Mae technolegau ymdrochol newydd yn chwalu'r rhwystrau rhwng y byd rhithwir a'r byd go iawn. Dyma Emma Leech a Dev Patel o dimau Strategaeth a Pholisi, a Diogelwch Technoleg ac Ymddiriedaeth Ofcom, yn edrych ar sut y gallai'r technolegau hyn drawsnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu â'n gilydd a defnyddio gwasanaethau ar-lein, ac yn disgrifio sut mae Ofcom yn ymateb i'r newidiadau hyn.
Mae Apple a Meta ill dau wedi lansio setiau pen realiti cymysg newydd yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan sbarduno diddordeb o'r newydd mewn technolegau ymdrochol. Dywed Apple y bydd ei set pen Vision Pro newydd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae'n ei alw'n 'gyfrifiadura gofodol' sy'n caniatáu i bobl ddefnyddio apiau, gweld cynnwys neu ryngweithio ag eraill mewn amgylcheddau rhithwir llawn neu rhannol, dros yr hyn y mae'n ei alw'n 'gynfas anfeidrol’. Dywedodd Meta y byddai ei set pen Quest 3 newydd 'yn cyfuno'ch byd ffisegol â'r un rhithwir yn ddi-dor’.
Hyd yn oed wrth i gyllid a diddordeb lifo tuag at AI cynhyrchiol, mae cyhoeddiadau Apple a Meta wedi sbarduno diddordeb newydd mewn technolegau ymdrochol. Felly, mae'n bwysig ystyried yr effaith y gallent ei chael ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â'n gilydd.
Gall technolegau ymdrochol gwmpasu amrywiaeth o wahanol opsiynau.
- Realiti cymysg: yn cyfuno bydoedd ffisegol a rhithwir i gynhyrchu amgylcheddau newydd lle mae gwrthrychau ffisegol a digidol yn cydfodoli ac yn rhyngweithio mewn amser real.
- Realiti estynedig: yn troshaenu cynnwys digidol, a allai gynnwys cyfuniad o sain, fideo, testun a graffeg, ar amgylchedd byd real gan ddefnyddio set pen neu ddyfais gyda chamera, fel ffôn symudol.
- Realiti rhithwir: defnyddio set pen i gyrchu profiad rhithwir, a allai gael ei greu'n ddigidol neu o giplun neu glip fideo 360°.
- Hapteg: Mae technolegau ymdrochol hefyd yn cynnwys hapteg sy'n rhoi'r teimlad o gyffwrdd mewn amgylcheddau rhithwir.
Os bydd poblogrwydd y technolegau hyn yn cynyddu, gallent drawsnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio gwasanaethau ar-lein ar gyfer gwaith a phleser. Er enghraifft, mae'r 38% o oedolion y DU sy'n chwarae gemau ar-lein fel arfer yn gwneud hynny gan ddefnyddio technolegau nad ydynt yn ymdrochol fel cyfrifiaduron personol, ffonau clyfar a chonsolau gemau. Ond mae chwarae gemau'n digwydd yn gynyddol gan ddefnyddio technolegau ymdrochol: Mae 42% o gemwyr 13-64 oed wedi chwarae gemau realiti rhithwir gan ddefnyddio set pen.
Gallai rhyngweithio mewn byd rhithwir edrych yn wahanol o'i gymharu â chyfryngau cymdeithasol 'traddodiadol'
Trafodwyd yn helaeth a allem i gyd fod yn rhyngweithio'n fuan mewn metafydysawd cwbl ryng-gysylltiedig ac ymdrochol. Fodd bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar weledigaeth benodol o'r metafydysawd, rydym wedi seilio ein gwaith ar ddeall sut mae pobl ar hyn o bryd yn defnyddio bydoedd rhithwir ar hyn o bryd mewn meysydd fel chwarae gemau gan ddefnyddio technolegau nad ydynt yn ymdrochol. Mae ein Model Gwasanaethau Rhyngweithiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn edrych yn fanwl ar daith defnyddiwr nodweddiadol trwy brofiad chwarae gemau ar-lein. Ac rydym am ddeall sut y gallai defnydd pobl o fydoedd rhithwir ddatblygu yn y dyfodol, yn enwedig os bydd y defnydd o dechnolegau ymdrochol yn mynd yn fwy poblogaidd.
Gallai'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'n gilydd mewn bydoedd rhithwir fod yn wahanol iawn i'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol 'traddodiadol'. Byddai rhyngweithio yn y bydoedd rhithwir hyn yn llawer mwy tebyg i fywyd go iawn. Gallai ddigwydd mewn amser real, sy'n golygu y gallai rhywfaint o gynnwys fod yn fyrhoedlog heb unrhyw gofnod cyhoeddus o ddigwyddiadau a rhyngweithio. Byddai bywyd yn y bydoedd rhithwir hyn yn aml yn benagored ac aflinol, gyda defnyddwyr yn cael rhyddid enfawr i archwilio ac adeiladu mathau newydd o brofiadau.
Gallai 'cynnwys' mewn bydoedd rhithwir edrych yn wahanol hefyd. Yn y cyfryngau cymdeithasol traddodiadol, rydym fel arfer yn meddwl am destun, lluniau a fideos byr. Mewn bydoedd rhithwir, gall hyn fod yn fwy cymhleth fyth trwy ychwanegu lleferydd amser real a chreu a thrin cynnwys digidol, megis afatarau, gwrthrychau a'r amgylcheddau rhithwir eu hunain. Gallai hyn alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynegi eu hunain a rhyngweithio â'i gilydd.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallai hyn ddatblygu, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ei ddeall
Nid oes un fersiwn penodol o sut y gallai ein rhyngweithiadau ar-lein edrych yn y dyfodol a pha mor ymdrochol y gallai'r profiadau hyn fod. Fodd bynnag, mae bydoedd rhithwir eisoes yn chwarae rôl bwysig ym mywydau llawer o bobl ac, yn y dyfodol, gallem eu gweld yn mynd yn gynyddol gymhleth, ymdrochol a rhyng-gysylltiedig. Wrth i hyn ddigwydd, gallai cwestiynau amrywiol godi, gan gynnwys:
- Sut y gallai fod angen i rwydweithiau cyfathrebu esblygu i ymdopi â gofynion technolegau ymdrochol?
- Ar ba ffurfiau fydd y cynnwys, pwy fydd yn ei greu, a sut y gallai gael ei ddarganfod a'i ddefnyddio?
- Sut fydd cystadleuaeth yn datblygu yn y marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion, technolegau ac achosion defnydd?
Fel rheoleiddiwr cyfathrebu'r DU, mae gan Ofcom ddiddordeb mewn sut y gallai bydoedd rhithwir newid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'n gilydd ar-lein, felly rydym yn tracio eu datblygiad. Gallai llawer o'r gwasanaethau a gynigir sy’n eu defnyddio ddod o fewn cwmpas y Mesur Diogelwch Ar-lein, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol i ddeall y goblygiadau ehangach yn well.
Yn Ofcom, mae'n bwysig i ni ddeall sut y gallai'r y llinell rhwng y real a'r rhithwir fod yn aneglur, yr holl ffordd o Minecraft i'r metafydysawd, wrth i ni gadw golwg ar fywydau cyfryngau'r DU.