A smartphone with an app on screen that is connecting to various appliances in a modern kitchen

Croesawu Richard Davis, Prif Swyddog Data newydd Ofcom

Cyhoeddwyd: 2 Medi 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Yn ddiweddar gwnaethom groesawu Richard Davis i Ofcom, wrth iddo ymgymryd â'i rôl fel Prif Swyddog Data yn y Grŵp Technoleg, Data ac Arloesi. Roeddem am gael gwybod mwy am Richard felly bu i ni ofyn ambell gwestiwn iddo nawr ei fod wedi ymgartrefu yn y rôl.

Helo Richard, croeso i Ofcom! Dwedwch ychydig wrthym am dy gefndir

Diolch, dwi'n falch iawn o fod yma. Mathemategydd a gwyddonydd drwy hyfforddiant ydw i, gydag angerdd dros ddysgu peirianyddol a phob peth yn ymwneud â data.

Rwyf wedi astudio Mathemateg, Economeg, Bioleg, Cemeg a Rheolaeth i lefelau graddedig/ôl-raddedig, felly fel y gallwch ddyfalu o bosib, mae gennyf angerdd dros ddysgu! Rwyf bob amser wedi ceisio cymhwyso'r hyn rwy'n ei ddysgu a dod o hyd i effeithiau yn y byd go iawn, er enghraifft, datblygodd fy nhraethawd Meistr rwydwaith niwral i ragfynegi pryd y byddai pryfed gleision yn ymosod ar gnydau yn seiliedig ar ddata tywydd, ac fe'i defnyddiwyd i leihau faint o amser y chwistrellwyd cnydau â phryfleiddiaid.

Defnyddiodd fy PhD gyfrifiadura esblygiadol (techneg dysgu peirianyddol) i benderfynu a oedd gan wartheg BSE yn seiliedig ar samplau gwaed, gan alluogi diagnostig cyflymach (a llai marwol o'i gymharu â biopsïau traddodiadol yr ymennydd.

Richard Davis

A ble oeddet ti'n gweithio cyn ymuno ag Ofcom?

Dros yr 11 mlynedd diwethaf, bûm yn gweithio i Grŵp Bancio Lloyds, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Arloesedd, lle sefydlais fodel both-a-braich o wyddonwyr data, arbenigwyr arloesi a thechnoleg i helpu i ddarparu methodolegau data uwch i gyfeirio gwneud penderfyniadau mewn amser real. Rhan allweddol o'r gwaith hwn oedd helpu cydweithwyr ar draws y grŵp i gyrchu'r data yr oedd ei angen arnynt drwy offeryn cydweithio cymdeithasol, gan ddefnyddio llwyfannau dadansoddol yn y cwmwl. Roedd hyn yn gofyn am waith tîm agos gyda'r timau cyflwyno, TG, Risg a Chyfreithiol i sicrhau y gellid troi prototeipio cyflym yn ddatrysiadau'r byd go iawn.

Beth wyt ti'n teimlo'n angerddol drosto?

Fel y gallwch ei weld o fy nghefndir, dwi'n angerddol dros addysg. Dwi'n hynod o chwilfrydig ac eisiau gwybod a dysgu cymaint ag y gallaf. Gorffennais fy mhrentisiaeth weithredol yn 2021 gan ennill MBA, ac eleni, treuliais amser yn dod yn ddeifiwr proffesiynol gyda chymhwyster Meistr Deifio. Rwyf wedi cadw cysylltiadau â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil a chwmnïau technoleg ar draws y byd ac rwy'n siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol ar bopeth yn ymwneud â data ac arloesedd.

Ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r gwaith, hyd yn oed gartref rwy'n dwlu ar dechnoleg y dyfodol, rwyf wedi awtomeiddio fy nhŷ fel y gall popeth gael ei reoli â llais. Gan fy mod yn gîc data, creais banel rheoli i fonitro'r defnydd o offer fel y gallwn awtomeiddio arferion cymaint â phosib. Mae hyn yn profi ei werth gyda'r argyfwng costau byw gan y gallaf reoli'r gwres a thrydan yn llawer mwy gofalus. I'r graddau y gall y tŷ 'gyfrif' pobl i mewn ac allan a diffodd pob dyfais a'r gwres ar ôl i'r person olaf adael.

