Teenage girl using smartphone on sofa

Datblygiadau diweddaraf ym myd cyfathrebu ar-lein?

Cyhoeddwyd: 25 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 25 Hydref 2023

Er bod galwadau ffôn symudol yn dal yn ffordd boblogaidd o gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu, byddai’n well gan y rhan fwyaf o oedolion fynd hebddynt am ddiwrnod na mynd heb eu hoff apiau negeseua petai rhaid iddynt ddewis rhyngddynt, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom.

Mae gwasanaethau cyfathrebu ar-lein fel WhatsApp a Snapchat wedi dod yn gynyddol bwysig i'n bywydau bob dydd. Felly, mae Ofcom wedi bod yn ymchwilio'n agosach i weld sut mae pobl yn eu defnyddio y tu allan i’r gwaith, sut maent yn effeithio ar rôl gwasanaethau telathrebu traddodiadol, a sut gallai’r marchnadoedd hyn esblygu yn y dyfodol.

Cadw mewn cysylltiad

Mae gwasanaethau cyfathrebu ar-lein (OCS) mewn llawer o achosion yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy gan ddefnyddwyr na gwasanaethau telathrebu traddodiadol, fel negeseuon testun neu alwadau ffôn.

Yn ôl ymchwil ddiweddaraf Ofcom, rhwng 2012 a 2022, gostyngodd nifer y negeseuon testun (SMS ac MMS) a anfonwyd o 151 biliwn i 36 biliwn.[1] Dros yr un cyfnod, cynyddodd nifer y negeseuon ar-lein a anfonwyd yn y DU o 100 biliwn y flwyddyn i dros 1.3 triliwn.

Negeseua rhwng unigolion yn y DU yn ôl dulliau traddodiadol a gwasanaethau cyfathrebu ar-lein (OCS)

Negeseua rhwng unigolion yn y DU yn ôl dulliau traddodiadol a gwasanaethau cyfathrebu ar-lein (OCS)Mae galwadau ffôn symudol yn dal yn ffordd boblogaidd o gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu. Rhwng 2012 a 2022, cynyddodd faint o amser a dreuliom yn gwneud galwadau ffôn symudol o 132 biliwn o funudau i 170 biliwn o funudau, ac mae 83% o oedolion yn y DU wedi gwneud galwad ffôn symudol yn y tri mis diwethaf.

Fodd bynnag, dim ond chwarter (26%) o’r bobl hynny a wnaeth alwad ffôn symudol yn ddyddiol, ac anfonodd hyd yn oed llai (23%) neges destun draddodiadol bob dydd. O gymharu â hyn, mae dwy ran o dair (67%) o bobl sy’n defnyddio gwasanaeth cyfathrebu ar-lein yn gwneud hynny’n ddyddiol.

Dywed tua thri o bob pum oedolyn (58%) yn y DU y byddai’n well ganddynt fynd heb alwadau ffôn symudol am 24 awr na mynd heb eu hoff apiau negeseua.[2]

Mae WhatsApp yn arbennig o boblogaidd

Mae llawer o bobl yn defnyddio nifer o wasanaethau cyfathrebu ar-lein ar yr un pryd, gyda’r oedolyn cyffredin yn y DU yn defnyddio tri gwasanaeth gwahanol yn weithredol dros y tri mis diwethaf.

Fodd bynnag, WhatsApp yw’r ap negeseua a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yn y DU, gyda 76% o oedolion yn ei ddefnyddio yn y tri mis diwethaf. Dywed tua dwy ran o dair o oedolion (65%) yn y DU mai WhatsApp yw eu prif wasanaeth cyfathrebu ar-lein, wedi'i ddilyn gan Messenger (18%) ac iMessage (6%).

Defnydd o wasanaethau at ddibenion negeseua personol neu wneud galwadau

Defnydd o wasanaethau at ddibenion negeseua personol neu wneud galwadau

Dim ond un o bob deg sydd wedi newid pa ap negeseua maent yn ei ddefnyddio fwyaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda thua hanner y rheini (51%) yn gwneud hynny oherwydd ei boblogrwydd ymhlith eu ffrindiau a’u teulu.

Mae gwasanaethau cyfathrebu ar-lein hefyd yn boblogaidd ym mhob grŵp oedran gydag 81% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd dros 65 oed yn defnyddio'r gwasanaethau hyn a 76% o bobl dros 55 oed yn defnyddio'r gwasanaethau hyn o leiaf yn wythnosol.

Sylwadau ynghylch cystadleuaeth a diogelu defnyddwyr

Mae defnyddioldeb unrhyw ap negeseua'n dibynnu a yw ffrindiau neu berthnasau rhywun hefyd yn defnyddio'r ap hwnnw. Gall hyn roi mantais i lwyfannau mwy, gan weithredu fel rhwystr i fynediad ac ehangiad llwyfannau mwy newydd neu lai a allai ei chael hi'n anodd denu defnyddwyr. Canfuom fod WhatsApp, a gwasanaethau cyfathrebu ar-lein Meta yn eu cyfanrwydd, mewn sefyllfa gref o safbwynt cystadleuaeth.

Fodd bynnag, caiff yr effaith hon ei lliniaru i ryw raddau gan dueddiadau i ddefnyddio nifer o'r apiau hyn ar yr un pryd, yn enwedig ymhlith defnyddwyr iau. Hyd yma, rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol ar y cyfan i ddefnyddwyr[3] heb fawr o dystiolaeth o niwed sylweddol o ganlyniad i faterion cystadleuaeth, ar hyn o bryd. Ond mae nodweddion a strategaethau moneteiddio yn esblygu, a allai effeithio ar gystadleuaeth yn y dyfodol.

O safbwynt diogelu defnyddwyr, mae'r prif feysydd risg rydym wedi’u nodi yn ymwneud â sgamwyr a thwyllwyr sy'n camddefnyddio apiau negeseua, a rhannu cynnwys anghyfreithlon neu niweidiol. Bydd y materion hyn yn dod o dan y drefn diogelwch ar-lein sydd ar y gorwel ac felly nid ydynt o fewn cwmpas y gwaith hwn.

Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau yn y sector, rhag ofn y bydd pryderon newydd yn codi yn y dyfodol wrth i nodweddion, defnydd a modelau busnes barhau i esblygu.

Troednodiadau:

[1] Ffynhonnell: Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebiadau 2023.

[2] Cynhaliodd YouGov arolwg o 2,128 o oedolion y DU ar-lein ym mis Mawrth 2023. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o holl oedolion y DU (16+ oed).

[3] Gall defnyddwyr gyrchu ystod eang o wasanaethau, sy’n cael eu darparu am ddim fel arfer; mae defnyddwyr yn barnu bod eu gwasanaethau’n bositif.

Yn ôl i'r brig