draft-industry-guidance-(web)

Ofcom yn penodi Oliver Griffiths yn Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Diogelwch Ar-lein

Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr 2024

Oliver-Griffiths-372x400Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn penodi Oliver Griffiths yn Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Diogelwch Ar-lein.

Mae Oliver yn ymuno ag Ofcom o'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach, sef corff sy'n amddiffyn buddiannau economaidd y DU rhag arferion masnachu rhyngwladol annheg, lle mae wedi bod yn Brif Weithredwr ers 2021. Bu gynt yn Gyfarwyddwr yn yr Adran Masnach Ryngwladol, lle roedd yn gyfrifol am drafodaethau masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Cyn hynny, mae Oliver wedi gwasanaethu fel Llywydd busnes technoleg ariannol newydd, wedi bod yn Bennaeth Materion a Pholisi Llywodraethol Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU, ac wedi dal swyddi yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r Adran Masnach a Diwydiant, yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr corfforaethol yn Freshfields. Ers 2023, mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd Cronfa’r Bartneriaeth Hinsawdd Fyd-eang.

Fel Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Diogelwch Ar-lein, bydd Oliver yn gyfrifol am waith Ofcom i wneud bywyd yn fwy diogel ar-lein, wrth iddo sefydlu a gweithredu’r rheoliadau a fydd yn dal cwmnïau technoleg i gyfrif am flaenoriaethu diogelwch eu defnyddwyr.

Mae gwneud bywyd yn fwy diogel ar-lein yn un o brif heriau ein hoes. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ymuno â’r tîm talentog yn Ofcom, ar yr union adeg y mae’r elfennau cyntaf o drefn ddiogelwch ar-lein newydd y Deyrnas Unedig yn dod i rym.

- Oliver Griffiths

Mae gan Oliver brofiad helaeth o arwain a llywio heriau rhyngwladol cymhleth, a fydd yn werthfawr dros ben wrth i ni roi ein rheoliadau diogelwch ar-lein ar waith. Rwy’n hyderus y bydd yn gaffaeliad mawr i Ofcom, ac rwy’n falch iawn o’i groesawu.

Hoffwn hefyd ddiolch ar ddu a gwyn i Lindsey Fussell, sydd wedi camu i’r rôl dros dro ar ôl wyth mlynedd o wasanaeth eithriadol fel ein Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Rhwydweithiau a Chyfathrebu.

- Fonesig Melanie Dawes,  Prif Weithredwr  

Yn ôl i'r brig