Ymyriant i radio hamdden

Cyhoeddwyd: 31 Mawrth 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae gwasanaethau radio hamdden yn cynnwys:

Mae ymyriant i radio hamdden fel arfer yn cael ei achosi gan:

  • aflonyddwch electromagnetig o gyfarpar neu osodiadau;
  • imiwnedd gwael neu ddetholedd derbynyddion;
  • defnyddwyr lluosog sy’n defnyddio’r un sianel ar yr un pryd mewn ystod agos (tagfeydd); neu
  • ddefnyddio cyfarpar telegraffiaeth ddi-wifr heb drwydded.

Darllenwch fwy am yr hyn sy'n achosi ymyriant.

Beth gallwch chi ei wneud

Mewn llawer o achosion, o ganlyniad i’r pŵer isel a’r ystod fer dan sylw, gallai’r ateb fod mor syml ag adleoli’r cyfarpar yr effeithir arno.

Efallai y byddwch yn gallu adnabod y broblem eich hun. Pan fo’n bosibl ac yn ddiogel, diffoddwch y dyfeisiau o’ch cwmpas fesul un, a gwnewch yn siŵr bod hyn yn gwella’r sefyllfa. Er y gallai fod elfen o gynnig a methu, gallai’r broses hon helpu i ganfod ffynhonnell y broblem.

Sut gallwn ni helpu

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn ymchwilio i ymyriant i radio hamdden pan fyddwn yn fodlon ar y canlynol:

  • bod yr ymyrraeth yn ‘niweidiol’;
  • ei fod y tu hwnt i’ch rheolaeth;
  • bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i leihau’r effaith.

Efallai y byddwn yn anfon peiriannydd allan i ymchwilio. Fodd bynnag, gallech fod yn atebol am gost yr ymchwiliad os canfyddwn nad yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni.

Beth yw ymyriant niweidiol?

Nid yw aflonyddwch electromagnetig neu sŵn ynddo’i hun yn ymyrraeth ‘niweidiol’.

Mae ymyriant i gyfathrebiadau radio yn cael ei ystyried yn niweidiol os yw’n:

  • creu perygl, neu risgiau o berygl, mewn perthynas â gweithrediad unrhyw wasanaeth a ddarperir dros delegraffiaeth ddi-wifr at ddibenion llywio neu fel arall at ddibenion diogelwch
  • achosi dirywiad, yn rhwystro neu’n ymyrryd dro ar ôl tro ag unrhyw beth sy'n cael ei ddarlledu neu fel arall yn cael ei drosglwyddo dros delegraffiaeth ddi-wifr ac yn unol â thrwydded telegraffiaeth ddi-wifr, neu ddyfarniad mynediad sbectrwm cydnabyddedig neu fel arall yn gyfreithlon.

Mae’n annhebygol y byddai Ofcom yn ymchwilio i adroddiad o ymyriant nad yw’n cael ei ystyried yn ‘niweidiol’. Nid ein polisi ni yw hyn, ac nid oes gennym bwerau i wneud hyn yn effeithiol.

Rhoi gwybod am ymyriant

Cyn rhoi gwybod i ni am ymyriant, dylech wneud y canlynol:

  • cofnodi pob digwyddiad am o leiaf wythnos, gyda’r amser, y dyddiad a’r orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arnynt;
  • sefydlu nad yw ffynhonnell yr ymyriant niweidiol o fewn eich rheolaeth chi (e.e. yn eich eiddo eich hun); a
  • sicrhau bod yr orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arnynt yn gweithio’n iawn.

Cysylltwch â ni am gyngor a chymorth:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig