Ymgynghoriad: Cyfathrebu Agored: Galluogi pobl i rannu data â gwasanaethau arloesol

Cyhoeddwyd: 4 Awst 2020
Ymgynghori yn cau: 10 Tachwedd 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Ar draws yr economi, mae gwell technoleg a’r gallu i gasglu mwy o ddata yn galluogi cwmnïau i arloesi a chynnig gwasanaethau newydd. Mae arnom eisiau aros ar flaen y gad yn y datblygiadau hyn i sicrhau bod data ac arloesedd yn gweithio er budd cwsmeriaid mewn marchnadoedd cyfathrebiadau.

Mae’r marchnadoedd hyn yn cynnig llawer o ddewis i gwsmeriaid, ond gall yr opsiynau fod yn gymhleth ac yn anodd eu llywio. Gallai chwilio am fargen newydd godi ofn ar bobl neu fod yn ormod o ymdrech. Gallai galluogi pobl i rannu eu data wrth glicio botwm wneud y broses hon yn gyflymach, yn haws ac yn fwy effeithiol, gan helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gynnyrch mwy addas ar gyfer eu hanghenion.

Yn yr ymgynghoriad hwn rydym yn edrych ar yr achos dros Gyfathrebu Agored - menter ar gyfer y marchnadoedd telegyfathrebiadau manwerthu a theledu drwy dalu, a fyddai’n galluogi pobl a busnesau bach i ddweud wrth eu darparwr cyfathrebiadau i rannu gwybodaeth am eu gwasanaethau, yn hawdd ac yn ddiogel, â thrydydd partïon o’u dewis. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallai menter Cyfathrebu Agored ei gyflawni ar gyfer pobl a busnesau a sut y gallai weithio.

Ymatebion

How to respond

Yn ôl i'r brig