Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf i ni yn y dyfodol. Wrth i lywodraethau a sefydliadau mawrion weithio i daclo tymereddau sydd ar gynnydd ar lefel fyd-eang, mae llawer y gallwn ei wneud hefyd fel unigolion a fydd yn helpu i sicrhau newid cadarnhaol i'r amgylchedd.
Efallai na fyddech yn ei sylweddoli, ond mae ein defnydd cyfunol o ddata yn cael effaith ar ein hôl troed carbon. Ac mae llawer o'r defnydd hwn o ddata yn deillio o'r ffordd yr ydym yn defnyddio'r dyfeisiau y dibynnwn arnynt bob dydd.
Er enghraifft, mae'r symiau bach o drydan sydd eu hangen i wefru a defnyddio eich dyfeisiau i gyd yn adio i fyny. Ac ar raddfa ehangach, beth am y canolfannau data sydd eu hangen i brosesu'r data sy'n cynnwys eich un chi?
Yn ffodus, mae camau syml y gallwch eu cymryd i leihau'r effaith y gallai eich defnydd o dechnoleg fod yn ei chael ar yr amgylchedd.
Rydym wedi nodi rhai o'r rhain yma – allwch chi feddwl am fwy?
Ailgylchu – neu atgyweirio – eich dyfeisiau
Waeth p'un a yw'n ffôn symudol, llechen, cyfrifiadur neu gonsol gemau, yn aml nid yw'n hir cyn i'r model diweddaraf gael ei ddisodli gan rywbeth mwy newydd, sgleiniog a chyflym. Mae'n gyffrous – ac yn hawdd - uwchraddio i dechnoleg newydd, ac nid ydym bob amser yn meddwl am yr hyn sy'n digwydd i'n hen ddyfais. Meddyliwch a ellid ei roi i rywun rydych chi'n ei adnabod, neu a fydd elusen yn ei gymryd. Mae'n llawer gwell na'i anfon i safle tirlenwi. Ar yr un pryd, os nad yw eich dyfais yn gweithio'n iawn, mynnwch farn arbenigol ynghylch a ellid ei hatgyweirio i'ch helpu i gael ychydig mwy o fywyd allan ohono. Gellir disgrifio ffonau symudol a llechi nad ydynt mewn cyflwr digon da i'w trosglwyddo i'w hailddefnyddio neu eu hatgyweirio fel gwastraff offer trydanol ac electronig (WEEE). Mynnwch gip ar eich gwasanaethau lleol ar gyfer ailgylchu WEEE.
Tynnu'r plwg allan os nad ydych yn ei ddefnyddio
Bydd dyfais wedi'i phlygio i mewn yn dal i ddefnyddio trydan hyd yn oed yn y modd parod. Os nad ydych yn ei ddefnyddio, tynnwch y plwg allan. Ac wrth i chi wefru dyfeisiau, cadwch lygad arnynt fel y gallwch eu datgysylltu pan fyddant wedi'u gwefru'n llawn. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gallwch arbed arian ar eich bil ddim ond trwy gofio diffodd eich offer o'r modd parod. Gellir diffodd bron pob offer trydanol ac electronig wrth y plwg heb amharu ar eu cyfluniad. Efallai yr hoffech chi feddwl am gael teclyn arbed modd parod sy'n galluogi chi i ddiffodd eich holl offer modd parod ar yr un pryd.
Meddwl am eich e-byst
Fel gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau cyfrifiadurol, mae e-byst yn dibynnu ar drydan a data – waeth p'un ai ar gyfer eu hanfon, eu derbyn neu eu storio. Felly, cyn i chi deipio e-bost, meddyliwch a oes gwir angen i chi wneud hynny. Mae hynny'n arbennig o wir os yw'r person rydych chi'n ei e-bostio yn eistedd yn yr un swyddfa â chi! A meddyliwch am eich rhestrau postio a thanysgrifiadau cylchlythyr – oes gennych ddiddordeb ynddynt o hyd mewn gwirionedd? Trwy archwilio nhw a dad-danysgrifio o'r rhai nad ydych am eu derbyn mwyach, nid yn unig y byddwch yn defnyddio llai o ynni a data, byddwch hefyd yn cael ychydig o'ch amser yn ôl.
Ffrydio fel tîm
Canfu astudiaeth gan Brifysgol Glasgow fod ffrydio a lawrlwytho cerddoriaeth wedi cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol. Er mwyn lleihau eich effaith, ceisiwch wylio pethau gydag eraill, boed yn deulu, ffrindiau neu ranwyr tŷ. Mae hyn yn llawer gwell na'ch bod chi i gyd yn gwylio'r un peth ar wahân ar wahanol adegau mewn gwahanol ystafelloedd.
Chwarae eich gemau a'ch apiau oddi ar-lein
Yn debyg i ffrydio eich cerddoriaeth, mae ffrydio neu chwarae gemau fideo ar-lein yn defnyddio mwy o ynni na'u chwarae oddi ar-lein. Os ydych chi'n hapus i dreulio peth o'ch amser yn chwarae ar eich pen eich hun, chwaraewch oddi ar-lein ar eich consol neu lechen. Mae'n hwyl o hyd, a gallwch ddal i fyny gyda'ch cyd-chwaraewyr y tro nesaf y byddwch i gyd ar-lein gyda'ch gilydd.