ yn troi draw oddi wrth deledu darlledu traddodiadol wrth i lai na hanner wylio bob wythnos

Cyhoeddwyd: 31 Gorffennaf 2024

Am y tro cyntaf, mae llai na hanner pobl ifanc 16-24 oed yn gwylio teledu darlledu mewn wythnos arferol, yn ôl astudiaeth flynyddol Ofcom o arferion cyfryngau’r wlad.

Dim ond 48% o gynulleidfaoedd ifanc fu’n gwylio mewn wythnos gyffredin y llynedd, sef gostyngiad o’r 76% yn 2018. Mae plant 4-15 oed yn troi draw ar gyfradd debyg, gyda dim ond 55% yn gwylio teledu darlledu bob wythnos yn 2023, o’i gymharu ag 81% yn 2018. Yn gyffredinol, roedd cyrhaeddiad wythnosol teledu traddodiadol wedi gostwng yn fwy nag erioed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Nid gwylio teledu darlledu yn llai aml yn unig y mae cynulleidfaoedd iau rhwng 16 a 24 oed, maent hefyd yn gwylio am gyfnodau byrrach, am ddim ond 33 munud y dydd – i lawr 16% o'r naill flwyddyn i’r llall. O’r rhain, 20 munud yn unig sy’n cael ei dreulio’n gwylio teledu byw.   

O’i gymharu, maent yn treulio deirgwaith yn fwy o amser y dydd (1 awr 33 munud) yn gwylio llwyfannau rhannu fideos fel TikTok a YouTube.   

Dyma rai canfyddiadau eraill:

Teledu a fideo

  • Yn gyffredinol, roedd pobl yn y DU yn gwylio mwy o gynnwys teledu a fideo gartref yn 2023, ar gyfartaledd 4 awr a 31 munud y dydd (i fyny o 6 munud/2% ers 2022). Cafodd hyn ei sbarduno’n bennaf gan gynnydd yn lefelau gwylio dyddiol llwyfannau rhannu fideos (i fyny 12% i 49 munud) ac i wasanaethau fideo ar-alw darlledwyr, fel iPlayer ac ITVX (i fyny 29% i 20 munud). 
  • Mae sgriniau teledu yn prysur ddod yn fwy poblogaidd ar gyfer gwylio cynnwys YouTube. Mae tri deg pedwar y cant o’r amser a dreulir yn gwylio YouTube gartref bellach yn digwydd ar set deledu – i fyny o 29% yn 2022. Mae hyn yn cynyddu i 45% ymysg plant 4-15 oed – i fyny o 36% yn 2022. 
  • Roedd gwylio gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio (SVoD) yn ddyddiol wedi gweld twf mwy ymylol yn 2023 (i fyny 6% i 38 munud). Netflix yw’r gwasanaeth mwyaf poblogaidd o hyd – mae’n cael ei wylio am 21 munud y pen bob dydd ar gyfartaledd, a dyma mwy na hanner yr holl wylio sy’n digwydd ar fideo ar-alw drwy danysgrifio. 

Radio

  • Yn ystod chwarter cyntaf 2024 gwelwyd y nifer uchaf o wrandawyr radio wythnosol ar draws pob dyfais yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf (ychydig o dan 50 miliwn). Mae’r amser gwrando hefyd yn cynyddu o’r naill flwyddyn i’r llall, i 20.5 awr yr wythnos ar gyfartaledd. 
  • Mae llawer o hyn wedi digwydd oherwydd llwyddiant parhaus radio masnachol – mae ychydig dros saith o bob 10 o bobl 15 oed a hŷn yn gwrando ar orsafoedd masnachol o leiaf unwaith yr wythnos (70.4%) o’i gymharu â 55.6% ar gyfer gorsafoedd y BBC.
  • Mae gwrando ar radio ar-lein yn dal i dyfu’n gyson, gan oddiweddyd radio analog (AM/FM) am y tro cyntaf eleni ac erbyn hyn dyma dros chwarter (28%) yr holl oriau radio byw, yn bennaf drwy seinyddion clyfar. 

Mae Ofcom hefyd wedi llunio adroddiadau ar wahân sy’n edrych ar arferion cyfryngau pobl yng  Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Yn ôl i'r brig