- Sgrolwyr newyddion cymdeithasol ifanc yn llai tebygol o fynd yn uniongyrchol i wefannau newyddion
- Enwogion, chwaraeon a newyddion cerddoriaeth yn dominyddu deiet newyddion cymdeithasol pobl ifanc
- BBC One yn parhau fel y ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf yn gyffredinol ymhlith oedolion, ond mae dirywiad graddol yn parhau
- Cyrhaeddiad papurau newydd print yn sefydlog eleni ar ôl dirywiad hirdymor
Ffynonellau newyddion ar-lein - yn enwedig gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol - yw'r prif ddulliau i bobl ifanc yn y DU gyrchu newyddion, gan olygu bod eu perthynas uniongyrchol â brandiau newyddion traddodiadol yn gwanhau, yn ôl Ofcom.
Mae adroddiad Cael Gafael ar Newyddion yn y DU 2022/23 Ofcom yn datgelu bod pobl ifanc 16-24 oed hŷn yn llawer mwy tebygol o gael gafael ar newyddion ar-lein nag oedolion yn gyffredinol (83% o'i gymharu â 68%). Ac maent fel arfer yn gwneud hynny trwy'r cyfryngau cymdeithasol ar eu ffonau symudol (63% o'i gymharu â 39%).
Mae pobl yn y grŵp oedran hwn hefyd yn llawer llai tebygol na'r oedolyn cyffredin o gael gafael ar gynnwys newyddion o ffynonellau cyfryngau traddodiadol, fel teledu (47% yn erbyn 70%), radio (25% yn erbyn 40%) a phapurau newydd printiedig (16% yn erbyn 26%).
Mae'r astudiaeth hefyd yn nodi bod pobl ifanc 16-24 oed yn cyrchu newyddion ar-lein mewn ffordd wahanol i genedlaethau hŷn. Maent yn llawer llai tebygol nag oedolion eraill o lywio'n syth i wefannau newyddion traddodiadol (9% o'i gymharu â 26%) ac yn hytrach yn mynd trwy'r cyfryngau cymdeithasol (37% o'i gymharu â 24%). Mae'r ymddygiad hwn yn awgrymu bod gan bobl ifanc lai o gysylltiad uniongyrchol â brandiau newyddion sefydledig.
Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn dominyddu'r pum ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc 16-24 oed. Instagram (44%) yw'r ffynhonnell newyddion unigol a ddefnyddir fwyaf, wedi'i dilyn gan Facebook 33%, Twitter 31%, a TikTok, 29%. Yn dod yn ail ar y cyd, BBC One (33%) yw'r unig ffynhonnell gyfryngau draddodiadol i ymddangos yn eu pump uchaf.
Ymhlith y plant ieuengaf yn yr astudiaeth rhwng 12-15 oed, TikTok yw'r ffynhonnell newyddion unigol a ddefnyddir fwyaf ar draws yr holl lwyfannau (28%), wedi'i dilyn gan YouTube (25%) ac Instagram (25%). Fodd bynnag, gan gymryd yr holl gynnwys newyddion ar draws ei llwyfannau i ystyriaeth, y BBC sydd â'r cyrhaeddiad uchaf o hyd o unrhyw sefydliad newyddion ymhlith y grŵp oedran hwn (39%).
Y pynciau newyddion sydd o ddiddordeb mwyaf i bobl ifanc yn gyffredinol yw: ‘chwaraeon neu bersonoliaethau chwaraeon' (23%), 'newyddion am gerddoriaeth neu gantorion' (15%), 'enwogion neu bobl enwog' (11%), 'pethau difrifol sy'n digwydd yn y DU' (8%) a newyddion am 'anifeiliaid neu'r amgylchedd' (9%). Mae gan bynciau newyddion ysgafnach apêl benodol ar draws y gwefannau cyfryngau cymdeithasol TikTok, Instagram, Facebook a Snapchat.
Ac yn awr…
Mae adroddiad blynyddol Ofcom hefyd yn edrych yn ehangach ar arferion newyddion oedolion y DU ar draws y teledu, radio, print, cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, gwefannau ac apiau eraill, a chylchgronau.
Mae newyddion teledu a ddarlledir yn cynnal ei safle fel y ffynhonnell fwyaf poblogaidd, gan gael ei defnyddio gan 70% o oedolion y DU. Mae hyn yn cynyddu i 75% pan fydd cynnwys newyddion ar-alw ar ffurf fideo a ddarlledir yn cael ei gynnwys. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod yn rym amlwg wrth ddarparu newyddion, gan gyrraedd 94% o gynulleidfaoedd newyddion teledu gyda'i gilydd. Y tu hwnt i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a Sky News, nid oes unrhyw sianel deledu arall sy'n cynnig newyddion yn cyrraedd mwy nag 8% o gynulleidfaoedd teledu'r DU.
BBC One (49%) yw'r ffynhonnell newyddion unigol a ddefnyddir fwyaf ar draws pob llwyfan, ac yna ITV (34%) - ond mae'r ddwy sianel hyn wedi gweld gostyngiad graddol dros y pum mlynedd diwethaf (i lawr o 62% a 41% yn y drefn honno). Yn yr un modd, mae Facebook - y drydedd ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd ymhlith oedolion - yn dangos ychydig o ddirywiad, o 33% i 30% dros yr un cyfnod.
Mewn cyferbyniad, mae poblogrwydd TikTok fel ffynhonnell newyddion yn tyfu, gydag un o bob 10 oedolyn (10%) yn ei ddefnyddio i gadw i fyny â'r straeon diweddaraf - gan drechu BBC Radio 1 (8%) a Channel 5 (8%) am y tro cyntaf.
Mae TikTok (55%), ynghyd ag Instagram (53%), yn arbennig o boblogaidd ymhlith oedolion ar gyfer newyddion am enwogion. Twitter yw'r gyrchfan a ffafrir ar gyfer newyddion newydd dorri (61%) a newyddion gwleidyddol (45%), a Facebook yw'r ffynhonnell a ffafrir ar gyfer newyddion lleol (59%).
Ac yn olaf…
Gan ddilyn dirywiad hirdymor yn y defnydd o bapurau newydd printiedig - gyda chyrhaeddiad cyffredinol y brandiau newyddion hyn yn cael ei ategu gan eu llwyfannau digidol – dengys ein data diweddaraf y bu i gyrhaeddiad papurau newydd printiedig aros yn sefydlog rhwng 2022 a 2023.
Mae ychydig dros chwarter o oedolion (26%) bellach yn cyrchu newyddion trwy bapurau newydd printiedig, gan gynyddu i 39% wrth gynnwys eu llwyfannau ar-lein.
Daily Mail / Mail on Sunday a Guardian/Observer yw'r teitlau print a newyddion digidol mwyaf poblogaidd yn gyffredinol.