Gwaith Ofcom yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn cydymffurfio â’u dyletswyddau i ddiogelu defnyddwyr.
Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio gwasanaethau ar-lein.
Cysylltu â’r gwasanaeth gyntaf
Mae llawer o wasanaethau ar-lein eisoes yn darparu ffyrdd i chi roi gwybod am gynnwys neu ymddygiad niweidiol, neu i gwyno am rywbeth rydych chi wedi’i weld. Os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych chi wedi’i weld neu ei brofi ar wasanaeth ar-lein, dylai rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r gwasanaeth fod yn gam cyntaf.
Os ydych chi wedi gwneud hynny ac yn dal yn bryderus, gallwch roi gwybod i Ofcom.
Ni allwn ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt
Er na allwn ymateb i’ch cwyn, bydd yn ein helpu i asesu a yw gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr – ac a ddylai Ofcom gymryd unrhyw gamau.
Gallwch gwyno i ni am wasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio. Mae gwasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio yn cynnwys:
- gwefannau ac apiau sy’n lletya cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr (fel cyfryngau cymdeithasol);
- peiriannau chwilio;
- gwasanaethau gyda chynnwys pornograffig;
- llwyfannau rhannu fideos.
Mae gwasanaethau ffrydio a dal i fyny wedi’u rhwymo wrth reolau ar wahân
Er bod gwasanaethau ar-alw a ffrydio ar-lein, rydyn ni’n eu rheoleiddio o dan reolau gwahanol. Gallwch gwyno i ni am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar BBC iPlayer neu ar wasanaeth ar-alw arall.