Rhywbeth arall

Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2024

Does gan Ofcom ddim pwerau i ymchwilio i’r materion hyn. Os nad oes modd datrys eich cwyn gyda’ch darparwr, efallai y byddwch chi'n dymuno cysylltu â Cyngor ar Bopeth neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Rhoi barn am y dudalen hon

Y darlledwyr fydd yn gwneud y penderfyniad i wneud newidiadau munud olaf i amserlenni neu i ymestyn darllediad o ddigwyddiadau byw. Os ydych chi eisiau rhoi adborth ar hyn, dylech gysylltu â’r darlledwr perthnasol. Dyma restr o’n darlledwyr teledu trwyddedig a rhestr o ddarlledwyr radio.

Rhoi barn am y dudalen hon

Os ydych chi am roi adborth am ansawdd rhaglen, dylech gysylltu â’r darlledwr perthnasol. Dyma restr o’n darlledwyr teledu trwyddedig a rhestr o ddarlledwyr radio, yn ogystal â rhestr o ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alwad.

Rhoi barn am y dudalen hon

Nid sensor yw Ofcom, ac nid oes gennym bwerau i gymeradwyo rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu ar wasanaethau teledu neu radio, neu cyn iddynt gael eu dangos ar wasanaethau fideo ar-alwad.

Serch hynny, rhaid i ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau ar-alwad wneud yn siŵr nad yw eu rhaglenni yn torri ein rheolau. Os ydych chi’n poeni am raglen sydd heb gael ei dangos ar deledu, radio neu wasanaeth ar-alw eto, dylech gysylltu â’r darlledwr neu’r darparwr gwasanaeth perthnasol.

Dyma restr o’n darlledwyr teledu trwyddedig a rhestr o ddarlledwyr radio, yn ogystal â rhestr o ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alw rydyn ni'n rheoleiddio. Nid yw darparwyr gwasanaethau radio ar alw yn cael eu rheoleiddio.

Rhoi barn am y dudalen hon

Dylai gwasanaethau fideo ar-alwad sy’n diwallu set o feini prawf penodol gael eu rheoleiddio gan Ofcom. Felly dylid rhoi gwybod i Ofcom am y gwasanaethau hyn drwy anfon yr wybodaeth berthnasol am y gwasanaeth atom. Dyma restr o’r gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alwad mae Ofcom wedi cael gwybod amdanynt .

Os ydych chi’n gwybod am wasanaeth fideo ar-alwad sydd ar waith ond nad yw ar y rhestr hon, cysylltwch ag Adran Cwynion Rhaglenni ar-alwad Ofcom.

Rhoi barn am y dudalen hon

Mae’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol (IPSO) yn rhedeg gwasanaeth 24 awr i helpu aelodau o'r cyhoedd sy’n poeni am ymyrryd a harasio gan y wasg.

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 09:00 i 17:30, gallwch gysylltu â’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol ar 0300 123 2220. Ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gael gafael ar un o aelodau staff y Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol drwy’r llinell 24 awr, sef 07799 903 929.

O dan delerau’r Cod Ymarfer Golygyddion, mae’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol yn gallu helpu unigolion sy’n cael eu harasio gan ffotograffydd neu newyddiadurwr y wasg. Mewn rhai achosion, mae hefyd yn gallu helpu - ar sail ewyllys da - gyda phryderon am weithredoedd newyddiadurwyr darlledu, yn enwedig pan fydd “sgrym” wasg wedi casglu sy’n achosi gofid.

Rhoi barn am y dudalen hon

Os ydych chi wedi cwyno i'r BBC ac nid ydych chi'n hapus gyda'r penderfyniad wnaethoch chi dderbyn, defnyddiwch y ffurflenni isod i gwyno am:

Os ydy eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth arall, fel un o anghenion y Drwydded Weithredu, cwblhewch ffurflen gwyno'r BBC (materion eraill).

Am restr lawn o faterion y BBC sy'n rhan o'r ffurflen gwyno hon, ewch i "Pryd mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol' yn y dudalen gweithdrefnau delio â chwynion.

Rhoi barn am y dudalen hon

Os ydy eich cwyn yn ymwneud â’r ffordd mae un o sianeli masnachol y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, (ITV, STV, Channel 4 neu Channel 5), yn cyflawni ei rwymedigaethau cynhyrchu rhanbarthol neu raglenni, llenwch ein ffurflen cwynion trwyddedu darlledu

Onibai fod yna amgylchiadau arbennig, mae Ofcom yn ystyried cwynion am raglenni’r BBC os ydy’r sawl sy’n cwyno eisoes wedi cyflwyno cwyn yn barod i’r BBC ac wedi derbyn ymateb terfynol.

Os hoffech chi wneud cwyn o hyd sy’n ymwneud â’r ffordd mae’r BBC yn cyflawni ei rhwymedigaethau cynhyrchu rhanbarthol, cwblhewch ein ffurflen cwyno am y BBC (materion eraill) os gwelwch yn dda.

Rhoi barn am y dudalen hon

Gall siaradwyr Cymraeg gysylltu â ni ar 0300 123 2023 neu 020 7981 3042 neu cysylltwch â'n Tîm Cyswllt Defnyddwyr ar 0300 123 3333. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw neu os oes gennych chi nam ar eich lleferydd, rhif ein ffôn testun yw 020 7981 3043. Nodwch os gwelwch yn dda bod y rhif testun yn weithredol os oes gennych offer arbennig. Mae llinellau ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00.

Rhoi barn am y dudalen hon

Yn ôl i'r brig