Cyhoeddwyd:
30 Hydref 2023
Mae Ofcom yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) sydd wedi'u sefydlu yn y DU. Gwasanaethau yw'r rhain sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho fideos neu eu rhannu â phobl eraill. Mae gennym restr o lwyfannau sydd wedi hysbysu, y mae'r rheolau hyn yn berthnasol iddynt.
Ar hyn o bryd nid ydym yn rheoleiddio:
- cynnwys ysgrifenedig, fel sylwadau neu erthyglau; neu
- ddelweddau neu luniau unigol.
Os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw gynnwys nad yw'n fideo, gofynnir i chi gwyno'n uniongyrchol i'r gwasanaeth.
Os ydych yn cwyno am unrhyw wasanaeth ar-lein arall nad yw'n VSP, gallwch wneud cwyn.
Mwy o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng VSPs a gwasanaethau ar-lein eraill