Pam oeddet ti eisiau ymuno ag Ofcom?

Dwi wastad wedi cael fy nenu at ddatrys problemau mawrion a gwasanaeth cyhoeddus. Edrychodd fy ngraddau Meistr ar ddeinameg aflinol llifoedd carbon i brofi effaith ddynol newid yn yr hinsawdd. Edrychodd fy PhD yn edrych ar ddatblygu prawf ar gyfer clefyd y gwartheg gwallgof ar anterth y pandemig hwnnw. Ymunais â Grŵp Bancio Lloyds ychydig ar ôl yr argyfwng ariannol.

Yn ystod y pandemig Covid-19, dechreuais edrych ar fy mywyd ac roeddwn eisiau gwneud mwy gyda fy nghefndir i helpu i ddatrys rhai o'r problemau mwyaf. Bryd hynny, gwelais bwysigrwydd cyfathrebiadau wrth helpu pawb i gadw mewn cysylltiad, i weithio, a byw. Gwnaeth hynny fy nenu at Ofcom.

Ond wedyn wrth i mi edrych yn fanylach ar gylch gwaith y Mesur Diogelwch Ar-lein, roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fod. Ychydig fisoedd cyn hynny ces i'r sioc o glywed bod fy nith yn ei harddegau'n cael argymhellion cyson o ddelweddau a chyngor ynghylch hunan-niweidio ar ei chyfrif cyfryngau cymdeithasol. Mae'r gwaith y bydd Ofcom yn ei wneud yn y maes hwn mor bwysig i'n cymdeithas ni ac ni allwn beidio â bod yn rhan o hynny.

A beth wyt ti'n gobeithio ei gyflawni yn y rôl yma?

Un o agweddau allweddol fy rôl yw helpu Ofcom i fod yn flaenllaw yn y byd o ran rheoleiddio a ysgogir gan ddata ac arweinwyr meddwl yn y gofod deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a data. Rwyf bob amser wedi ceisio adeiladu cymunedau cryfion o bobl sy'n defnyddio data'n effeithiol yn eu prosesau gwneud penderfyniadau, sy'n golygu ei gwneud hi'n hawdd i bobl gymryd rhan drwy'r dechnoleg, ond hefyd trwy hyfforddiant. Mae cyfle enfawr i ddarparu dulliau dadansoddol datblygedig sy'n helpu Ofcom i gyflwyno ar draws ei chylch gwaith cyfan, ac mae data wrth wraidd ein polisi seiliedig ar dystiolaeth.

Byddai cyflawni'r nodau uchelgeisiol hyn yn golygu datblygu timau amrywiol o bobl sy'n gysylltiedig ag asiantaethau ymchwil, academaidd a llywodraeth ehangach a sicrhau ein bod yn cyflwyno effaith sylweddol sy'n helpu Ofcom i gyflawni ein nodau strategol. Mae hefyd yn golygu adeiladu seilwaith o safon fyd-eang sy'n ein galluogi i gymathu data cymhleth yn gyflym, ei baratoi a'i ddefnyddio gyda thechnegau dadansoddol datblygedig er mwyn darparu mewnwelediadau pwrpasol yn fewnol ac yn allanol.

Heblaw am ddyfeisio ffyrdd newydd o gyfarparu dy gartref â thechnoleg, beth wyt ti'n ei wneud am hwyl?

Mae gen i angerdd dros ffotograffiaeth a theithio (dwi wedi bod i dros 80 o wledydd) a dwi wedi ennill cystadlaethau ffotograffiaeth (gan gynnwys cystadleuaeth deithio clod uchel gan National Geographic). Dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi cyfuno hyn gyda deifio ac erbyn hyn rwy'n mynd â'r SLR i lawr gyda gorchudd tanddwr llawn.

Un o fy hoff brofiadau oedd ar ynys fechan yn y Philipinau o'r enw Malapascua lle bûm yn deffro am 5am bob dydd i dynnu lluniau o fôr-lwynogod mewn gorsaf lanhau wrth i'r haul godi, cyn iddynt ddiflannu i'r glas dwfn.

Yn ôl i'r brig