Heddiw, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau penodiad Tamara Ingram, OBE, a’r Arglwydd Allan o Hallam i Fwrdd Ofcom.
Tamara Ingram OBE
Bydd Tamara Ingram yn ymuno â’r Bwrdd fel Dirprwy Gadeirydd, wedi’i phenodi am gyfnod o bedair blynedd.
Mae Tamara Ingram wedi cael gyrfa helaeth ym maes hysbysebu, marchnata a chyfathrebu digidol yn ymestyn dros 35 mlynedd. Mae wedi dal sawl swydd arweiniol yn y diwydiannau creadigol ac roedd yn Gadeirydd Byd-eang Wunderman Thompson hyd 2020. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Byd-eang J. Walter Thompson, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Grey, a Phrif Weithredwr McCann Worldgroup a Saatchi a Saatchi yn Llundain.
Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Marks and Spencer Group plc ac yn Gadeirydd yr elusen iechyd, Asthma + Lung UK. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Intertek Group plc, Reckitt Benckiser Group plc, a Chwmnïau Marsh & McLennan.
Mae Tamara hefyd yn hyfforddwr busnes sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth. Arferai fod yn Gadeirydd pwyllgor codi arian y Royal Court, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Sage Group plc a Serco Group plc. Dyfarnwyd OBE iddi am ei chyfraniad i dwristiaeth fel Cadeirydd Visit London yn 2012.
Mae Ofcom yn gwneud gwaith hanfodol i sicrhau diogelwch a chynhwysiant y gwasanaethau cyfathrebu rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Bwrdd dan arweiniad yr Arglwydd Grade a’r weithrediaeth dan arweiniad y Fonesig Melanie Dawes.
Tamara Ingram
Rwy’n falch iawn o groesawu Tamara fel ein Dirprwy Gadeirydd newydd. Bydd ei blynyddoedd lawer o brofiad o arwain o fudd enfawr wrth iddi ymuno â mi ac aelodau eraill y Bwrdd i ddarparu cyfeiriad strategol i Ofcom. .
Bydd gyrfa hir Tamara yn y diwydiannau creadigol hefyd yn cryfhau arbenigedd y Bwrdd ymhellach, ac rwy’n hyderus y bydd yn gaffaeliad eithriadol i’r sefydliad
Yr Arglwydd Grade, Cadeirydd Ofcom
Yr Arglwydd Allan o Hallam
Bydd yr Arglwydd Allan o Hallam yn ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol, wedi’i benodi am gyfnod o bedair blynedd.
Mae gan Richard Allan bron i 30 mlynedd o brofiad ym maes polisi cyfathrebu a thechnoleg. Mae wedi bod yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi ers 2010, yn gysylltiedig â phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol i ddechrau. Mae wedi bod yn aelod nad yw’n perthyn i unrhyw grŵp ers 2 Hydref 2024.
Dechreuodd ei yrfa gyda’r GIG fel Datblygwr Systemau. Bu’n AS dros Sheffield Hallam rhwng 1997 a 2005 a bu’n gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Wybodaeth. Yna ymunodd â Cisco Systems fel Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus a gweithiodd yn ddiweddarach yn Facebook (Meta bellach) am 10 mlynedd fel Is-lywydd Polisi Cyhoeddus, lle bu’n arwain dros 70 o arbenigwyr polisi ar draws Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol.
Ar hyn o bryd mae ganddo rolau Anweithredol ar Fyrddau New Automotive a’r Ganolfan Data Cyhoeddus. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys swyddi gydag Arsyllfa Cyfryngau Digidol Ewrop, Tasglu Pŵer y Cyfryngau, ac Ymddiriedolaeth Dinas Sheffield.
Rydw i wedi gweithio gydag Ofcom ac wedi ei edmygu drwy gydol fy ngyrfa ym maes gwleidyddiaeth a’r sector technoleg ac rydw i wrth fy modd yn cael y cyfle i gyfrannu at eu gwaith fel aelod o’r Bwrdd. Rwy’n gobeithio y bydd y profiad sydd gennyf yn helpu Ofcom i gael effaith gadarnhaol sylweddol wrth i’w gylch gwaith ehangu i gynnwys diogelwch ar-lein.
Yr Arglwydd Allan o Hallam
Mae Richard yn dod â phrofiad helaeth ar draws technoleg, telegyfathrebiadau a’r cyfryngau, o yrfa sydd wedi para degawdau mewn bywyd cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd ei gyfraniad i’r Bwrdd yn amhrisiadwy ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.
Yr Arglwydd Grade, Cadeirydd Ofcom
Ynghylch Bwrdd Ofcom
Mae Bwrdd Ofcom yn darparu cyfeiriad strategol i Ofcom a’i weithrediaeth, sy’n rhedeg y sefydliad ac yn atebol i’r Bwrdd.
Mae gan y Bwrdd Gadeirydd anweithredol, aelodau gweithredol (gan gynnwys y Prif Weithredwr), ac aelodau anweithredol.
Mae Bwrdd Ofcom yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis (ar wahân i fis Awst). Caiff agendâu, nodiadau cryno a chofnodion eu cyhoeddi ar ein gwefan yn rheolaidd.
Nodiadau i olygyddion
- Yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus, rhaid datgelu unrhyw weithgareddau gwleidyddol sylweddol a wnaed gan unigolyn a benodir yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Caiff hyn ei ddiffinio fel dal swydd, siarad cyhoeddus, gwneud rhodd a gofnodir, neu sefyll mewn etholiad..
- Mae Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Ofcom yn derbyn £70,000 y flwyddyn.
- Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol Bwrdd Ofcom yn derbyn £42,519 y flwyddyn.