Ein hadroddiadau blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg

Cyhoeddwyd: 9 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 9 Hydref 2023

Dyma chweched  adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2022-23) i Gomisiynydd y Gymraeg ar ein gwaith o gydymffurfio â deddfwriaeth Safonau'r Iaith Gymraeg.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn nodi ein gweithgarwch a’n cynnydd mewn perthynas â chydymffurfiaeth â deddfwriaeth y Gymraeg, ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.[1]

Mae ein hymrwymiad at hyrwyddo’r Gymraeg a galluogi cwsmeriaid a dinasyddion i ryngweithio â ni yn eu dewis iaith – boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg - yn parhau’n gadarn. Rydym wedi cyflawni hyn mewn modd sy’n gymesur ac yn gyson â’n dyletswyddau presennol.

Gosodwyd Safonau’r Gymraeg ar Ofcom drwy gyfrwng ei hysbysiad cydymffurfio ym mis Ionawr 2017. Roedd hwn yn cynnwys 141 o Safonau, gan ddarparu’r fframwaith i’n galluogi i gynyddu ein gwaith yn y Gymraeg, gan ystyried effaith ein gwaith llunio polisi ar anghenion siaradwyr Cymraeg ynghyd â ffordd rydym yn cynnal ein gwaith ymchwil i’r farchnad.

Rydym yn croesawu penodiad Efa Gruffudd Jones yn Gomisiynydd y Gymraeg o fis Ionawr 2023 ac roedd yn braf gennym gynnal cyfarfod cyflwyno cychwynnol â hi pan ddechreuodd yn ei swydd. Ar wahân i hynny, cawsom gyfarfod ag Efa ynghyd ag uwch gydweithwyr o’n tîm Cyfathrebu. Rydym o’r farn bod ein rhyngweithgarwch gyda’r Comisiynydd yn bwysig at ddibenion ein datblygiad ein hunain parthed y Gymraeg ac er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg yn gyffredinol, ac edrychwn ymlaen at barhau i ryngweithio i’r perwyl hwn yn y flwyddyn sydd i ddod.


[1] O fis Medi 2022-Medi 2023.

Adroddiad llawn

Adroddiad blynyddol Ofcom i Gomisiynydd y Gymraeg 2022-23 (PDF, 311.3 KB)

Podlediad Cymraeg Bywyd Ar-lein Ofcom

Dyma bumed adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2021-22) i Gomisiynydd y Gymraeg ar ein gwaith o gydymffurfio â deddfwriaeth Safonau'r Iaith Gymraeg.

Mae’r Safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn Gymraeg ers iddynt gael eu cyflwyno yn 2017. Wrth gynhyrchu ein cyfathrebiadau Cymraeg, rydym yn teilwra ein dull i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i’n cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn cael eu cyfleu mewn ffordd ddifyr.

Rydym yn parhau â’n hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg a galluogi pobl i ryngweithio ag Ofcom yn yr iaith o’u dewis – boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi:

Adroddiad llawn

Adroddiad Blynyddol at Gomisiynydd y Gymraeg 2021-22 (PDF, 290.0 KB)

Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2020-21) yn nodi ein cynnydd o ran cydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg.

Mae'r Safonau wedi galluogi Ofcom i gynyddu ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyniad yn 2017. Rydym yn parhau'n ymroddedig i hybu’r Gymraeg a galluogi pobl i ryngweithio ag Ofcom yn eu dewis iaith o’u dewis – boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg. Rydym wedi cyflawni hyn mewn ffordd gymesur sy'n gweddu i’n dyletswyddau presennol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi:

  • penodi Swyddog yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref 2020 i gefnogi'r Uwch Gynghorydd y Gymraeg
  • cyfieithu dros 500,000 o eiriau i'r Gymraeg gan gynnwys cyhoeddiadau allweddol megis Cyfryngau'r Gwledydd Cymru, Datganiad Adolygiad Sgrin Fach Trafodaeth Fawr, Cysylltu'r Gwledydd Cymru, Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC 2020
  • cynhyrchu nifer o fideos yn Gymraeg, yr ydym wedi'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ein fideo cwynion darlledu isod
  • lansio ein hyb materion Cymraeg ar-lein gan gynnwys fideo newydd i hybu ein gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg
  • lansio e-gylchlythyr dwyieithog misol i ddefnyddwyr y gellir tanysgrifio iddo.

Adroddiad llawn

Adroddiad Blynyddol Ofcom i Gomisiynydd y Gymraeg 2020-21 (PDF, 247.0 KB)

Ofcom’s Annual Report for the Welsh Language Commissioner 2020-21 %asset_summary_225551%

Dyma drydydd adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2019-20) ar gydymffurfio â Safonau statudol y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r Safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyno yn 2017.

Mae Ofcom yn credu bod ei rhwymedigaethau mewn perthynas â’r Gymraeg yn eithriadol o bwysig ac yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:

  • cynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol fel Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr: adolygiad pum mlynedd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus; Adroddiad Blynyddol Ofcom; Cysylltu’r Gwledydd Cymru; Cyfryngau'r Genedl Cymru a’r Adroddiad Blynyddol ar y BBC
  • lansio gwefan newydd Gymraeg, Sgrin Fach, Trafodaeth Fawr; ac wedi
  • darparu amrywiaeth o adnoddau pwrpasol yn y Gymraeg, gan gynnwys ein hymgyrch newydd, Cadw’r Cysylltiad
  • darparu nifer o fideos Cymraeg yn cynnwys ein fideo ‘Gwlad Ar-lein -Rwy’n creu.’

Adroddiad Llawn

Dyma ail adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2018-19) ar gydymffurfio â Safonau statudol y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r Safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyno yn 2017.

Mae Ofcom yn credu bod cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yn eithriadol bwysig ac mae’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol fel Adroddiad Blynyddol Ofcom, Cysylltu’r Gwledydd, Cyfryngau'r Genedl, a’r Adroddiad Blynyddol ar y BBC
  • wedi lansio gwefan newydd Gymraeg, Y Gorau o’ch Gwesanaeth
  • darparu amrywiaeth o adnoddau pwrpasol yn y Gymraeg, gan gynnwys ein hymgyrch Neges i Newid’ newydd

Adroddiad llawn

Adroddiad blynyddol Ofcom i Gomisiynydd y Gymraeg (PDF, 294.2 KB)

Mae Ofcom wedi cyflwyno ei adroddiad blynyddol cyntaf (ar gyfer 2017-18) ar gydymffurfio â Safonau statudol y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyno yn 2017.

Mae Ofcom yn credu bod cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yn eithriadol bwysig ac mae’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol fel Cysylltu’r Gwledydd, Cyfryngau'r Genedl, yr Adroddiad Blynyddol a'r adroddiad ar Gynrychiolaeth a Phortreadu ar deledu’r BBC.
  • lansio cyfrif Cymraeg ar Twitter, @OfcomCymraeg, i helpu i ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg; a
  • darparu amrywiaeth o adnoddau pwrpasol yn y Gymraeg, gan gynnwys fideos ac apiau ar gyfer gwirio derbyniad band eang a symudol.
  • Mae ein hadroddiad blynyddol cyntaf i Gomisiynydd y Gymraeg yn ddogfen ddigidol ryngweithiol y gallwch gael gafael arni isod. Dyma fformat sy’n galluogi Ofcom i ddangos ei weithgareddau Cymraeg mewn ffordd weledol a diddorol.

Yn ôl i'r brig