Deall camwybodaeth: archwiliad o ymddygiad ac agweddau oedolion y DU

Cyhoeddwyd: 27 Tachwedd 2024

Mae'r ymchwil hwn wedi'i gynnal i helpu i lywio dyletswydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau Ofcom i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o natur ac effaith camwybodaeth a gwybodaeth anghywir ar-lein, yn ogystal â ffyrdd o liniaru amlygiad i wybodaeth o'r fath.

Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth o sut mae oedolion y DU yn meddwl ac yn teimlo am wybodaeth “anwir neu gamarweiniol”: ble maen nhw'n ei gweld, pam maen nhw'n meddwl ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol, a beth maen nhw'n ei wneud ac yn ei deimlo o ganlyniad.

Mae’r ymchwil yn archwilio agweddau craidd yn y maes newyddion, yn ogystal â barn oedolion y DU am rai arferion cynhyrchu newyddion, ac a ydynt yn ymwybodol o rai o’r ffyrdd y caiff newyddion ei gynhyrchu. Mae hefyd yn nodi grwpiau a allai fod yn agored i wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dim ond rhan o’r stori yw’r achosion a adroddir o ddod ar draws gwybodaeth anghywir, a gofynnwn amrywiaeth o gwestiynau eraill i ddeall natur credoau ac agweddau pobl tuag at y wybodaeth newyddion y maent yn ei defnyddio.

Cynhaliwyd yr ymchwil ar-lein rhwng 27 Mehefin ac 2 Gorffennaf 2024 gan YouGov, gan ddefnyddio ymatebwyr o banel ar-lein YouGov. Mae’r sampl yn cynnwys 4,269 o oedolion 16+ oed sy’n gynrychioliadol yn wleidyddol yn y DU, gan ystyried pleidlais a alwyd yn ôl a rhywfaint o sylw gwleidyddol i gynnwys amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys y rhai na phleidleisiodd neu a oedd yn rhy ifanc.

Yn ôl i'r brig