Materion eraill

Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2024

Mae'r Ddeddf Diogelu data (DPA) 2018 ar waith i ddiogelu eich data personol.

Os ydych yn credu bod eich manylion wedi'u casglu o ganlyniad i dorri rheolau diogelu data, cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch hefyd ymweld â'u gwefan am gyngor pellach os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch eich gwybodaeth bersonol.

Mae'r ICO yn gyfrifol am orfodi rheoliadau DPA.

Cofnodi galwadau

Mae sawl cyfraith ar gyfer cofnodi galwadau ffôn. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Deddf Rheoleiddio pwerau ymchwilio 2000 (RIPA);
  • Rheoliadau telathrebu (arferion busnes cyfreithlon) (Ymgychu cyfathrebiadau) 2000 (Rheoliadau'r LBP);
  • Deddf Diogelu Data 2018;
  • Rheoliadau telathrebu (diogelu data a phreifatrwydd) 1999;
  • y Ddeddf Hawliau Dynol 1998

Os oes angen help arnoch yn y maes hwn, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r cyfreithiau dan sylw, nid yw Ofcom mewn sefyllfa i gynnig canllawiau.

Rhoi barn am y dudalen hon

Yn wahanol i ddarlledu, nid oes angen i unrhyw un gael trwydded i gyhoeddi cynnwys ar-lein. Fodd bynnag, rhaid i'r cynnwys hwnnw fod yn unol â'r gyfraith. Mae llinell gymorth adrodd yr Internet Watch Foundation (IWF) yn cynnig lle dienw a diogel i adrodd am ddelweddau a fideos cam-drin rhywiol ar-lein, lle bynnag y dewch o hyd iddynt.

Mae cylch gwaith yr IWF yn cynnwys y tri math hyn o gynnwys ar-lein:

  • cynnwys cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei gynnal yn unrhyw le yn y byd;
  • cynnwys oedolion sy'n droseddol anweddus a gynhelir yn y DU; a
  • lluniau o ddelweddau cam-drin rhywiol plant nad ydynt yn rhai ffotograffig a gynhelir yn y DU

Rhoi barn am y dudalen hon

Blwch ffôn diffygiol neu wedi'i ddifrodi

Cysylltwch â'r darparwr blychau ffôn cyhoeddus: dyma fydd KCOM (yn ardal Hull) neu BT (ym mhob rhan arall o'r DU).

I roi gwybod am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i difrodi i BT, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: customer.serv.payphones@bt.com. Gweler gwefan BT am fwy o fanylion.

I roi gwybod am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i difrodi yn ardal Hull, cysylltwch â KCOM yn: payphones@kcom.com.

Blwch ffôn sy'n cael ei ddileu

O dan ein rheolau, ni all BT a KCOM ddileu blwch bellach os mai dyma'r olaf sy'n weddill mewn ardal (h.y. mwy na 400 metr o bellter cerdded o'r blwch ffôn cyhoeddus nesaf) ac mae'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf hyn:

  • mae mewn ardal nad oes ganddi ddarpariaeth gan bob un o'r pedwar darparwr rhwydwaith symudol;
  • mae wedi'i leoli mewn ardal sydd â nifer uchel o ddamweiniau neu achosion o hunanladdiad;
  • mae 52 o alwadau neu fwy wedi'u gwneud ohono yn y 12 mis diwethaf; neu
  • mae tystiolaeth arall bod angen rhesymol am y blwch ar y safle – er enghraifft os yw'n debygol y dibynnir arno yn achos argyfwng lleol, megis llifogydd, neu os caiff ei ddefnyddio i ffonio llinellau cymorth.

Cyn dileu y blwch ffôn olaf yn ei ardal nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf hyn, mae'n rhaid i BT neu KCOM ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol ynghylch ei ddileu. Os yw BT neu KCOM yn bwriadu dileu eich blwch ffôn lleol a'ch bod yn gwrthwynebu hyn, ysgrifennwch at eich cyngor lleol.

Mae mwy o wybodaeth am ddileu blychau ffôn cyhoeddus ar gael ar ein gwefan.

Rhoi barn am y dudalen hon

Yn ôl i'r brig