Yn yr erthygl hon rydym eisiau ymdrin â rhai pethau y mae pobl yn ei gamddeall ynghylch sut rydyn ni'n cael ein hariannu. Yn wahanol i'r hyn y mae rhai pobl yn ei feddwl, nid yw Ofcom yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan drethdalwyr na Llywodraeth.
Mae'r rhan fwyaf o arian Ofcom yn dod o ffioedd sy'n cael eu talu i ni gan y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio, i dalu am gost y gwaith a wnawn yn eu sectorau.
Gallai’r rhain fod yn ddarlledwyr, darparwyr telathrebu neu gwmnïau yn y sector post. Rydyn ni'n cyhoeddi’r cyfansymiau hyn yn gyhoeddus, fel y gall pobl weld sut mae ein hariannu'n cael ei rannu rhwng diwydiannau.
Mae ein taliadau'n seiliedig ar refeniw unigol cwmnïau a faint o waith rydym yn ei wneud yn eu meysydd nhw. Mae'n rhaid i gwmnïau dalu'r ffioedd hyn. Mae'n strwythur ariannu sy'n cael ei bennu gan y senedd Brydeinig, a'r un model a ddefnyddir ar gyfer llawer o reoleiddwyr y DU.
Mae ein cap gwariant cyffredinol wedi’i osod fel rhan o Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU.
Rydyn ni'n rheoleiddiwr cwbl annibynnol
Er i ni gael ein hariannu gan ffioedd a delir i ni gan y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio, nid yw hyn yn effeithio ar ein hannibyniaeth. Mae Ofcom yn rheoleiddiwr annibynnol ac rydym yn gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth heb ofn na ffafr. Er bod Ofcom yn atebol i’r Senedd Brydeinig, rydym yn annibynnol ar lywodraeth a’r cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio.
Ar adegau, gall y penderfyniadau a wnawn gael effeithiau ariannol ar y cwmnïau sy'n talu ein ffioedd. Er enghraifft, ein gwaith i ddiogelu defnyddwyr, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr telathrebu sicrhau bod eu rhwydweithiau'n addas ar gyfer y dyfodol.
Ar ben hynny, rydym weithiau’n rhoi dirwyon sylweddol i gwmnïau sy’n methu â chydymffurfio â’n rheolau – gan gynnwys rhai o’r cwmnïau mwyaf rydym yn eu rheoleiddio.
Dyma rai enghreifftiau o ddirwyon rydym wedi’u rhoi'n ddiweddar: dirwy o £10.5m i O2 am godi gormod ar ei gwsmeriaid; dirwy o £5.6m i'r Post Brenhinol am fethu targedau dosbarthu; a dirwy o £1.5m i Sepura am dorri cyfraith cystadleuaeth.
Y ddirwy fwyaf rydym wedi'i roi oedd yn 2018, pan roddwyd cosb ariannol o £50m i’r Post Brenhinol am dorri cyfraith cystadleuaeth.
Mae unrhyw incwm a dderbynnir drwy roi dirwyon yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i Drysorlys EM ac nid yw’n cyfrannu at gostau rhedeg Ofcom.
Ffioedd eraill a delir i ni
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU rydym hefyd yn rheoli'r sbectrwm radio. Adnodd cenedlaethol cyfyngedig yw hwn, ac mae angen ei reoli’n ofalus, gyda rhai bandiau sbectrwm yn cael eu defnyddio at wahanol ddibenion. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu.
Fel rhan o’r rôl reoli hon, rydym yn trwyddedu bandiau sbectrwm penodol i’r gwahanol gwmnïau a sefydliadau sy’n eu defnyddio – a nhw sy’n talu am y trwyddedau hyn.
Rydym yn casglu’r refeniw a godir drwy roi’r trwyddedau hyn, ac yn trosglwyddo’r rhan fwyaf ohono i Drysorlys EM. Gyda chytundeb Trysorlys EM, rydym yn cadw cyfran o’r refeniw i dalu ein costau awdurdodi a rheoli’r defnydd o sbectrwm radio a chynrychioli’r DU yn rhyngwladol, yn ogystal â’n gwaith cystadleuaeth megis ein hastudiaethau marchnad a gwaith gorfodi o dan y Ddeddf Cystadleuaeth.
Yn ogystal â'r ffioedd hyn, rydym yn cael ein hariannu am reoli a dyrannu adnoddau rhifo fel y rhifau ffôn a ddefnyddiwn bob dydd. Er enghraifft, os yw darparwr telathrebu am ddefnyddio bloc o rifau ar gyfer ei gwsmeriaid, mae'n ofynnol iddynt dalu i wneud hyn.
Mae ein model ariannu'n rhoi annibyniaeth a chynaladwyedd ariannol i ni, gan alluogi ni i reoleiddio’n effeithiol y gwasanaethau cyfathrebu y mae pobl yn y DU yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt bob dydd.