Wrth i bobl gyfathrebu'n ddi-dor ar-lein ac oddi ar-lein, mae angen yn awr i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod cyfathrebiadau digidol yn gweithio i bawb.
Ers i Ofcom gael ei chreu 20 mlynedd yn ôl, mae'r ffordd yr ydym i gyd yn prynu cynnyrch, yn cael gwybodaeth, ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus wedi'i thrawsnewid gan y rhyngrwyd. Mae hyn yn arbennig o wir am y ffordd yr ydym yn cyfathrebu ac yn defnyddio cynnwys cyfryngau.
Bydd pa mor dda y mae marchnadoedd digidol yn gweithredu'n gynyddol bwysig i'r canlyniadau y mae defnyddwyr yn eu profi ar draws y sectorau a reoleiddiwn. Mae angen i ni edrych gymaint ar sut mae cwmnïau'n defnyddio seilwaith a gwasanaethau digidol ag yr ydym ar y ceblau, y mastiau a'r lloerenni rydym wedi canolbwyntio arnynt yn y gorffennol.
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein strategaeth i Ofcom addasu i'r realiti newydd hwn fel y gallwn barhau i sicrhau'r canlyniadau y mae defnyddwyr yn eu disgwyl gan eu gwasanaethau cyfathrebu.
Ein prif faes gwaith dros y flwyddyn i ddod fydd astudiaeth o'r farchnad o dan Ddeddf Menter 2002 i wasanaethau cwmwl yn y DU. Byddwn yn asesu cryfder cystadleuaeth mewn gwasanaethau cwmwl a safle cwmnïau allweddol yn y farchnad.
Rydym yn cynnwys gwaith gan Analysys Mason a gomisiynwyd gennym i gyfeirio ein strategaeth. Mae unrhyw farn a fynegir yn y dogfennau perthnasol yn perthyn i Analysys Mason ac nid ydynt yn cynrychioli barn Ofcom.
Dogfennau ategol
Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig:
Digital Communications Value Chains – a report by Analysys Mason (summary) (PDF, 971.8 KB)
Digital Communications Value Chains – a report by Analysys Mason (PDF, 1.9 MB)