Beth yw Ofcom?

Cyhoeddwyd: 8 Mawrth 2024

Ofcom yw'r rheoleiddiwr ar gyfer y gwasanaethau cyfathrebu rydym yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt bob dydd.

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gorau o'u band eang, eu ffôn cartref a’u gwasanaethau symudol, yn ogystal â chadw llygad ar y teledu a'r radio.

Rydyn ni hefyd yn goruchwylio’r gwasanaeth post cyffredinol, sy’n golygu bod rhaid i'r Post Brenhinol ddanfon a chasglu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos, a pharseli bum diwrnod yr wythnos, am bris fforddiadwy ac unffurf ar draws y DU.

Rydyn ni'n gofalu am y tonnau awyr a ddefnyddir gan ddyfeisiau di-wifr fel ffonau di-wifr, walkie talkies a hyd yn oed rhai goriadau car a chlychau drws.

Rydym hefyd yn helpu gwneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel i'r bobl sy'n eu defnyddio nhw, trwy sicrhau bod cwmnïau'n rhoi systemau effeithiol ar waith i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed.

Rydyn ni hefyd yn helpu i wneud yn siŵr nad yw pob yn cael eu twyllo a’u bod yn cael eu gwarchod rhag arferion drwg. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer pobl hŷn neu bobl agored i niwed.

Daw ein dyletswyddau o’r Senedd Brydeinig. Ein blaenoriaeth yw gofalu amdanoch chi, ac weithiau, rydym yn gwneud hyn drwy hybu cystadleuaeth ymysg y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio.

Rydym yn darparu cyngor a gwybodaeth i filoedd o bobl bob blwyddyn, drwy ein gwefan a’n canolfan alwadau. Rydym yn cofrestru cwynion gan bobl a busnesau, sy'n ein helpu ni i gymryd camau yn erbyn cwmnïau pan fyddant yn gadael eu cwsmeriaid i lawr. Nid yw’r Senedd Brydeinig wedi rhoi pwerau i ni i ddatrys cwynion pobl am eu band eang, eu ffôn cartref na’u ffôn symudol. Yn hytrach, gall y rhain gael eu hystyried gan wasanaethau datrys anghydfod eraill.

Rydym hefyd yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl ledled y DU yn fodlon â'r hyn maen nhw'n ei weld a’i glywed ar deledu a radio, a bod rhaglenni'n adlewyrchu'r cynulleidfaoedd y maent yn eu gwasanaethu. Rydym yn ystyried pob cwyn a gawn gan wylwyr a gwrandawyr. Yn aml, rydym yn ymchwilio ymhellach ac weithiau byddwn yn canfod bod darlledwyr yn torri ein rheolau.

Rydym yn annibynnol ac yn cael ein hariannu drwy ffioedd a delir i ni gan y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio.

Rydym yn gwneud yn siŵr:

  • bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau cyfathrebu, gan gynnwys band eang;
  • bod amrywiaeth o gwmnïau yn darparu rhaglenni radio a theledu o ansawdd da sy’n apelio at gynulleidfaoedd amrywiol;
  • bod gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu hamddiffyn rhag ddeunydd niweidiol neu dramgwyddus ar y teledu, ar y radio ac ar wasanaethau ar-alw;
  • bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag triniaeth annheg mewn rhaglenni, ac rhag i neb darfu ar eu preifatrwydd;
  • bod gwasanaethau ar-lein yn gwneud eu gorau glas i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed;
  • bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gwasanaethu pob cyfeiriad yn y DU chwe diwrnod yr wythnos, gyda phrisiau safonol; a
  • bod y sbectrwm radio yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Dydyn ni ddim yn:

  • setlo anghydfod unigol rhyngoch chi a'ch darparwr ffôn cartref, band eang neu ffôn symudol. Delir â hyn drwy gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod;
  • trin gwasanaethau ffôn cyfradd premiwm. Mae'r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros ffôn;
  • gosod safonau hysbysebu ar y teledu, ar y radio nac ar y rhyngrwyd. Caiff y rhain eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu;
  • gosod safonau ar gyfer rhaglenni ar BBC World Service;
  • dewis lefel ffi trwydded y BBC;
  • rheoleiddio swyddfeydd post;
  • penderfynu beth ddylid ei brintio mewn papurau newydd a chylchgronau; neu
  • sensro beth mae pobl yn ei ysgrifennu neu’n ei bostio ar y rhyngrwyd. Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr bod gwasanaethau ar-lein yn cymryd camau i gadw eu defnyddwyr yn ddiogel.
Yn ôl i'r brig