

Mae’n bleser gan Ofcom gyhoeddi penodiad Richard Davis yn Brif Swyddog Data newydd.
Mae Richard yn ymuno ag Ofcom o Lloyds Banking Group, lle mae wedi gweithio am 11 mlynedd ac yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Arloesi. Mae Richard ar flaen y gad ym maes dadansoddi uwch, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial – ac mae ganddo brofiad helaeth o ddefnyddio data mawr i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.
Yn ystod ei gyfnod gyda Banc Lloyds, sefydlodd Richard gymuned o wyddonwyr data a datblygodd gysylltiadau agos â sefydliadau academaidd ac ymchwil i ganfod yr arferion gorau.
Mae Richard yn frwdfrydig dros helpu pobl i gael gyrfa ym maes data, ac mae wedi gweithio gyda phrifysgolion adnabyddus a busnesau technoleg newydd i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data. Mae hefyd wedi ffurfio partneriaeth â sefydliadau fel Women in Data a Tech She Can, i annog mwy o fenywod i fyd data.
Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Richard i Ofcom i arwain ein tîm o arbenigwyr dysgu peirianyddol a data. Mae’r defnydd o ddata yn cynyddu ac mae’n helpu i ysgogi gwasanaethau newydd arloesol. Felly, mae’n hanfodol bod gennym ni’r arbenigedd i ddeall yn iawn sut gall data mawr ein helpu i sicrhau canlyniadau gwell i’r DU – o sicrhau bod gan bobl ddewis o wasanaethau fforddiadwy o ansawdd uchel i’w cadw’n ddiogel ar-lein. Daw Richard â hynny’n union, ac rydyn ni’n edrych ymlaen iddo ymuno â ni.
Sachin Jogia, Prif Swyddog Technoleg Ofcom
Mae’n fraint cael ymuno ag Ofcom ar adeg pan mae’r defnydd o ddata’n cynyddu’n gyflym – boed hynny i ddysgu mwy am yr hyn y mae’r cyhoedd eisiau gan eu gwasanaethau darlledu, neu i ddeall pa offer sy’n gweithio i amddiffyn pobl ar-lein. Ac wrth i gwmnïau ddefnyddio mwy a mwy o dechnolegau uwch fel dysgu peirianyddol i gael gwybodaeth o’r data hwnnw, mae’n bwysig bod Ofcom yn parhau i ddatblygu ei allu data ei hun. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae fy rhan a dechrau arni yn y rôl.
Richard Davis
Bydd Richard yn ymuno â Grŵp Technoleg, Data ac Arloesi Ofcom a bydd yn dechrau yn ei rôl ym mis Awst 2022.