Darlledu anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 16 Ionawr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 17 Tachwedd 2023

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu Ofcom i adnabod darlledwyr anghyfreithlon neu'r rhai sy'n gyfrifol, hoffem glywed oddi wrthych.

Dylai gwrandawyr gwblhau'r Ffurflen Adrodd Radio Anghyfreithlon (Gwrandawyr).

Dylai darlledwyr trwyddedig wirio yma i gadarnhau bod yr ymyriant o fewn eich ardal ddarlledu, cyn cwblhau ein Ffurflen Adrodd Radio Anghyfreithlon (Darlledwyr).

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu Ofcom i adnabod anheddau a ddefnyddir gan ddarlledwyr anghyfreithlon neu'r rhai sy'n gyfrifol, fe hoffem glywed oddi wrthych. Cwblhewch ein Hadroddiad Gwybodaeth Radio Anghyfreithlon ar-lein.

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn hefyd: 01462 428540.

Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw neu â nam ar y clyw, ein rhif ffôn testun yw 020 7981 3043. Noder mai dim ond gydag offer arbennig y mae'r rhifau hyn yn gweithio.

Neu gallwch ysgrifennu atom:

Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
Llundain
SE1 9HA

Darllen mwy am Orfodaeth Sbectrwm.

Rate this page

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig