Two people watching television together

Darlledwyr yng Nghymru yn dal yn boblogaidd er i gynulleidfaoedd groesawu llwyfannau newydd

Cyhoeddwyd: 3 Awst 2023
Diweddarwyd diwethaf: 3 Awst 2023
  • Mae cynnwys gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn dal i gael ei werthfawrogi’n fawr er bod toreth o ddarparwyr cynnwys
  • Dim ond un wlad arall yn y Deyrnas Unedig sy’n gwylio mwy o deledu wedi’i ddarlledu na Chymru
  • BBC One (38%) ac ITV Cymru Wales (28%) yw’r ffynonellau newyddion mwyaf poblogaidd a’r ail fwyaf poblogaidd o hyd ar gyfer newyddion am y wlad
  • Mae mwy a mwy yn defnyddio seinyddion clyfar a ffonau clyfar i wrando ar y radio. Analog a DAB oedd y llwyfannau mwyaf poblogaidd ar gyfer gwrando ar y radio yn Ch1 2023

Er bod mwy a mwy o gystadleuaeth gan wasanaethau ffrydio byd-eang, mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddarparu cynnwys sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan wylwyr, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Ofcom ar y sectorau teledu, fideo ar-lein, radio a sain. Mae Cyfryngau'r Genedl: Cymru 2023 yn canfod bod tri chwarter (75%) o’r rheini a oedd yn gwylio cynnwys gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru – BBC, ITV, S4C, Channel 4 a Channel 5 – wedi dweud bod y darlledwyr wedi perfformio’n dda o ran darparu ‘amrywiaeth eang o wahanol fathau o raglenni, fel drama, comedi, adloniant neu chwaraeon.’Mae’r ffigur hwn yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU.

Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn llwyddo i ddod â’r genedl at ei gilydd

Mae canfyddiad y cyhoedd o’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn gadarnhaol, gyda saith gwyliwr o bob deg yng Nghymru (69%) yn dweud eu bod yn fodlon arnyn nhw’n gyffredinol. Mae’r ffigur hwn yn gyson â chyfartaledd y DU. Roedd canran debyg o wylwyr (68%) yn cydnabod cyfraniad y darlledwyr hyn at ddarparu ‘rhaglenni sy’n fy helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn y byd heddiw.’

Roedd rhaglenni a gynhyrchwyd gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, chwaraeon byw a digwyddiadau arbennig yn benodol, yn dominyddu’r rhestr o raglenni a gafodd eu gwylio fwyaf yn 2022. Ac o ystyried cariad Cymru at rygbi, nid yw’n syndod mai gêm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad oedd y rhaglen a gafodd ei gwylio fwyaf gyda chynulleidfa gyfartalog o 652,000. Angladd Gwladol EM y Frenhines Elizabeth II oedd yn yr ail safle gyda 624,000 o wylwyr a Chwpan y Byd FIFA oedd yn y trydydd safle gyda 612,000.

Mae gwylwyr yn dal i droi at gynnwys gan ein darlledwyr

Er bod gwylwyr yng Nghymru wedi gwylio mwy o gynnwys gan wasanaethau ffrydio sy’n cael eu darparu dros y rhyngrwyd, fel Netflix a Disney+ na gwylwyr mewn unrhyw wlad arall yn 2022, cafodd 61% o’u hamser ei dreulio yn gwylio cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddarlledwyr traddodiadol – sy’n cynnwys teledu byw, teledu wedi’i recordio a fideo ar-alw darlledwyr fel BBC iPlayer, ITVX ac S4Clic.

Gyda darlledwyr yn digideiddio eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cyfnewidiol cynulleidfaoedd, mae’r defnydd o’u gwasanaethau fideo ar-alw, fel BBC iPlayer ac ITVX, yn dal i dyfu. BBC iPlayer oedd y gwasanaeth ffrydio mwyaf poblogaidd yng Nghymru ar 73%, ac yna All 4 (48%) ac ITVX, a lansiwyd yn ystod 2022 ar 45%.

Mae lefelau gwylio teledu wedi’i ddarlledu ar set deledu yn parhau i ddisgyn ar draws y DU. Nid yw Cymru yn eithriad, gyda’r cyfanswm yn disgyn o 3 awr ac 8 munud y dydd yn 2021 i 2 awr a 45 munud y dydd yn 2022. Mae’r gostyngiad hwn yn cyd-fynd â gostyngiad cyfartalog y DU, ac mae’n dal i olygu bod gwylwyr Cymru yn gwylio mwy o deledu wedi’i ddarlledu na phob gwlad arall heblaw un.

Mae gwahaniaeth amlwg rhwng grwpiau oed gwahanol o ran faint o deledu wedi’i ddarlledu sy’n cael ei wylio ar set deledu. Er i bobl dros 54 oed wylio am 4 awr a 58 munud y dydd ar gyfartaledd – mwy nag unrhyw grŵp oedran arall – dim ond am 43 munud y dydd roedd plant 4-15 oed yn gwylio, yr isaf o unrhyw grŵp oedran.

Er bod toreth o ffynonellau newyddion ar gael, BBC One (38%) ac ITV Cymru Wales (28%) oedd y ffynonellau newyddion mwyaf poblogaidd a’r ail fwyaf poblogaidd ar gyfer newyddion am y wlad. Wedyn roedd Facebook (25%), ac yna gwefan/ap y BBC (13%), tra bod ffynonellau ar-lein eraill yn cael eu defnyddio gan lai na 10% at y diben hwn.

Wrth edrych ar newyddion yn gyffredinol, roedd dros hanner oedolion Cymru (55%) yn defnyddio BBC One, sy’n golygu mai dyma’r ffynhonnell newyddion sy’n cael ei defnyddio amlaf, ac yna ITV Cymru Wales (40%). Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn uchel hefyd, a Facebook oedd y drydedd ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd (37%), a Twitter (20%) ac Instagram (18%) yn seithfed ac wythfed yn y drefn honno. BBC Radio 2 oedd y brif orsaf radio a nodwyd (14%). Ni ymddangosodd unrhyw bapur newydd yn y deg uchaf.

Mae radio yn dal yn boblogaidd ymysg gwrandawyr yng Nghymru

Mae radio yn dal yn ffynhonnell gynnwys boblogaidd i wrandawyr yng Nghymru, gydag 87% o oedolion yn gwrando bob wythnos. Mae llawer o’r rheini sy’n gwrando yn gwneud hynny am bron i awr a hanner yn hirach (21 awr a 48 munud – o’i gymharu â chyfartaledd y DU sef 20 awr 24 munud).

Mae’r rhan fwyaf o’r gwrando yng Nghymru yn dal i fod ar wasanaethau radio’r BBC sy’n cyfrif am 56.7% o’r holl wrando. Mae hyn yn cymharu â 46.4% yn y DU drwyddi draw. Mae’r gyfran sy’n gwrando ar wasanaethau masnachol lleol ledled y DU yng Nghymru yn 22.7% o’i chymharu â 19.4% ar gyfer gwasanaethau masnachol lleol.

Mae gwrando ar radio ar-lein yn dal i ddod yn fwyfwy poblogaidd wrth i ffonau clyfar, seinyddion clyfar a dyfeisiau ar-lein eraill roi cyfrif am 14.2% o’r holl wrando ar radio yng Nghymru. Fodd bynnag, ar lwyfannau DAB (35.6%) ac AM/FM (36.5%) mae’r rhan fwyaf o wrando yn digwydd.

Mae’r bwlch rhwng argaeledd gwasanaethau DAB y BBC ledled y DU (92.2%) ac argaeledd gwasanaethau DAB masnachol lleol (82.6%) yn parhau. Mae’r gwahaniaeth yn arbennig o amlwg ar brif ffyrdd lle mae gwasanaethau DAB masnachol lleol ond ar gael ar 60.9% o ffyrdd yng Nghymru o’i gymharu â gwasanaethau DAB y BBC ledled y DU sydd ar gael ar 78.1% o’r prif ffyrdd.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae’r ffigurau ar gyfer teledu wedi’i ddarlledu ar gyfer gwylio cyfunol dros 28 diwrnod ar set deledu. Mae gwylio cyfunol yn cynnwys gwylio rhaglenni ar yr adeg y cawsant eu darlledu (gwylio byw) yn ogystal â recordiadau ar recordwyr fideo digidol (DVRs) a thrwy wasanaethau fideo ar-alw darlledwyr ar-lein (BVoD) (e.e. BBC iPlayer, ITVX, a Sky Go/Sky TV On Demand) hyd at 28 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf (gwylio’n ddiweddarach).

    Mae cyrraedd wythnosol yn cael ei ddiffinio fel canran o’r holl unigolion 4 oed a hŷn sy’n gwylio 15 munud yn olynol neu fwy mewn wythnos gyffredin.

  2. Mae’r ffigurau ar gyfer cyrraedd radio, oriau cyfartalog, cyfran y gwrando ar radio ar seinyddion clyfar a chyrraedd podlediadau yn ymwneud â RAJAR Ch1 2023. Dyma oedd y ffigurau diweddaraf adeg ysgrifennu’r adroddiad. Bydd data RAJAR ar gyfer Ch2 2023 yn cael ei ryddhau ddydd Iau 3 Awst.

  3. Dyma’r deg rhaglen a gafodd eu gwylio fwyaf, a’r bennod a wnaeth orau ym mhob teitl: 2022

Safle

Teitl y rhaglen

Sianel

Dyddiad

Cynulleidfa gyfartalog (000oedd)

Cyfran y rhaglen (%)

1

Rygbi’r Chwe Gwlad; Cymru v Ffrainc

BBC One

11/03/2022

652

48.8

2

Angladd Gwladol EM y Frenhines Elizabeth II (rhan 2)

BBC One

19/09/2022

624

62.7

3

Cwpan Pêl-droed y Byd FIFA 2022

BBC One

29/11/2022

612

56.2

4

Cwpan y Byd

ITV1 Wales

21/11/2022

573

51.6

5

Happy New Year Live!

BBC One

31/12/2022

561

50.1

6

Strike

BBC One

11/12/2022

560

45.6

7

Jiwbilî Blatinwm y Frenhines

BBC One

04/06/2022

551

59.0

8

Rygbi’r Chwe Gwlad; Lloegr v Cymru

ITV1 Wales

26/02/2022

540

59.7

9

Angladd Gwladol EM y Frenhines Elizabeth II (rhan 1)

BBC One

19/09/2022

539

61.9

10

I'm a Celebrity... Get Me Out of Here!

ITV1 Wales

09/11/2022

535

42.2

Yn ôl i'r brig