A person looking at news websites on their mobile phone and laptop

Roedd pedwar oedolyn o bob 10 yn y Deyrnas Unedig wedi dod ar draws camwybodaeth

Cyhoeddwyd: 27 Tachwedd 2024

Mae pedwar oedolyn o bob deg yn y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod wedi dod ar draws camwybodaeth neu gynnwys ffugiad dwfn yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom.

Ymysg y rhai sydd wedi dod ar draws gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, mae saith o bob deg (71%) yn dweud eu bod wedi’i gweld ar-lein. Mae pedwar o bob deg (43%) yn dweud eu bod wedi gweld camwybodaeth ar y teledu, ac un o bob pump (21%) drwy bapurau newydd print neu eu gwefannau/apiau cysylltiedig.

Mae dynion, oedolion ifanc, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a grwpiau LHD+, yn ogystal â phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dod ar draws camwybodaeth.

Cynhaliwyd yr ymchwil yn ystod yr wythnos cyn yr Etholiad Cyffredinol a chanfu fod ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi gweld gwybodaeth ffug neu gamarweiniol am wleidyddiaeth y DU, gan gynnwys yr Etholiad Cyffredinol, (39%), ac yna gwleidyddiaeth a materion cyfoes rhyngwladol (33%), a gwybodaeth iechyd a meddygol (25%).

Daw’r newyddion wrth i Ofcom heddiw gyhoeddi penodi’r Arglwydd Richard Allan – sydd eisoes yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Ofcom – yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Dwyllwybodaeth a Chamwybodaeth newydd. Heddiw, rydym hefyd yn lansio ymgyrch recriwtio i benodi cyd-aelodau pwyllgor sydd ag arbenigedd yn y maes hwn.

Delio â chamwybodaeth

Mae dros dri chwarter (77%) oedolion y Deyrnas Unedig yn cytuno ei bod yn bwysig gwirio gwahanol ffynonellau newyddion, ac mae saith o bob deg (71%) yn cydnabod y bydd gwybodaeth ar-lein bob amser yn gymysgedd o wybodaeth ddibynadwy ac annibynadwy.

Mae bron i hanner y bobl (45%) yn teimlo eu bod yn gallu barnu’n hyderus a yw ffynonellau gwybodaeth yn wir. Ond dim ond 30% sy’n teimlo eu bod yn gallu barnu’n hyderus a yw delwedd, sain neu fideo wedi cael ei gynhyrchu gan AI.

Pan ofynnwyd iddynt sut maen nhw’n delio â chamwybodaeth yn ymarferol, mae bron i hanner (47%) yn dweud eu bod yn anwybyddu’r cynnwys ac yn symud ymlaen. Mae chwarter (26%) yn dweud eu bod yn defnyddio peiriant chwilio i ddod o hyd i ffynhonnell fwy awdurdodol, ac mae cyfran debyg (24%) yn dweud y byddent yn gwirio’r wybodaeth ar wefan newyddion ddibynadwy.

Hyder mewn newyddion

Wedi dweud hynny, mae llawer o bobl yn amheus o brosesau cynhyrchu newyddion confensiynol. Mae tua phedwar o bob deg (44%) yn cytuno gyda’r datganiad mai po fwyaf y mae stori’n cael ei golygu, y lleiaf tebygol yw hi o fod yn wir, tra bod cyfran debyg yn meddwl bod straeon pwysig yn cael eu cuddio’n fwriadol gan ffynonellau newydd traddodiadol (42%). Yn yr un modd, dim ond traean (32%) sy’n cytuno bod newyddiadurwyr yn dilyn codau ymarfer.

Mae’r ddrwgdybiaeth hon yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd eraill hefyd. Pan ofynnwyd iddynt benderfynu pa ddatganiadau am faterion cyfoes oedd yn gywir neu’n anghywir, mae tri o bob deg oedolyn (29%) yn y DU yn credu bod un grŵp o bobl sy’n rheoli’r byd gyda’i gilydd yn gyfrinachol, ac mae ffigur tebyg (30%) yn credu bod tystiolaeth sylweddol o dwyll etholiadol ar raddfa fawr.

Mae gan Ofcom gyfrifoldeb ar hyn o bryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein hefyd wedi ychwanegu rhagor o ddyletswyddau penodol i feithrin ymwybyddiaeth o sut y gall pobl - yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn perygl o niwed - ddiogelu eu hunain ac eraill ar-lein, tra’n annog defnyddio technolegau a systemau gan wasanaethau sy’n eu galluogi i wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar ein gwefan.

Pwyllgor Cynghori ar Dwyllwybodaeth a Chamwybodaeth

O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae’n rhaid i Ofcom sefydlu a chynnal pwyllgor cynghori ar dwyllwybodaeth a chamwybodaeth, gyda Chadeirydd wedi’i benodi gan Ofcom, ac aelodau eraill wedi’u penodi gan Fwrdd Ofcom.

Mae’n rhaid i’r Pwyllgor gynghori Ofcom ar y canlynol:

  • sut dylai darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ddelio â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth ar wasanaethau o’r fath,
  • sut mae Ofcom yn arfer ei bwerau tryloywder i fynnu gwybodaeth gan wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio am faterion sy’n ymwneud â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth, ac
  • sut mae Ofcom yn arfer ei ddyletswyddau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn perthynas â mynd i’r afael â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth ar wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio.

O ystyried pwysigrwydd y Pwyllgor hwn a’i waith, ac i sicrhau atebolrwydd ar lefel uwch, mae Ofcom heddiw’n cyhoeddi y bydd yn cael ei arwain gan aelod presennol o Fwrdd Ofcom, yr Arglwydd Richard Allan.

Heddiw, rydym hefyd yn lansio ymgyrch recriwtio i benodi arbenigwyr yn y maes hwn i’r Pwyllgor, gyda’r bwriad o lunio rhestr derfynol o aelodau yn gynnar yn 2025.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu CV a llythyr eglurhaol sy’n amlinellu sut maen nhw’n bodloni’r cymwyseddau allweddol erbyn 12 Ionawr 2025. Bydd y panel cyfweld yn cynnwys yr Arglwydd Allan o Hallam, Jessica Zucker, Cyfarwyddwr Datblygu Polisi Diogelwch Ar-lein Ofcom ac Libby Watkins, Aelod Annibynnol o’r Panel.

Mae dogfen Cylch Gorchwyl, sy’n nodi sut bydd y Pwyllgor yn gweithredu ac yn rhedeg, hefyd ar gael ar ein gwefan.

Dywedodd yr Arglwydd Richard Allan: “Mae mwy a mwy o ymchwil ac arbenigedd ar yr heriau a achosir gan gamwybodaeth a’r atebion posibl iddi. Bydd ein pwyllgor newydd yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu’r cyngor gorau posibl i dimau yn Ofcom i’w helpu i ymyrryd mewn ffordd briodol a gwybodus wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.”

Yn ôl i'r brig