Cyhoeddwyd:
31 Mawrth 2022
Diweddarwyd diwethaf:
16 Mawrth 2023
Yn gyntaf, holwch eich darparwr i weld nad yw’r nam gyda’i wasanaeth. Ar ôl cadarnhau nad yw, cysylltwch â’r BBC.
Mae'r BBC yn gyfrifol am ddelio â chwynion am ymyriant i dderbyniad radio a theledu domestig ac eithrio lle mae'r ffynhonnell yn orsaf sy'n darlledu heb drwydded.
- Cael help i dderbyn teledu a radio
- 03709 016789
- PO Box 1922, Darlington, DL3 0UR
Systemau erial cymunedol
Os yw’ch derbyniad teledu’n dod o system erial gymunedol (er enghraifft, rydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau) dylech gysylltu â’ch landlord neu gwmni erial i gael help.
Os ydych chi’n berchen ar system erial gymunedol fel landlord neu ar gyfer eich busnes a bod angen help arnoch chi i ymchwilio i’r hyn sy’n achosi ymyriant, gallwch gysylltu â ni am gyngor a chymorth:
- interference.report@ofcom.org.uk
- 01462 428540