Cyhoeddwyd:
26 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf:
20 Rhagfyr 2023
Nid oes gan Ofcom bwerau i reoleiddio rhai gwasanaethau, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
- rhai gwasanaethau e-bost, SMS ac MMS;
- rhai gwasanaethau sy’n caniatáu galwadau un-i-un byw;
- rhai gwasanaethau busnes mewnol.
Mae gwasanaethau ffrydio a dal i fyny yn destun rheolau gwahanol
Er bod gwasanaethau ar-alw a ffrydio ar-lein, rydyn ni’n eu rheoleiddio o dan reolau gwahanol. Gallwch gwyno i ni am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar BBC iPlayer neu ar wasanaeth ar-alw arall.