Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi dalu am wasanaethau ar eich bil ffôn, yn union fel y byddech chi gyda’ch cerdyn banc neu’ch cyfrif PayPal?
Fel gydag unrhyw bryniant arall, mae’n debygol y byddwch am wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch gwariant. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i wneud hynny:
Gwiriwch eich bil ffôn yn rheolaidd a pheidiwch ag anwybyddu negeseuon testun gan ddarparwyr gwasanaethau cyfradd premiwm
Mae’n rhaid i gwmnïau sy’n codi tâl arnoch drwy eich bil ffôn roi gwybod i chi am y taliadau. Gall derbynebau fod ar ffurf negeseuon SMS – nid yw’r rhain bob amser yn cael eu fflagio fel sothach. Gallwch anfon neges destun at y cwmni i roi stop ar y taliadau; gallwch anfon neges destun 'STOP ALL' i'r rhif maen nhw wedi'i roi i chi yn y neges destun. Sylwch, efallai nad yw hwn yr un rhif â’r un y daeth y neges ohono. Os ydych chi'n cael sawl neges destun gan yr un rhif, gallwch dybio mai neges sothach ydyw. Os byddwch yn rhwystro’r rhif, codir tâl arnoch o hyd os yw'r negeseuon testun ar gyfer gwasanaeth cyfradd premiwm. Nid yw rhwystro’r negeseuon testun yn atal y taliadau ond efallai na fyddwch yn cael unrhyw wybodaeth amdanyn nhw.
Byddwch yn ofalus beth rydych chi’n clicio arno, a bod yn ofalus gyda hysbysebion naid, botymau a negeseuon hyrwyddo
Wrth bori drwy’r rhyngrwyd ar eich ffôn, byddwch yn ofalus gyda hysbysebion naid, botymau a negeseuon hyrwyddo eraill, a chofiwch wirio’r telerau ac amodau bob amser. Efallai na fydd y rhain yn rhad ac am ddim ac mae rhai mathau o bryniant yn danysgrifiadau a allai arwain at symiau sylweddol o arian os na fyddwch yn talu sylw i hyn.
Deall digidau cyntaf rhifau a faint byddan nhw’n ei gostio cyn deialu neu decstio
Cofiwch y codir cyfraddau premiwm ar y rhifau sy’n dechrau gyda 09, 087 ac 118. Dylech bob amser wirio faint fydd unrhyw rif yn ei gostio cyn deialu neu decstio naill ai ar ein canllaw costau galwadau neu ar ganllaw costau gov.uk.
Byddwch yn ofalus wrth roi eich ffôn clyfar neu’ch dyfais tabled i blant
Wrth roi eich dyfais i blant chwarae gemau neu wylio fideos, efallai y byddan nhw’n eich cofrestru i wasanaethau y codir tâl arnoch chi heb i neb sylweddoli. Efallai y byddai’n syniad rhoi dulliau rheoli gan rieni ar waith cyn rhoi eich dyfais i blentyn.
Gofynnwch i ddarparwr eich rhwydwaith a yw’n gallu rhwystro gwasanaethau cyfradd premiwm os nad ydych chi’n eu defnyddio
Mae rhai rhwydweithiau symudol yn gallu rhwystro gwasanaethau cyfradd premiwm ar eich cyfrif. Gallai hyn eich atal rhag defnyddio gwasanaethau rydych chi eu heisiau, fel prynu mewn apiau, pleidleisio ar raglenni talent ar y teledu, neu roi i elusen drwy neges destun.
Cwynion
Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol nac yn eu datrys, ond mae eich help chi i dynnu sylw at broblemau yn rhan hanfodol o’n gwaith.
Os ydych chi wedi defnyddio gwasanaeth cyfradd premiwm ac nad yw wedi dilyn ein rheolau, gallwch herio hyn gyda darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm. Dylai egluro sut mae cofnodi cwyn gyda nhw.
Mae cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar gyngor yn rhad ac am ddim drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Efallai y byddan nhw’n helpu i ddatrys eich problem os bydd y broblem honno yn dal heb ei datrys ar ôl dilyn proses gwyno’r darparwr.
Gallwch gwyno wrth Ofcom drwy ein ffurflen cwynion am wasanaethau cyfradd premiwm, neu drwy ein ffonio ni ar 0300 123 3333 neu 020 7981 3040.
Os hoffech siarad â ni yn Gymraeg, cysylltwch â’n llinell Gymraeg ar 0300 123 2023.